Llwyddiant tafarndai cymunedol Cymru - cynnydd o 400% mewn degawd

Criw Tafarn Y Vale, Dyffryn Aeron, wnaeth agor fel tafarn gymunedol yn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae pedair gwaith yn fwy o dafarndai cymunedol yng Nghymru nag oedd yna ddegawd yn ôl.
Mae'r twf yn adlewyrchu nifer o ymgyrchoedd sydd wedi ennyn sylw'r cyhoedd yn ddiweddar wrth i gymunedau geisio prynu eu tafarn lleol.
Ond wrth roi cyngor i unrhywun sydd awydd dechrau menter, mae 'na alw am fwy o gymorth gan fod cymaint o waith ynghlwm ag unrhyw brosiect o'r fath.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi'r sector lletygarwch drwy gynlluniau trethi a bod grantiau ar gael i helpu tafarndai cymunedol.
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd24 Medi 2024
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2018
Mae gan Gymru hanes hir o dafarndai cymunedol gyda Thafarn y Fic yn Llithfaen, gafodd ei sefydlu yn 1988, bellach yn adnabyddus fel yr un hynaf yn Ewrop.
Yn ddiweddar mae cymunedau wedi dod at ei gilydd i achub Tafarn y Ring, Llanfrothen, Yr Eagles, Llanuwchllyn, a'r Ty'n Llan, Llandwrog sy'n rhan o batrwm ehangach yn ôl Plunket UK, elusen sy'n cefnogi cymunedau gwledig i sefydlu busnesau.
Dywedodd Diane Cameron, rheolwr busnes cymunedau gyda'r elusen, wrth BBC Cymru Fyw: "Mae nifer y busnesau sy'n eiddo i'r gymuned yn y DU bron wedi dyblu yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
"Tafarndai cymunedol yw'r math sy'n tyfu gyflymaf ac, yng Nghymru yn unig, mae eu nifer wedi codi pedair gwaith dros yr un cyfnod."

Tafarn gymunedol hynaf Ewrop - Y Fic, Llithfaen
Yn ôl Plunkett UK mae 24 tafarn cymunedol yng Nghymru bellach, o'i gymharu â chwech yn 2015, ac mae 18 arall ar y gweill.
Mae'r elusen yn diffinio tafarn gymunedol fel un lle mae aelodau'r gymuned yn berchen ac yn rheoli eu tafarn leol.
Mae gan yr aelodau hawliau cyfartal dros sut mae'r busnes yn cael ei redeg ac mae'r dafarn yn ceisio cynnig gwasanaethau a chyfleusterau tu hwnt i dim ond cynnig bwyd a diod.
Dydy'r ffigurau ddim yn cynnwys mentrau eraill fel tafarndai sydd wedi eu prynu gan grŵp bychan o bobl leol neu glybiau cymdeithasol sydd ddim yn berchen i'r gymuned.
Mae'r twf yn groes i'r sefyllfa gyda thafarndai yn gyffredinol gydag ystadegau diweddar yn awgrymu bod dros 6% o dafarnau wedi cau yng Nghymru ers 2019.
Dywedodd Iwan Thomas, cadeirydd Tafarn y Vale, Felin-fach, bod y tafarndai cymunedol yn llenwi'r gofod pan mae tafarndai cyffredinol yn cau.
"Yn amlwg mewn ardaloedd gwledig dyna sy'n digwydd," meddai.
"Os chi eisiau cynnal unrhyw fath o dafarn dyma'r unig ffordd - dyw'r ffordd draddodiadol ddim yn gynaliadwy."
Ychwanegodd eu bod nhw wedi creu'r cwmni yn ystod y pandemig pan oedd les y dafarn yn dod i ben a phryder y byddai'r gymuned yn colli'r adnodd fel sydd wedi digwydd mewn pentrefi cyfagos.

Dywedodd Iwan Thomas o Dafarn y Vale: "Dyw'r ffordd draddodiadol ddim yn gynaliadwy"
Tafarn gymunedol arall sydd wedi agor dros y ddegawd ddiwethaf ydi Tafarn yr Heliwr, Nefyn.
"Mae gan bawb reswm gwahanol i ddechrau menter fel hyn ond un fi oedd bod hi'n beth da cael pyb roedden ni'n gallu cerdded iddo fo," meddai Rhodri Evans, cadeirydd y pwyllgor.
"Roedd y dafarn wedi bod yn wag ers degawd ac yn edrych yn ddigalon.
"Roedd 'na ddirywiad yn y pentref - siopau wedi eu troi'n dai ac roedd ofn y byddai rhywun o'r tu allan yn prynu hwn a'i droi'n fflatiau neu gael ei brynu gan fragdy mawr.
"Be' wnaethon ni ddysgu ar hyd y ffordd ydi bod asedau sy'n cael eu perchnogi gan y gymuned yn allweddol."

