Sgamio: 'Byth yn meddwl byddai'n digwydd i fi'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gollodd dros £20,000 i sgamwyr wedi rhannu ei stori, gan rybuddio y gallai ddigwydd i unrhyw un.
Fe gafodd Eleri Davies £20,500 ei ddwyn trwy dwyll ym mis Mehefin eleni.
Daw wedi i adroddiad ddangos bod 1.4 miliwn o achosion o dwyll wedi'u cofnodi yn y DU yn ystod chwe mis cyntaf 2023.
Yn ôl Steve Bumford o dîm Diogelu Adran Safonau Masnach Cyngor Bro Morgannwg, mae ein technoleg wedi ei gwneud hi'n llawer haws i sgamwyr.
Galwad gan y 'banc'
Tra ar alwad ffôn gyda'r gwaith, roedd rhywun wedi dod at ddrws tŷ Eleri Davies o gwmni dosbarthu, ond heb adael dim byd iddi.
Yn hwyrach ymlaen, fe gafodd neges destun yn dweud bod gyrrwr o'r cwmni wedi methu â gadael parsel iddi, ac iddi glicio ar linc i wefan er mwyn trefnu i ailddosbarthu'r eitem, ac felly dyna wnaeth hi.
Ond fe sylweddolodd wedyn mai dod 'nôl rhywbeth, nid gollwng parsel, oedd y person a ddaeth a y drws, ac felly fe feddyliodd Eleri'n syth mai sgam oedd o.
Edrychodd ar ei chyfrif banc ond doedd dim wedi'i ddwyn.
Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, fe gafodd alwad ffôn oddi wrth yr hyn roedd hi'n meddwl oedd ei banc.
Dywedon nhw eu bod yn amau ei bod wedi clicio ar linc sgam a bod angen mynd drwy'r broses o wirio'i chyfrif.
Fe dreuliodd oriau ar y ffôn yn trafod ei chyfrif, ac fe rybuddion nhw bod ei chyfrifon eraill o bosib mewn perygl gan fod y sgamwyr wedi gallu cael mynediad i'w ffôn.
Roedden nhw am basio ei manylion at y Financial Conduct Authority fel eu bod nhw'n gallu delio gyda'i chyfrifon eraill.
Fe roddwyd enw, rhif ffôn a manylion gwefan iddi, a soniwyd wrthi am wirio'r rhif ffôn cyn ateb.
Fe wnaeth Eleri hynny, ond yn anffodus, y sgamwyr oedd ar yr alwad hon eto, wedi iddyn nhw allu creu clôn o'r un rhif i edrych fel un dilys.
Yn y diwedd, ar ôl tipyn o bwysau, fe gafodd ei pherswadio i drosglwyddo arian o'i chyfrif i "gyfrif diogel".
'Bydden i byth yn cwympo am hwnna'
"Tan bod e'n digwydd i chi, chi'n meddwl 'bydden i byth yn cwympo am hwnna', ond mae mor hawdd," meddai Eleri ar Dros Ginio.
"Maen nhw'n glyfar iawn. Alla i ddim rili disgrifio fo mewn unrhyw ffordd 'na maen nhw'n cymryd drosto dy feddwl di. Maen nhw mor manipulative.
"Maen nhw'n rili devious. Maen nhw'n dda iawn yn beth maen nhw'n 'neud."
Fe wnaeth hi drosglwyddo £20,500 i gyfrif banc "diogel".
Munudau ar ôl iddo ddod oddi ar y ffôn, fe ffoniodd y Financial Conduct Authority gan ei bod wedi disgwyl galwad arall, ond roedd y swyddfa ar gau ers rhai oriau.
Dyna pryd sylweddolodd mai sgam oedd y cyfan.
'Byth yn meddwl byddai'n digwydd i fi'
"O'n i byth yn meddwl byddai'n digwydd i fi, ond mae wedi," meddai.
Mae Eleri am i bawb fod yn ymwybodol o sgamiau soffistigedig y lladron yma, ac yn rhybuddio y gall ddigwydd i unrhyw un, nid yn unig i bobl hŷn, bregus.
