Teyrnged i 'dad cariadus' 35 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad

David Emyr Williams Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw David Emrys 'Junior' Williams, 35 oed, yn dilyn gwrthdrawiad â lori ar yr A55 ym Modelwyddan

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych wedi ei ddisgrifio fel "tad cariadus" wrth roi teyrnged iddo.

Bu farw David Emrys 'Junior' Williams, 35 oed, yn dilyn gwrthdrawiad â lori ar yr A55 ym Modelwyddan yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd yr heddlu ar y pryd nad oedd Mr Williams mewn cerbyd adeg y gwrthdrawiad.

Wrth roi teyrnged i Mr Williams, oedd o ardal Cyffordd Llandudno, dywedodd ei deulu: "Roedd David yn fab cariadus i Sharon a David, yn frawd i Gemma a James ac yn dad cariadus i Harry, Henry a Hayden, ac yn gyn-barter i Jenny.

"Ni all eiriau ddisgrifio pa mor drist yr ydym ni, a bydd dy deulu a dy ffrindiau yn dy golli'n arw."

Mae'r ymchwiliad i ganfod achos y gwrthdrawiad yn parhau.

Mae swyddogion yn parhau i apelio am wybodaeth ynghylch y gwrthdrawiad a ddigwyddodd yn ystod oriau mân y bore ar 15 Ebrill, ger gwasanaethau Parc Cinmel.

Cafodd dyn 62 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae wedi ei ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau'n parhau.

Pynciau cysylltiedig