Tafarn yr Heliwr - cyn ac ar ôl adnewyddu wedi iddi agor ei drysau fel tafarn gymunedol yn 2021
Fel cymaint o dafarndai o'r fath mae bellach yn fwy na lleoliad i gael peint, ac yn cynnig bwyd, llety ac yn ganolfan gweithgareddau i'r gymdeithas.
Mae'r trosiant wedi treblu ac maen nhw'n cyflogi wyth o bobl, gan gynnwys dau reolwr a chwech yn rhan amser.
Dywedodd Mr Evans fod y dafarn yn dod â manteision mawr i'r ardal gan gynnwys cryfhau'r economi a'r gymdeithas ac yn hwb i'r iaith Gymraeg.
Ond mae'n pwysleisio bod y cyfan yn wirfoddol a bod angen pwyllgor egnïol efo sgiliau gwahanol.
"Mae'n gallu bod yn stressful a boring," meddai.

Mae'r Heliwr yn ganolbwynt pwysig i'r gymuned, gan gynnwys dod â cherddoriaeth byw i gefn gwlad - fel Steve Eaves a Rhai Pobl yn ddiweddar
Aeth Mr Evans ymlaen i ddweud: "Wythnos diwethaf ro'n i'n trwsio toiled, ac ar ddydd Sadwrn ro'n i yno am ddwy awr yn trwsio giât.
"Mae'n ddigon hawdd dechrau menter ond mae'n anodd ei gadw i fynd.
"Mae'n grêt pan 'da ni'n mynd lawr yna a ti'n gweld bod o'n gweithion dda a phan ti'n creu rhywbeth o safon uchel ac mae pawb yn ei werthfawrogi.
"Felly mae'n ffantastig bod pobl yn cymryd drosodd eu tafarn leol ond mae angen cefnogaeth."
Cyngor ar ddechrau tafarn cymunedol
Ei gyngor i unrhywun sy'n meddwl dechrau ar fenter ydi cael gweledigaeth glir o sut fath o le maen nhw eisiau ei greu a chofio o'r cychwyn mai busnes ydi o.
"Sut wnaiff o weithio a sefyll ar ei ddwy droed heb help?" meddai.
"Roedd ganddon ni ddwy flynedd o grantiau i dalu staff, ac wedyn roedden ni ar ben ein hunain.
"Mae'r Plu yn Llanystumdwy efo beer garden mawr mewn pentref neis - felly maen nhw'n gallu gwerthu hwnna.
"Mae'r Heliwr yn pyb tref - felly mae'n wahanol, ac mae be' 'da ni'n gallu cynnig yn wahanol."
Un o'r rheiny ydi llety bunkhouse, sy'n boblogaidd gyda cherddwyr gan fod llwybr yr arfordir gerllaw.
Yn Nhafarn y Vale, sydd ond wedi bod yn masnachu ers 2022, mae gwaith adnewyddu ar y gweill cyn iddyn nhw wireddu rhai cynlluniau busnes.
"Roedd y lle'n arfer bod yn adnabyddus fel lle i gael cinio dydd Sul da," meddai Iwan Thomas.
"A'r adborth ni'n gael gan bobl leol ydi 'pryd chi'n dechrau gwneud bwyd eto'. Ni wedi gwneud pop-yps, a'r ymateb wedi bod yn dda."
Dywedodd Rhodri Evans fod angen mwy o drafod rhwng tafarndai a chwmnïau cymunedol i weld os oes bosib cyd-weithio - er enghraifft i fargeinio am brisiau is os yn prynu gwasanaethau ar y cyd.
A gyda gwirfoddolwyr y cwmnïau cymunedol yn helpu gwireddu rhai o amcanion llywodraethau lleol a chenedlaethol o gryfhau'r economi, cymdeithas a'r Gymraeg mae angen ymchwil i ddysgu mwy am werth y mentrau.
"Mae tafarndai cymunedol yn phenomenon, ond 'da ni angen gwybod mwy am faint o effaith mae'n gael," meddai.
Cefnogaeth a grantiau ar gael
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cefnogi'r sector manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda biliau treth ers chwe blynedd, ar gost o £78m.
Maen nhw hefyd wedi rhoi £1bn o gefnogaeth i leihau trethi busnes ers 2020-21 yn ogystal â chynlluniau ardrethi parhaol i fusnesau sydd werth £250m bob blwyddyn.
Ychwanegodd: "Drwy ein prosiect Perthyn, rydym hefyd yn darparu cefnogaeth ar lawr gwlad ar gyfer prosiectau dan arweiniad y gymuned mewn cymunedau Cymraeg.
"Mae cefnogaeth ariannol ar gael drwy gynllun grantiau bach Perthyn, ac ar hyn o bryd rydym wedi darparu bron i £80,000 i dafarnau cymunedol mewn cymunedau Cymraeg."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.