"Mae'n gallu digwydd i unrhyw un. Dwi'n credu bod pobl hŷn yn llai tebygol o gael yr apps 'ma ar y ffôn, mae popeth mor hawdd i'w wneud yn syth."
Y cam nesaf oedd ffonio'r banc yn syth a dechrau'r broses o ymchwilio'r trosglwyddiad, ffonio'r Heddlu ac UK Action Fraud.
Mae'r twyll wedi cael effaith emosiynol arni, ac yn sicr wedi gadael ei ôl.
"I ddechrau, chi'n teimlo'n embarrassed bod o 'di digwydd i chi. A chi ddim moyn siarad efo neb amdano fe. Mae'n gadael chi'n deimlo'n reit vulnerable."
Dwyn £580m trwy dwyll
Dydy stori Eleri ddim yn un anghyffredin.
Fe gafodd rhywun ym Mhrydain ei dwyllo bob 12 eiliad yn ystod chwe mis cynta'r flwyddyn, yn ôl ffigyrau asiantaeth UK Finance.
Mae'r adroddiad yn dangos bod 1.4 miliwn o achosion o dwyll wedi'u cofnodi yn ystod chwe mis cyntaf 2023.
Roedd troseddwyr wedi llwyddo i ddwyn £580m trwy dwyll yn ystod y cyfnod hwn - ond bod y banciau wedi atal dros £650m rhag mynd i'w dwylo nhw.
Sgams rhamant neu ddwyn manylion adnabod (ID) sydd fwyaf ar gynnydd.
Mae Eleri'n dweud ei bod hi'n lwcus iawn bod ei ffrindiau a theulu wedi bod mor gefnogol.
Mae hi dal yn mynd drwy'r broses o geisio cael yr arian yn ôl, ond tydi hi ddim yn obeithiol gan fod y banc yn dweud nad oes dim y gallan nhw ei wneud oherwydd mai Eleri ei hun drosglwyddodd yr arian.
"Pan chi'n clywed faint o bobl sy'n cael eu sgamio, ac ers i hyn ddigwydd i fi, fi di gwneud lot o ymchwil i weld pa mor aml mae'n digwydd, a dwi wir yn meddwl dyle'r banciau na wneud lot mwy i helpu pobl, ond hefyd i stopio hyn yn y lle cyntaf."
Mae Eleri'n credu dylai banciau rewi unrhyw drosglwyddiadau mawr, anarferol.
Ei chyngor yw "peidiwch clicio ar unrhyw linc, ar unrhyw neges destun neu ar ebost - anwybyddwch nhw, a pheidiwch ateb y ffôn i unrhyw rif chi ddim yn ei 'nabod".
Sgamwyr yn soffistigedig
Yn ôl Steve Bumford o dîm Diogelu Adran Safonau Masnach Cyngor Bro Morgannwg, mae ein technoleg wedi ei gwneud hi'n llawer haws i'r sgamwyr yn anffodus.
Yn ogystal â gallu gwneud sgams mwy soffistigedig, maen nhw hefyd yn targedu nifer o'r apiau ry'n ni'n eu defnyddio'n ddyddiol megis Facebook ac Instagram.
Ers Covid, meddai, mae cynnydd wedi bod mewn sgamiau rhamant lle mae'r sgamwyr yn chwarae ar wendidau unigolion sy'n unig ac yn chwilio am berthynas neu gwmni.
Mae phishing hefyd yn ffordd mae sgamwyr yn dal pobl.
Maen nhw'n gwybod bod nifer er enghraifft yn defnyddio Amazon i archebu nwyddau, felly maen nhw'n anfon miloedd o ebyst gan obeithio y bydd rhai pobl yn clicio ar linc, a thrwy hynny, ganfod eu hunain yn colli arian, neu'n gadael i'r sgamwyr gael mynediad i'w cyfrifiaduron neu gyfrifon banc.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2021