Arestio wyth o bobl wedi anhrefn dreisgar mewn dwy dref

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Fawr y Coed Duon, cyn cael eu galw i Drecelyn yn fuan 10 munud yn ddiweddarach
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi arestio wyth o ddynion ar amheuaeth o anhrefn dreisgar ar ôl digwyddiadau mewn dwy dref ddydd Iau.
Cafodd swyddogion eu galw i'r Stryd Fawr yn y Coed Duon am 14:45, ac yna i ddigwyddiad arall ar Stryd Fawr Trecelyn 10 munud yn ddiweddarach, yn dilyn adroddiadau o anhrefn.
Fe gafodd pedwar dyn eu cludo i'r ysbyty am driniaeth, ac fe gafodd tri o'r rheiny eu rhyddhau o'r ysbyty yn ddiweddarach.
Nid yw eu hanafiadau yn peryglu bywyd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Elaine Newbury ei bod yn ymddangos fod y ddau ddigwyddiad yn gysylltiedig â'i gilydd.
Ond ychwanegodd nad yw'n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol blaenorol yn y ddwy dref.
Mae'r llu yn dweud bydd swyddogion yn parhau i fod yn bresennol yn yr ardal ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.