Troseddwyr yn elwa drwy werthu teganau plant 'ffug a pheryglus'

Mae un fam wedi dweud wrth y BBC bod y nwyddau ffug a brynodd i'w mab wedi dechrau cwympo'n ddarnau o fewn oriau
- Cyhoeddwyd
Mewn cornel anhysbys o Lundain, mae rhes o faniau'r heddlu a thryciau gwag yn rhwystro llif arferol traffig amser cinio.
Maen nhw yma i gasglu doliau Labubu ffug - miloedd ohonynt.
Ar ôl wythnosau o waith, mae ymgyrch cudd-wybodaeth a ddechreuodd mewn siop yn ne Cymru wedi arwain swyddogion Safonau Masnach at ddrysfa o ystafelloedd cudd uwchben siop ym mhrif ddinas Lloegr.
Mae swyddogion yn amcangyfrif bod gwerth miliynau o bunnau o gynnyrch ffug wedi'u casglu yn yr adeilad, ond yr hyn sy'n sefyll allan yw'r casgliad o ddoliau Labubu - teganau poblogaidd sydd wedi denu sylw'r byd ar TikTok.

Cafodd miloedd o ddoliau Labubu ffug eu cymryd o'r adeilad dan sylw gan swyddogion
Yn ôl Forbes, mi oedd poblogrwydd doliau Labubu wedi cynyddu incwm cwmni Pop Mart i £1.33bn ($1.81bn) y llynedd.
Mae'r teganau yn apelio i blant ac oedolion, gyda rhai'n dweud wrth BBC Cymru eu nhw bod wedi aros am oriau neu wedi teithio ar draws y wlad i geisio cael gafael ar un oedd ddim yn ffug.
Fodd bynnag, mae negeseuon sydd wedi eu gweld gan y BBC hefyd yn awgrymu y gallai pobl fod yn prynu cannoedd o gynhyrchion dilys ar y tro, gyda'r awdurdodau'n adrodd bod "llif" cyson o nwyddau ffug yn dod i mewn i'r farchnad yn ddiweddar.
Dros y misoedd diwethaf mae miloedd o'r teganau wedi eu darganfod ym mhorthladdoedd y DU.
Pryder am blant yn tagu
Mae'r swyddogion yn yr ystâd ddiwydiannol Llundain yn credu bod y doliau hapus eu gwedd yn cuddio cyfrinach dywyllach.
"Mae'r pen yn dod i ffwrdd. Bydd y traed yn cael eu tynnu i ffwrdd," eglurodd Rhys Harries o Safonau Masnach, wrth i un ddisgyn yn ddarnau yn ei ddwylo.
Gwelodd ddoliau fel hyn gyntaf ar ôl cyrch mewn siop bron i 200 milltir i ffwrdd yn Abertawe, cyn i'r ymchwiliad eu harwain yn ôl i Lundain.
"Rydw i wedi dod o hyd i rai mewn bagiau lle mae eu llygaid yn dod i ffwrdd, bydd eu dwylo'n dod i ffwrdd."
Mae tîm Mr Harries yn defnyddio tiwb plastig, sydd yr un siâp â gwddf plentyn, i fesur pa mor beryglus yw'r nwyddau.
"Bydd y [rhannau] hyn i gyd yn mynd yn sownd ac yna, o bosib, yn achosi i'r plentyn dagu," meddai.

Yn ôl swyddogion, roedd gan nifer o'r eitemau ffug lygaid nad oeddent wedi'u gludo yn gywir
Dywedodd Jade, sy'n fam i un, ei bod yn cytuno "100%" bod y doliau ffug yn peri risg o dagu ar ôl iddynt ddisgyn yn ddarnau yn fuan ar ôl iddi eu rhoi i'w mab.
Roedd y fam 34 oed o Gaerffili yn gwybod ei bod wedi prynu doliau ffug - sydd weithiau'n cael eu galw'n 'Lafufus' - ar gyfer pen-blwydd ei mab Harri yn chwech oed gan na allai gyfiawnhau cost y doliau swyddogol.
Ond roedd hi'n teimlo bod rhaid cael un i Harri ar ôl i'w holl ffrindiau gael rhai.
Mi oedd Jade wedi dod o hyd i rai ffug am ychydig dros £10, o'i gymharu â rhai swyddogol sy'n costio £80.
Fodd bynnag, ychydig oriau yn unig ar ôl rhoi'r anrheg i Harri mi oedd y tegan wedi dechrau torri yn ddarnau.
Pan oedd Harri yn chwarae gyda'i degan newydd, daeth un o'r darnau yn rhydd ac fe welodd Jade y darn hwnnw yn ei geg.
Dywedodd "yn ffodus", fod ei mab yn ddigon hen i ddweud wrthi am ei degan yn cwympo'n ddarnau, ond rhybuddiodd y gallai pethau fod yn wahanol gyda phlant iau.
Troseddwyr yn 'rhuthro' i ymateb i boblogrwydd
Yn ôl y Swyddfa Eiddo Deallusol, mae troseddwyr yn rhuthro i gael nwyddau ffug i'r farchnad yn aml yn arwain at ddefnyddio deunyddiau peryglus.
"Nwyddau ffug yw'r ail ffynhonnell incwm troseddol fwyaf ledled y byd, yn ail yn unig i fasnachu cyffuriau," meddai Kate Caffery, dirprwy gyfarwyddwr cudd-wybodaeth a gorfodi'r gyfraith gyda'r swyddfa.
"Mae sefydliadau troseddol yn elwa wrth ymateb yn gyflym i dueddiadau a gwneud y mwyaf o arian y maen nhw'n gallu.
"Felly dyna pam rydyn ni'n ei weld yn digwydd mor gyflym ac yn anwybyddu pryderon diogelwch yn llwyr."

