Gallai sin werin fregus Cymru farw mewn cenhedlaeth - adroddiad
"Dydy o ddim yn mynd i allu para am byth heb gymorth" meddai Dafydd Iwan
- Cyhoeddwyd
Mae peryg y bydd sin werin Cymru yn dod i ben o fewn cenhedlaeth "heb ymyrraeth frys", yn ôl adolygiad sydd wedi'i gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae "darnio cymunedol" a diffyg ariannu yn golygu nad yw'r strwythurau addysgiadol a chymunedol bellach yn ddigon i gadw'r sin yn fyw, medd yr adolygiad, er gwaethaf awydd unigolion i gymryd rhan ac i fwynhau'r gerddoriaeth.
Nodir bod Cymru ymhell y tu ôl i'r Alban, Lloegr ac Iwerddon o ran gwariant a seilwaith.
Mae'r diwylliant i gyd yn wirfoddol yn ôl y canwr Dafydd Iwan, a "dyw e ddim yn mynd i allu para am byth heb gymorth".
Dywed Llywodraeth Cymru bod cefnogi treftadaeth fyw gan gynnwys cerddoriaeth draddodiadol yn un o'u blaenoriaethau ar gyfer diwylliant rhwng 2024 a 2030, dolen allanol.
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023
Dywedodd Dafydd Iwan ei bod yn "amlwg pan ewch chi i wylie tramor dach chi'n gweld gymaint mwy mae'r Alban, Iwerddon a Lloegr yn gallu ei wneud, mwy o artistiaid yn gallu teithio ac mae mwy o lefydd arddangos efo nhw - maen nhw'n amlwg yn cael mwy o gefnogaeth".

Dyw cynnwys yr adroddiad ddim yn sioc i Dafydd Iwan a fydd yn perfformio am y tro olaf gyda'i fand yn ystod yr haf
"Mae diwylliant Cymraeg Cymru bron i gyd yn wirfoddol ac yn amatur ac mae angen help arno i ddatblygu.
"Mae'n swnio fel bod lot o bethau'n digwydd - ond maen nhw'n digwydd yn wirfoddol.
"Dydy o ddim yn mynd i allu para am byth heb gymorth. Mae pytiau o arian yn cael eu rhoi ond beth sydd angen yw cyfundrefn sy'n gallu bod yn gefnogaeth i'r gweithgarwch gwirfoddol.
"Colled fawr i Gymru fyddai colli'r gerddoriaeth draddodiadol."

Mae Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, yn cytuno nad yw cerddoriaeth werin wedi cael digon o gefnogaeth
Mae Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru wedi croesawu yr adroddiad, ac mae'n cytuno nad yw cerddoriaeth werin "wedi cael ei chefnogi fel ag y dylai" yn y gorffennol.
Mae Cyngor y Celfyddydau bellach wedi treblu'r buddsoddiad yn y maes ar ôl derbyn yr adroddiad, ychwanegodd.
Fe gyfrannodd 280 o bobl sylwadau i'r adolygiad.
Yn ôl Angharad Wynne a arweiniodd yr adroddiad mae nifer y cerddorion gwerin yng Nghymru yn gostwng bob blwyddyn.
"Roedd 'na bobl yn dweud wrthon ni'n reit glir os na newn ni rywbeth nawr, mae e'n mynd i farw mas o fewn cenhedlaeth.
"Fydd 'na ddim pobl ifanc yn dod trwy'r traddodiad. Mae pethau wedi mynd mor ddifrifol â hynna."

Angharad Wynne, sydd ag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yng ngŵyl ryngwladol Womex, a arweiniodd yr adolygiad
Yn ôl Dafydd Iwan mae 'na ddigon o greadigrwydd a thalent ifanc yng Nghymru ond mae'r rhwystrau yn ormod.
"Yn y byd recordio dan ni'n poeni ers sbel bod yr holl drefn wedi mynd i gyfeiriad pop ar draul y canu traddodiadol.
"Mae'n anodd iawn, iawn bellach cyfiawnhau yn ariannol recordio cerddoriaeth draddodiadol a cherdd dant a phopeth arall sy'n perthyn i'n traddodiad ni.
"Oes mae na le i boeni."
Beth sydd yn yr adolygiad?
Yn yr adolygiad mae:
pryder am y ddarpariaeth ar lawr gwlad, yn enwedig i bobl ifanc a grwpiau o wahanol genedlaethau;
galwad gref am ragor o gyfleoedd i gymryd rhan mewn lleoliadau anffurfiol, lleol;
galwad am i gerddoriaeth draddodiadol fod yn rhan o'r system addysg ffurfiol gan gynnwys ysgolion ac addysg uwch;
cyfeiriad bod cynghorau celfyddydau eraill y DU yn rhoi canran llawer uwch o'u cyllid tuag at gerddoriaeth draddodiadol - Creative Scotland sy'n rhoi'r gyfran uchaf (4.8% yn 2024) a Chyngor Celfyddydau Cymru yr isaf sef 0.66%.
Ymhlith yr argymhellion mae:
cefnogi gweithgarwch rhanbarthol ar lawr gwlad;
meithrin partneriaethau newydd gyda chyrff addysg;
darparu cefnogaeth dargedol i ddatblygu cerddorion;
gwella cyfathrebu a chydlyniant y sector
Mae'n cyfeirio at fodelau llwyddiannus yn yr Alban, Iwerddon a Gwlad Belg a'r potensial i ddysgu gan wledydd eraill.

