Cynllun 'arloesol' i brynu tai ar gyfer pobl leol
- Cyhoeddwyd
Mae menter gymunedol yn Nyffryn Conwy yn gobeithio mynd i'r afael â'r argyfwng tai cefn gwlad trwy eu prynu a'u gosod eu hunain i drigolion lleol.
Mae'n un o nifer o syniadau y bydd y grŵp ym Mhenmachno yn eu hystyried mewn ymateb i ddiffyg tai fforddiadwy.
Mae disgwyl i swyddog datblygu gael eu penodi yn yr wythnosau nesaf gyda’r bwriad o geisio am arian grant, arwain cynlluniau cyfranddaliadau a chynlluniau benthyg lleol.
Fe gafodd y swydd ei disgrifio yn yr hysbyseb fel un "arloesol" a fyddai'n gweddu ymgeiswyr sydd "ar dân dros y Gymraeg".
Mae'r swydd yn cael ei hariannu gan Barc Cenedlaethol Eryri am ddwy flynedd yn y lle cyntaf, ac mae'r fenter yn cael cefnogaeth y fenter iaith leol.
Dywed Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy, Meirion Davies eu bod "yn draddodiadol... ynghlwm â chreu defnydd iaith trwy greu gweithgareddau" ond eu bod hefyd yn creu prosiectau "mwy economaidd eu naws".
Fe gafodd y cynllun prynu a gosod tai "ei sbarduno gan argyfwng tai sy’n taro ardaloedd ar hyd a lled y Gymru wledig gan danseilio cymunedau allweddol a dyfodol y Gymraeg".
Mae'r argyfwng tai, medd Meirion Davies, yn sefyllfa "sy'n bygwth tanseilio'n holl waith".
Ychwanegodd bod sawl ffordd o fynd i'r afael â'r broblem, gan gynnwys ceisio am grantiau, edrych ar gyfranddaliadau lleol a chynlluniau Benthyg yn Lleol.
Penmachno oedd y dewis fel man cychwyn wedi i arolwg diweddar awgrymu bod 36% o dai yr ardal yn ail gartrefi neu'n dai gwyliau, heb bobl yn byw ynddyn nhw'n barhaol.
Roedd hynny ar ddechrau'r pandemig, ac i bobl fel Owen Davies, sy'n gyfrifol am broject adnewyddu neuadd goffa'r pentref, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers hynny.
"Nath pobol sydd ddim yn byw yma yn barod [sylweddoli taw'r] unig beth o'ddan nhw angen oedd broadband connection ac o'ddan nhw'n gallu gweithio oddi fan hyn," dywedodd.
"O'dd y tai i gyd yn ca'l eu snapio fyny yn sydyn iawn [a] pwsio prisia' i fyny i'r pwynt lle ma'n amhosib i bobol ifanc lleol trio prynu eiddo yn y pentre."
Mae'r cynghorydd cymuned Eryl Owain ymhlith y rhai wnaeth benderfynu bod angen ymyrryd gan sefydlu grŵp tai fforddiadwy Penmachno.
Fe fydd y grŵp, meddai, "yn edrych ar y ffynonella' posib lle gellid ca'l cyllid i alluogi grŵp cymunedol i brynu eiddo sy'n dod ar y farchnad ym Mhenmachno a defnyddio'r eiddo 'na wedyn ar gyfer anghenion lleol".
Dywedodd Elliw Owen, Pennaeth Polisi Cynllunio Awdrudod Parc Cenedlaethol Eryri, eu bod "yn hynod falch o allu cefnogi'r cynllun arloesol yma i geisio ymateb i'r her argyfwng tai ym Mro Machno".
Ychwanegodd: "Gall cynlluniau o'r fath fod yn arf allweddol i sicrhau dyfodol iaith a diwylliant ein cymunedau, a hyfywdra economi wledig Eryri."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd8 Awst
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2023