Gwrthod cais llw athrawon rhag cael perthynas anaddas
- Cyhoeddwyd
Mae un o gynghorau sir y gogledd wedi gwrthod cynnig yn gorfodi unrhyw un sy'n gweithio yn y sector addysg i dyngu llw yn erbyn cael perthynas amhriodol gyda disgyblion.
Dan y cynnig o flaen Cyngor Sir y Fflint fe fyddai athrawon a staff ysgol wedi gorfod gwneud addewid o flaen rheolwr i beidio â ffurfio perthynas agos â disgyblion.
Er yn gwrthod y cynnig, mae'r cyngor wedi rhoi ar gofnod bod unrhyw fodd o gam-drin plant a phobl ifanc yn wrthun, gan gynnwys perthynas amhriodol rhwng athrawon a disgyblion.
Mae’n dilyn achos y prifathro, Neil Foden, a gafodd ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol.
Roedd undeb addysg NASUWT yn dadlau y byddai cyflwyno'r llw, a gafodd ei drafod mewn cyfarfod llawn o'r cyngor yn Yr Wyddgrug ddydd Mawrth, yn dangos dirmyg ofnadwy i athrawon.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried."
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Mai
Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan y cynghorydd Gladys Healey, sy'n honni bod angen mesurau cryfach i amddiffyn plant rhag camdriniaeth gan athrawon.
Dywedodd Neil Butler, swyddog cenedlaethol yr undeb ar gyfer Cymru: "Mae'r cynnig hwn yn unig yn dwyn anfri ar y proffesiwn addysgu.
"Mae athrawon yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio’n llym ac mae’n rhaid iddynt gadw at god ymarfer y Gweithlu Addysg sy'n nodi'n glir bod gan athrawon 'ddyletswydd gofal am ddiogelwch, lles corfforol, cymdeithasol, moesol ac addysgol dysgwyr a phobl ifanc'," ychwanegodd.
"Os yw athro yn methu â chydymffurfio â’r cod hwn, maen nhw'n wynebu camau disgyblu a cholli swydd o bosib.
"Mae'r ffaith fod Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu cyflwyno eu llw eu hunain yn dangos dirmyg ofnadwy tuag at y proffesiwn."
Ar hyn o bryd, mae adolygiad ymarfer plant yn cael ei gynnal gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn dilyn dedfryd Foden, ac mae'r awdurdod lleol, Cyngor Gwynedd, wedi addo cydweithredu'n llawn.
Disgrifiodd cadeirydd y bwrdd hyn fel "cam hanfodol i amddiffyn plant bregus yng ngogledd Cymru".
Ond mae rhai yn pryderu na fydd yn mynd yn ddigon pell.
Dywedodd Ms Healey, sy’n aelod o bwyllgor craffu addysg Sir y Fflint, fod angen gwella’r mesurau diogelu presennol.
Pe byddai wedi cael ei gymeradwyo, fe fyddai wedi bod yn ofynnol i bob aelod o staff sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg yn Sir y Fflint dyngu’r llw.
Dywedodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) eu bod nhw'n barod i drafod y cynnig.