Teulu bachgen gafodd ei ladd o flaen ei rieni yn gwneud apêl i ddyn ar ffo

Cafodd Aamir Siddiqi ei ladd yn ei gartref yng Nghaerdydd ym mis Ebrill 2010
- Cyhoeddwyd
Mae chwaer i fachgen 17 oed fu farw ar ôl cael ei drywanu yn ei dŷ wedi galw ar ddyn y mae'r heddlu yn chwilio amdano i "roi'r gorau i edrych dros ei ysgwydd" ac i wynebu cyfiawnder.
Cafodd Aamir Siddiqi ei ladd o flaen ei rieni yn ei gartref yn ardal Y Rhath, Caerdydd ym mis Ebrill 2010, wedi i'r rheiny oedd yn gyfrifol fynd i'r tŷ anghywir.
Cafwyd y ddau lofrudd yn euog o'i lofruddiaeth - ond mae'r dyn sy'n cael ei amau o drefnu'r llofruddiaeth yn dal ar ffo.
Mae chwaer Aamir, Nishat Siddiqi, wedi apelio ar Moammed Ali Ege i ddod i'r fei, gan ddweud wrtho nad yw "yn rhydd".

"Mae [Ege] ar ffo, bob amser yn edrych dros ei ysgwydd, bob amser yn poeni am wneud camgymeriad," meddai Nishat
Roedd ei brawd iau Aamir yn meddwl ei fod yn agor y drws i athro pan gafodd ei drywanu i farwolaeth mewn ymosodiad gan Jason Richards a Ben Hope.
Cafodd y ddau oedd yn gaeth i heroin eu talu £1,000 i ladd dyn busnes diniwed a thad i bedwar o blant oedd yn byw mewn stryd gyfagos yng Nghaerdydd fel dial dros fargen eiddo a drodd yn sur.
Ond aeth Richards a Hope i'r tŷ anghywir yn ardal y Rhath.

Cafodd Richards a Hope eu dedfrydu i garchar am oes a'u gorchymyn i dreulio o leiaf 40 mlynedd yr un yn y carchar
Roedd y myfyriwr disglair, uchelgeisiol, a oedd am astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi gwrthod gêm o bêl-droed gyda'i ffrindiau ac roedd yn adolygu ar gyfer ei arholiadau Lefel A i fyny'r grisiau yn ei gartref pan ganodd y gloch drws.
Atebodd Aamir ei ddrws gan ddisgwyl gweld ei imam lleol am wers Coran ond cafodd ei wynebu gan ddau ddyn â chyllyll mewn balaclafa a wthiodd eu ffordd i mewn a'i drywanu i farwolaeth cyn iddo allu dweud gair.
Cafodd Richards a Hope eu dedfrydu i garchar am oes a'u gorchymyn i dreulio o leiaf 40 mlynedd yr un yn y carchar am ladd Aamir ond ffodd y dyn y mae ditectifs yn amau wnaeth drefnu'r digwyddiad a gadawodd y wlad.

Mae Mohammed Ali Ege wedi bod ar ffo ers 2017
Cafodd Ege, sy'n cael ei amau o gynllwynio i gyflawni llofruddiaeth, ei arestio yn India yn 2011 ond ar ôl proses estraddodi chwe blynedd o hyd, aeth yn ôl ar ffo trwy ddianc trwy ffenestr toiled gorsaf drenau a chredir ei fod bellach yn y Dwyrain Canol.
"Dyw e ddim yn rhydd go iawn," meddai Nishat wrth bodlediad BBC Sounds, Making of a Fugitive.
"Mae e ar ffo, bob amser yn edrych dros ei ysgwydd, bob amser yn poeni am wneud camgymeriad."
Mae Heddlu De Cymru wedi cynnig gwobr o £10,000 yn flaenorol am unrhyw wybodaeth a allai arwain at arestio Ege.
"Os ti'n ddieuog, does gennyt ti ddim byd i'w ofni a dyle ti ddod yn ôl adref i glirio dy enw," ychwanegodd y cardiolegydd ymgynghorol Nishat, 48.
'Efallai y bydd rhywun yn rhywle yn gwrando'
Mae Nishat, sydd 16 mlynedd yn hŷn nag Aamir, hefyd yn gobeithio y bydd ei hapêl ar Making of a Fugitive yn annog rhywun i gysylltu â'r awdurdodau am Ege.
"Efallai y bydd rhywun yn rhywle yn gwrando," meddai.
"Os ydyn nhw'n gwybod rhywbeth ac os ydyn nhw wir yn teimlo y dylen nhw wir siarad, yna efallai y gallai hyn eu hysbrydoli i wneud hynny.
"Fel teulu rydym wedi dioddef y math o alar, sioc ac arswyd sydd byth yn eich gadael chi mewn gwirionedd.
"Ac mewn ffordd ryfedd mae [Ege] yn byw hynny gyda ni oherwydd nad yw'n wirioneddol rydd."

