Terry Griffiths; glöwr, postman a phencampwr snwcer y byd
- Cyhoeddwyd
Daeth y cyhoeddiad dros y penwythnos bod Terry Griffiths wedi marw yn 77 oed.
Roedd yn enwog fel chwaraewr, hyfforddwr ac yn fwy diweddar, sylwebydd.
Yn gyn-bostman ac arweinydd bws, trodd Griffiths yn broffesiynol ym 1978 a daeth yn bencampwr snwcer y byd ar y cynnig cyntaf.
Fe gurodd Dennis Taylor yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd yn 1979, y Meistri yn 1980 a Phencampwriaeth y DU yn 1982.
Dyma olwg ar ei fywyd mewn lluniau.

Cafodd Terry Griffiths ei eni yn Llanelli ym 1947, cafodd yrfa amatur hir a llwyddiannus yn yr 1970au.
Enillodd Bencampwriaeth Amatur Cymru yn 1975 a Phencampwriaeth Amatur Lloegr yn 1977 a 1978 cyn troi'n broffesiynol yn 1978.
Uchod mae llun o Griffiths yn diddanu cynulleidfa yn ystod ei ddyddiau amatur, tua 1970, gan wisgo trwsus nodweddiadol o'r cyfnod.

Yma mae Terry Griffiths gyda Dennis Taylor cyn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd, 1979.
Enillodd Terry y rownd derfynol o 24 ffrâm i 16.
Ar y ffordd i'r rownd derfynol fe gurodd chwaraewr enwog arall o Ogledd Iwerddon, Alex 'Hurricane' Higgins, yn rownd yr wyth olaf.

Ymddangosodd Griffiths ar y rhaglen boblogaidd i blant, Blue Peter, yn 1979.
Cyn troi'n broffesiynol roedd yn löwr ym Mhontarddulais pan oedd yn 15 oed, yna'n arweinydd bws ac yn bostman, cyn mynd i weithio ym maes yswiriant.

Yn 1980 fe enillodd Terry Griffiths Bencampwriaeth Meistri Benson & Hedges, fel yr oedd ar y pryd, gan guro Alex Higgins yn y rownd derfynol.
Y flwyddyn ganlynol fe gollodd Griffiths yn erbyn yr un gwrthwynebydd. Mae'r llun uchod o ffeinal 1981.

Griffiths gyda llu o enwogion y gêm ar y rhaglen deledu Pot Black yn 1984 - Willie Thorne, Ray Reardon, Steve Davis, Ted Lowe, Silvino Francisco, Dennis Taylor a Tony Meo yn eu plith. Fe enillodd Griffiths ar y sioe y flwyddyn honno.

Terry Griffiths gyda Steve Davis a Tony Meo, 11 Ebrill 1984.
Ni lwyddodd Griffiths i guro Davis mewn saith gêm Crucible, ond roedd y ddau chwaraewr yn gymeriadau amlwg yn ystod oes aur snwcer.

Y chwaraewyr Willie Thorne, Tony Meo, Terry Griffiths, Dennis Taylor a Steve Davis yn cael hwyl gyda'r perfformwyr Chas 'n' Dave ym mis Mawrth, 1986.
Roedd y ddeuawd o Lundain yn rhyddhau cân newydd o'r enw 'Snooker Loopy'.

Roedd y chwaraewyr yma'n cael eu adnabod fel The Magnificent Seven y cyfnod ac holl dan reolaeth yr hyrwyddwr Barry Hearn.
O'r chwith i dde: Willie Thorne, Jimmy White, Dennis Taylor, Neal Foulds, Terry Griffiths, Tony Meo a Steve Davis. Fe gafodd y llun ei dynnu ar 22 Medi, 1986.

Yn wynebu Alex Higgins unwaith eto. Y tro hwn ym Mhencampwriaeth Meistri Benson & Hedges - 25 Ionawr, 1987.

Yn chwarae ym Mhencampwriaethau Meistri Iwerddon - 22 Mawrth, 1988.

Mae buddugoliaethau Griffiths ym Mhencampwriaeth y Byd 1979, Pencampwriaethau Meistri 1980 a Phencamwpriaeth DU yn 1982 yn golygu ei fod yn un o ddim ond 11 chwaraewr sydd wedi cwblhau Coron Driphlyg snwcer.

Ei gêm olaf oedd rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd 1997, lle cafodd ei guro yn y ffrâm derfynol gan ei gyd-Gymro a chwaraewr y byddai'n ei hyfforddi yn y pen draw i deitl byd, Mark Williams.
Ar ôl ymddeol o chwarae yn 1997, daeth Griffiths yn hyfforddwr llwyddiannus ac yn sylwebydd poblogaidd.
Bu'n diwtor i nifer o chwaraewyr blaenllaw, gan gynnwys pencampwyr y byd fel Stephen Hendry, Ronnie O'Sullivan, Mark Williams, Ken Doherty a John Parrott.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021