Dywed Kate Caffery, o'r Swyddfa Eiddo Deallusol, mai ffugio nwyddau yw'r ail ffynhonnell incwm troseddol fwyaf ledled y byd
Gwrthododd Ms Caffery honiadau fod y cynhyrchion ffug hyn wedi'u gwneud yn yr un ffatrïoedd neu'n defnyddio'r un deunyddiau â'r peth go iawn, gan ychwanegu y "gellid eu gwneud o unrhyw beth".
Mae'r doliau yn amrywio o rhai israddol i rai peryglus, gan gynnwys "plastigau gwenwynig, cemegau, rhannau bach nad ydynt wedi'u cysylltu'n iawn a all wedyn achosi perygl o dagu".
Er bod Labubus ffug yn dal yn gymharol newydd i'r farchnad, mae ymchwilwyr yn gwybod o achosion blaenorol yn ymwneud â theganau ffug y gellir eu gwneud gyda chemegau gwaharddedig, gan gynnwys rhai sy'n gysylltiedig â mathau o ganser.
Mae awdurdodau'n dweud y gellir dilyn olrhain y rhan fwyaf o gynhyrchion ffug, gan gynnwys Labubus, i Tsieina, Hong Kong neu Dwrci a bod pobl yn cael eu rhybuddio i gadw llygad am brisio "rhy dda i fod yn wir" neu becynnu sy'n teimlo'n rhad ac yn fregus.

Prynodd Meg Goldberger ei Labubus gan werthwr a oedd wedi bod yn archebu cannoedd ar y tro o Pop Mart
Mae gan Meg Goldberger, 27, tua 250 o deganau moethus Jellycat, ochr yn ochr â'i chasgliad newydd o 12 dol Labubu.
"Y mwyaf yr oedd pobl yn siarad amdanyn nhw, a'r mwyaf anodd aeth hi i gael nhw, y mwyaf o'n i eu hangen. Dyna pam mae gen i 12 nawr," meddai.
Fodd bynnag, yn gynnar iawn yn y broses o chwilio am ddoliau swyddogol, dywedodd Ms Goldberger ei bod wedi sylweddoli bod cael gafael ar y teganau go iawn yn mynd i fod yn anodd.
Dywedodd ei bod wedi treulio tua 12 awr dros sawl diwrnod yn aros am lif byw siop Pop Mart ar TikTok, lle mae Labubus yn cael eu rhyddhau i'w gwerthu ar amser penodol, yn union fel tocynnau gig.
"Yn y gorffenol roedd y tegannau yn gwerthu allan o fewn munud. Nawr mae e mwy fel dwy eiliad yn llythrennol. Allwch chi ddim eu cael nhw," meddai.
Yn lle hynny, dewisodd ddod o hyd i rywun oedd yn eu hailwerthu ar-lein, gan ddysgu hefyd pam y gallent fod wedi bod yn gwerthu allan mor gyflym.
Pan ofynnodd ailwerthwr eBay am brawf bod y gyfres benodol yr oedd hi â diddordeb ynddi yn ddilys, anfonwyd "sgrinlun o'r hyn a allai fod wedi bod fel bron i 200 o archebion o Labubus" at Ms Goldberger.
"Bydd y bobl hyn yn eistedd gartref yn hacio'r gwefannau ac yn eu prynu'n swmp, a dyna pam maen nhw'n mynd mor gyflym. Yna byddan nhw'n eu hailwerthu."
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2023
Ychwanegodd Mr Harries y byddai detholiad o Labubus ffug yn cael eu cludo o Lundain yn ôl i Abertawe i'w defnyddio fel tystiolaeth.
Bydd y gweddill yn cael eu storio mewn lleoliad cyfrinachol nes bod yr achos llys wedi gorffen, cyn cael eu hailgylchu neu eu dinistrio.
"Roedd y rhain yn mynd i bobman," meddai.
"Roedd llyfrau anfonebau gyda nhw ac roedden nhw'n mynd ledled y Deyrnas Unedig. Mae'n fater cenedlaethol."
Mae Pop Mart wedi cael cais am ymateb.