Teyrngedau i'r 'athrylith annwyl' Wynne Williams fu farw yn 67 oed

Wynne WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu Wynne Williams yn aelod amlwg o nifer o fandiau pres dros y blynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cerddor a'r tiwtor offerynnau o Ben Llŷn, Wynne Williams fu farw yn 67 oed.

Roedd yn aelod amlwg o nifer o fandiau pres yn y gogledd gan gynnwys Band Porthaethwy a Band Trefor a bu'n hyfforddi bandiau pres Ieuenctid Gwynedd a Môn.

Bu hefyd yn aelod o'r band poblogaidd, Y Ficar a ddaeth i amlygrwydd yn y 1980au.

Dywedodd ei deulu ei fod yn frawd, ewythr a hen ewythr arbennig ac y bydd colled enfawr ar ei ôl.

'Wynne bach yn gymeriad mawr'

Roedd ei ymroddiad i'r gymuned ac i bobl ifanc yr ardal yn "ddi-baid", yn ôl y cerddor a ffrind agos i Wynne, John Glyn Jones:

"Dyma gyfaill bore oes, gyda'r ddau ohonom yn troedio'r un llwybr cerddorol am dros 60 o flynyddoedd.

"Bûm yn cyd-chwarae ym Mand Trefor, a chyd-weithio fel tiwtoriaid offerynnau pres y Gwasanaeth Cerdd, yn ogystal â hyfforddi Bandiau Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn am flynyddoedd lawer.

"Roedd Wynne bach yn gymeriad mawr, yn gornetydd penigamp ac yn gerddor gwych. Roedd bob amser, hyd y diwedd, yn llawn hwyl, chwerthin a hiwmor iach.

"Roedd ei galon yn ei gymuned a'i ymroddiad i blant a phobl ifanc 'gael y cyfle' yn ddi-baid."

Emyr Roberts, Gwil John, Edwin Humphreys a Wynne WilliamsFfynhonnell y llun, Emyr Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Wynne Williams (dde) gyda rhai o aelodau eraill Y Ficar

Dywedodd Emyr Roberts, un o aelodau Y Ficar, wrth BBC Cymru Fyw: "Rhyw 18 mis fuodd Y Ficar yn fand chwe aelod, yna fe benderfynwyd ychwanegu 'horn section' i gyd-fynd â sax Gwil John.

"Dwi'n meddwl i ni ddewis un o'r top pan ymunodd Wynne (trwmped) a Martin Fearn (trombôn) efo ni i greu be ddaeth yn gyfarwydd fel sain unigryw Y Ficar.

"Fel Wynne Trefor oedd llawer o bobl yn ei adnabod ac fe ddaeth yn ffrind yn ogystal ag aelod ffyddlon o'r band.

"Fel dywedodd Jiffar (allweddellau) am Wynne, 'o'r diwedd mae ganddon ni gerddor go iawn yn y band' - sylw oedd mor wir, roedd ychwanegiadau Wynne yn y stiwdio i'r caneuon yn ein syfrdanu'n aml."

Wynne WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Wynne ei anrhydeddu mewn seremoni yn Neuadd Dwyfor y llynedd am ei gyfraniad i fandiau pres dros bron i 60 mlynedd

Ychwanegodd Emyr: "Athrylith annwyl yn llawn direidi yw'r ffordd y gwna i gofio Wynne.

"Pan ddaeth i gydweithio a helpu gyda fy CD 'Allan O Diwn Eto' yn 2017, ar wahân i liw ei wallt, doedd o heb newid dim.

"Roedd y dalent, yr anwyldeb a'r hwyl dal yno. Cwsg yn dawel hen ffrind."

'Dyn y bandiau pres'

Dywedodd y teulu wrth BBC Cymru Fyw: "Dyn y bandiau pres oedd Wynne, a fu'n arwain ac yn chwarae corn, dyma oedd ei fywyd.

"I'w deulu roedd pawb wrth eu bodd yn ei gwmni ac roedd yn uchel ei barch. Roedd yn frawd amhrisiadwy i Eirian, Geraint a Delyth a'r diweddar Arthur ac Yvonne.

"Roedd yn ewythr anhygoel a hen ewythr arbennig iawn i'r plant.

"Mi fydd yn golled enfawr i ni, ac fel teulu hoffem ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad tuag atom."

Pynciau cysylltiedig