Yr Americanwr ddysgodd y Gymraeg o gariad at ganu gwerin

Llun o Joshua Gardner yn sefyll o flaen wal gerrig. Mae'n gwisgo het cowboi ac yn dal gitar.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joshua wedi dysgu Cymraeg ac yn dweud bod y sin werin yn rhan annatod o "ddiwylliant Celtaidd a Chymreig sydd wir mor hyfryd"

  • Cyhoeddwyd

Mae cerddor o'r Unol Daleithiau sydd bellach yn rhyddhau cerddoriaeth Cymraeg yn dweud y byddai'n "dorcalonnus" pe bai'r sin werin yn dioddef.

Mae Joshua Gardner, 38, o Galiffornia'n wreiddiol ac yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Dywedodd mai cerddoriaeth werin oedd un o'r rhesymau iddo ddysgu'r iaith yn y lle cyntaf ond yn bwysicach na hynny "mae 'di bod yn rhan o straeon a hanes Cymru ers canrifoedd".

Fe ddaw ar ôl i adroddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru rybuddio y gallai sin werin Cymru farw o fewn cenhedlaeth heb "ymyrraeth frys".

Llun o Joshua Gardner yn perfformio gan chwarae'r gitar ac harmonica ar yr un pryd.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Josh yn perfformio'n ddwyieithog meddai ac yn edrych ymlaen i ryddhau sengl newydd fis nesaf

Er y pryder diweddar mae Joshua'n credu'n gryf fod yna gynulleidfa o hyd, gan dynnu sylw at rai ardaloedd sy'n parhau i gynnal gigiau gwerin sy'n boblogaidd iawn, meddai.

Fe symudodd i Gymru yn 2022 heb wybod llawer am y wlad, y diwylliant, na'r iaith Gymraeg.

"Pan gyrhaeddais i yma – ges i gymaint o sioc o weld y sin werin.

"Does dim cymaint o ddiddordeb yn America – yn hanesyddol dyw e ddim mor boblogaidd ond yma mae rhai o'r caneuon gwerin yn wych ac mae pobl wir moyn gwrando."

'Y sin Gymraeg a Saesneg hollol ar wahân'

Mae Joshua'n dweud ei fod yn perfformio mwy o ganeuon yn Gymraeg nag yn Saesneg erbyn hyn.

Ond pontio cymunedau yng Nghymru hoffai ei wneud, gan "dyfu gigiau dwyieithog oherwydd yn aml mae'r sin cerddoriaeth Cymraeg a Saesneg hollol ar wahân" meddai.

Ychwanegodd bod "dim rheswm pam na all pobl ddi-Gymraeg fwynhau cerddoriaeth Gymraeg".

"Roedd un band o Wlad yr Iâ, Sigur Rós, yn defnyddio made-up language yn eu cerddoriaeth, ac roedden nhw'n boblogaidd iawn!"

Mae Joshua wrth ei fodd â cherddoriaeth a nawr gan ei fod wedi cwympo mewn cariad gyda'r Gymraeg hefyd, mae'n mwynhau cyfuno'r ddau.

"Wrth i mi ddysgu mwy am hanes a sefyllfa Cymru o'n isio bod yn rhan o helpu cadw'r iaith yn fyw", dywedodd.

Mae'n annog unrhyw ddysgwr i fynd ati i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg gan ei fod yn "ffordd wych o ddysgu unrhyw iaith newydd achos mae'n haws i gofio geiria' newydd os ti'n dysgu nhw mewn cân", meddai.

"Mae mwy i ddysgu iaith na siarad, mae'n rhaid trochi yn y diwylliant ac mae cerddoriaeth yn rhan mor bwysig o hynny."

Ond, aeth ymlaen i bwysleisio bod "angen y gefnogaeth o rywle" ar y diwydiant.

Mewn ymateb i adroddiad Cyngor Celfyddau Cymru fis diwethaf fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod cefnogi treftadaeth fyw gan gynnwys cerddoriaeth draddodiadol yn un o'u blaenoriaethau ar gyfer diwylliant rhwng 2024 a 2030, dolen allanol.

Wrth edrych i'r dyfodol mae Joshua'n llawn brwdfrydedd: "Cyn belled a fi'n defnyddio'r Gymraeg i 'neud rhywbeth creadigol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.