Pobl yn Sir Gâr dal heb gysylltiad â'r we wedi Storm Darragh

Michael CordellFfynhonnell y llun, Michael Cordell
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Michael Cordell ddim yn ffyddiog y bydd ei linell ffôn a'i gysylltiad â'r we yn cael eu hadfer yn fuan

  • Cyhoeddwyd

Bron i bythefnos ers i Storm Darragh daro'r wlad, mae rhai cartrefi'n parhau heb linell ffôn a band eang.

Yn ôl un pensiynwr o bentref Trap yn Sir Gaerfyrddin, mae bron i 100 eiddo wedi eu heffeithio.

Gyda phrinder signal ffôn yn y pentref hefyd, mae'n dweud eu bod yn "gobeithio am y gorau" ac y bydd y llinellau cael eu hadfer erbyn dydd Nadolig.

Mae'r darparwyr, cwmni Openreach, wedi dweud eu bod yn "ymddiheuro am yr anghyfleuster a achoswyd, a hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd".

Wrth ddarganfod digon o signal i allu sgwrsio â BBC Cymru, dywedodd Michael Cordell, 69 o bentref Trap ger Llandeilo nad yw wedi medru cyfathrebu rhyw lawer ers i Storm Darragh daro ar 7 Rhagfyr.

"Cyn belled ag y mae llinellau ffôn a band eang yn y cwestiwn, ry'n ni dal heb bŵer" meddai.

Bron i bythefnos ers i nifer golli eu trydan yn gyfan gwbl, mae'r ffaith eu bod dal heb linell ffôn a band eang yn achos rhwystredigaeth.

"Does gyda ni ddim modd o gyfathrebu. Dy'n ni'n methu defnyddio band eang na'r we o gwbl. Os ydyn ni'n mynd allan am goffi i'r dref, ry'n ni'n gallu defnyddio'r we yn y caffi am ryw hanner awr, ond m'ond i ddal fyny ag e-byst.

"Dy'n ni'n methu cyfathrebu gyda theulu, dy'n ni'n methu defnyddio Whatsapp oherwydd mae e'n dibynnu ar y we, a dyna ni, ry'n ni'n sdyc. Mae'n rhaid i ni yrru lleiafswm o 3.5 milltir i Landeilo neu pum milltir i Rydaman i gael unrhyw fath o signal", ychwanegodd.

'Dim wedi digwydd'

Yn ôl Mr Cordell, fe ddywedodd ei ddarparwr, Openreach, wrtho ar 9 Rhagfyr y byddai'r llinell wedi ei hadfer erbyn 12 Rhagfyr, ond mae'n honni bod "dim wedi digwydd".

Dywedodd fod y cwmni wedi cysylltu wedyn i ddweud mai 17 Rhagfyr fyddai'r dyddiad, ond iddo gael gwybod yn ddiweddarach fod y broblem yn parhau.

"Fe ffoniais i BT ac fe ddywedon nhw wrtha i, 'fe ddaeth peiriannydd allan a dywedodd e fod angen peiriannydd â mwy o brofiad a bod dim y gallai wneud'. Dyna pryd gafodd y dyddiad ei fwrw ymlaen i 27 Rhagfyr, a dyna lle ry'n ni arni ar y foment."

Mae Mr Cordell yn dweud ei fod yn gwybod am "o leiaf 25-30 tŷ" sydd wedi cael eu heffeithio yn y pentref. Mae'n amcangyfrif fod tua 100 o adeiladau i gyd heb linellau ffôn a band eang.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyflenwadau trydan, llinellau ffôn a chysylltiadau band eang eu heffeithio ar hyd a lled Cymru yn ystod Storm Darragh

Mae Mr Cordell yn ofni y gallai'r broblem barhau tu hwnt i 27 Rhagfyr.

"Dwi ddim yn trio bod yn sinigaidd fan hyn, ond gadewch i ni wynebu'r peth, mae'n Nadolig. Mae pobl yn mynd i fod i ffwrdd o'r gwaith, bydd yna lai o beirianwyr" meddai.

"Dwi'n gwybod fod nifer o bobl allan yn gweithio, yn clirio coed ac yn ceisio adfer pŵer, ond ry'n ni'n mynd i gael gweithlu llai dros gyfnod y Nadolig.

"Croesi bysedd, gobeithio am y gorau ac ofni'r gwaethaf, yn anffodus."

'Druan â phawb sydd ddim yn flaenoriaeth'

Ger Tregaron yng Ngheredigion, mae Carol Coltman, 66, hefyd heb linell ffôn na band eang ers Storm Darragh.

Tan yr wythnos hon, roedd mam Carol, sy'n 87 oed ac sydd â nifer o gyflyrau iechyd, yn aros gyda'i merch yng Ngheredigion.

"Fe gymerodd hi dro am y gwaethaf" meddai Carol, wrth ddisgrifio cyflwr ei mam wythnos ddiwethaf.

Gyda'r signal yn brin lle maen nhw'n byw a dim llinell ffôn oedd yn gweithio, dywedodd Carol ei bod wedi gorfod cerdded o amgylch ei gardd er mwyn canfod signal i ffonio ambiwlans.

"Fe ddywedais i hyn i gyd wrth BT ac fe ddywedon nhw eu bod yn ymwybodol o'i chyflyrau iechyd, ac mi fydden nhw'n ein gwneud yn flaenoriaeth. Os mai dyma flaenoriaeth, druan â phawb sydd ddim yn flaenoriaeth" meddai.

Ers 8 Rhagfyr mae Carol yn honni ei bod wedi derbyn sawl dyddiad gan Openreach ynglŷn â phryd gallan nhw ddisgwyl y llinellau'n ôl, y dyddiad diweddaraf yw 23 Rhagfyr.

"Dwi wedi defnyddio fy nata i gyd a dau lwyth ychwanegol o ddata ar fy ffôn wrth geisio mynd trwyddo i BT", meddai Carol.

Ar un achlysur, meddai, "cefais fy nal yn aros 45 munud yn gwrando ar gerddoriaeth Nadolig, doedd hynny ddim yn help".

Mae mam Carol bellach wedi mynd yn ôl i'w chartref yn Basingstoke, ond dyw Carol ddim yn gwybod sut gyflwr sydd ar ei mam, oherwydd nad yw'n gallu ei ffonio. Dywedodd fod yn rhaid i'w mam fynd adref, "er mwyn bod yn saff".

"Mae gen i dri brawd lle mae hi'n byw. Mi fydden nhw'n medru ffonio am ambiwlans heb unrhyw ffwdan oherwydd bod gyda nhw gysylltiad ffôn. Yma, doedd gen i ddim sicrwydd, pe bawn i angen, y byddwn i'n medru cysylltu ag ambiwlans.

"Mae wedi fy ngwneud yn bryderus ac yn rhwystredig iawn nad yw BT i weld yn poeni."

'Rydym yn ymddiheuro'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Openreach: "Gallwn gadarnhau bod gwasanaeth we nifer o gwsmeriaid ledled Cymru wedi cael ei effeithio o ganlyniad i Storm Darragh.

"Tra bod gwasanaeth we y rhan fwyaf o gwsmeriaid wedi cael ei adfer, rydym yn deall bod yna rai sy'n dal i fod heb fand eang.

"Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleuster a achoswyd, a hoffem ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd tra bod ein peirianwyr yn gweithio i gael pawb yn ôl ar-lein."

Pynciau cysylltiedig