Roedd teulu Aamir yn ei chael hi'n anodd parhau i fyw yn yr un tŷ ar ôl ei farwolaeth
Mae Nishat yn dal i gadw waled ei brawd, yn darllen ei bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn cadw mewn cysylltiad â'i hen ffrindiau, fel ei ffrind gorau Saeed Kidwai.
Ar y diwrnod y cafodd ei lofruddio, roedd Saeed wedi gofyn i Aamir chwarae pêl-droed pum-bob-ochr ond dewisodd aros adref i astudio ar gyfer ei arholiadau Lefel A.
"Dwi'n cofio bod y gêm wedi gorffen am 13:40 ac yn ddiweddarach cefais wybod ei fod wedi marw am 13:40," cofiodd.
Mae'n un o'r adegau "beth os" sy'n aflonyddu ar deulu a ffrindiau Aamir.

Aamir gyda'i rieni Parveen a Sheikh Iqbal Ahmed
Roedd hi'n ddiwedd tymor yr ysgol ac fe gofiodd Saeed: "Ychydig cyn iddo adael aeth o gwmpas y bechgyn a dywedodd 'gad fi gymryd hunlun gyda chi achos dyma fydd y tro olaf i fi weld chi cyn mynd i'r brifysgol'."
Nid oedd Saeed yn y llun. "Nes i ddweud 'wna'i weld chdi dros y penwythnos neu rywbeth'.
"Doeddwn i byth yn meddwl mewn miliwn o flynyddoedd mai dyna fyddai'r tro olaf i fi ei weld."

"Fe wnaethon ni gadw ei ddillad yn ei gwpwrdd, ei deganau, popeth am fisoedd," meddai Nishat
Mae teulu Aamir wrth eu bodd yn gweld ei hen ffrindiau'n tyfu'n oedolion gyda theuluoedd a gyrfaoedd eu hunain.
"Mae mor hyfryd i weld," meddai Nishat. "Mae hefyd yn gwneud i mi deimlo mor drist oherwydd dylai hynny wedi digwydd i fy mrawd hefyd."
Roedd teulu Aamir yn ei chael hi'n anodd parhau i fyw yn yr un tŷ ar ôl ei farwolaeth ac maen nhw wedi gadael Caerdydd ers hynny.
"Fe wnaethon ni gadw ei ddillad yn ei gwpwrdd, ei deganau, popeth am fisoedd," meddai Nishat.
"Fe wnaethon ni hyd yn oed wisgo un o'i siwmperi oherwydd ei fod yn arogli ohono.
"Mae llun o Aamir pan oedd yn mwynhau ei ail barti pen-blwydd ac mae'n sefyll yn yr union fan lle bu farw.
"Dyna pam roedden ni'n gweld hi'n anodd byw yn y tŷ oherwydd bod e'n llawn atgofion hapus iawn."
Fe wnaeth Heddlu De Cymru ganmol y teulu am eu hurddas drwy gydol y profiad trawmatig a dywedodd eu bod yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddal ac arestio Ege.
"Byddem yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am ei leoliad i gysylltu – ar ran teulu Aamir," ychwanegodd datganiad yr heddlu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2020