Mari Mathias yn perfformio yng ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd
Yn ôl Angharad Wynne mae'n bwysig nad yw'r perfformiadau gwerin sydd yna mewn eisteddfodau neu wyliau yn cuddio'r heriau sydd yna i gerddoriaeth draddodiadol Gymraeg.
"Fel Cymry Cymraeg, ma 'na dueddiad i ni fod yn agosach at ein materion gwerin yn enwedig os ydyn ni 'di cael addysg Gymraeg.
"Mae'n bosib yn aml iawn 'da ni ddim yn sylweddoli pa mor fregus yw e."
Dywedodd y gantores werin Mari Mathias fod yna awydd ymhlith pobl ifanc i glywed a chymryd rhan mewn cerddoriaeth werin, ond bod diffyg gwybodaeth am y traddodiad.
"Fi'n lwcus iawn oedd Mam a Mam-gu wedi pasio mlaen yr iaith Gymraeg ac hefyd y straeon, y traddodiad lleol. Ond fi ddim ond yn un person!
"Mae'n bwysig iawn i'w gadw i fynd ac mae'n bwysig iawn ei gefnogi."

Elin Edwards yn perfformio gyda Paid Gofyn
Mae'r adolygiad yn dweud mai'r sin werin ar lawr gwlad yw'r un sy'n peri'r pryder mwyaf.
Prif leisydd y band gwerin Paid Gofyn yw Elin Edwards. Mae hi'n dweud bod y sin werin yn "anodd iawn i dorri fewn iddo".
Dywedodd: "Ti'n gorfod gweithio'n really galed. Sa ti'n meddwl yn enwedig efo miwsig gwreiddiol Cymru bysa fo'n haws.
"Mae o yn teimlo fel rwbath cymunedol iawn, teimlo fel rwbath efo backing gret lleol ond ti ddim yn gweld o mewn canolfannau ac ar lwyfannau mawr.
"Mae'n cael ei weld fel rwbath bach yn twee falle."

Dywedodd Gwilym Bowen Rhys bod cerddoriaeth yn ffordd o arddangos Cymru ar draws y byd
Nododd yr adroddiad fod sin werin draddodiadol yr Alban yn cael 4.8% o gronfa gyffredinol y cyngor celfyddydau yno - 0.66% a gafodd y sîn werin Gymreig.
Dywed y canwr a'r cerddor Gwilym Bowen Rhys bod hyn yn "warthus".
Mae'n ganwr Cymraeg poblogaidd, mae wedi perfformio'n rhyngwladol ac wedi ei enwebu am wobr canwr gwerin y flwyddyn Radio 2.
"Mae'r traddodiad gwerin yn rhan mor annatod ac mor gyfoethog ag unrhyw math arall o gerddoriaeth sydd ganddon ni ac mae e hefyd yn rhywbeth fedri di werthu", meddai.
"Dwi ddim yn licio'r gair "gwerthu" ond ar draws y byd os mae pobl yn gofyn be' 'di miwsig Cymreig neu be sy'n 'neud miwsig o Gymru yn wahanol dyna'r ffordd o arddangos be' sydd gynddon ni."
'Mae'n rhan o'n hunaniaeth ni'
Hwn yw'r ail o dri adolygiad o wariant cyhoeddus yn sectorau'r celfyddydau i'w gomisiynu gan Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, ers iddo ymuno yn 2022, a dywedodd ei fod yn un "pwysig iawn".
"Mae e'n tanlinellu pwysigrwydd cerddoriaeth i ni fel cenedl, mae'n rhan o'n hunaniaeth ni, mae'n bwysig i'n cerddorion ni ac mae angen i ni edrych arno fe yn strategol ac mae angen cefnogaeth.
"Falle bod 'na ddadl bod y sector yma wedi ei thanariannu ryw ychydig.
"Dwi'n meddwl bod y sector ddim wedi cael ei broffesiynoli gymaint pan mae rhywun yn edrych ar be' sydd yn digwydd yn yr Alban a be' sy'n digwydd mewn llefydd fel Iwerddon, yn arbennig.
"Wedi dweud hynny mae'r ddwy wlad yna yn derbyn fwy o nawdd gan eu llwyodraethau nhw.
"Ni bron â threblu'r arian sydd ar gael i gefnogi y maes pwysig yma, ond ar ben hynny mae 'na gyfleoedd eraill yn Cyngor y Celfyddydau i gefnogi.
"Falle neith rhywun ddweud fod e ddim yn ddigon ond mae e'n gam yn y cyfeiriad cywir dwi'n meddwl.
"Mae e'n fwy o wariant hefyd achos mae swyddog arbennig i ddatblygu cerddoriaeth draddodiadol wedi ei leoli o fewn Tŷ Cerdd, dolen allanol.
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogi ein treftadaeth fyw - gan gynnwys cerddoriaeth draddodiadol - yn un o uchelgeisiau ein Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, dolen allanol.
"Nodwn ymateb Cyngor Celfyddydau Cymru a byddwn yn ystyried yr adroddiad yn ei gyfanrwydd."
Ychwanegodd llefarydd bod y llywodraeth yn cefnogi ysgolion drwy'r Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol, sy'n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed i fwynhau gweithgareddau cerddoriaeth, mynediad at offerynnau a gwersi ar draws ystod eang o genres ac arddulliau cerddoriaeth.