Y gŵr o Hong Kong sy'n hyrwyddo'r Gymraeg ar ei sianel YouTube
- Cyhoeddwyd
Er nad oes gan Sonny Young, sy'n dod o Hong Kong, unrhyw gysylltiad efo Cymru mae o wedi dysgu Cymraeg a sefydlu sianel YouTube i hyrwyddo'r iaith, dolen allanol.
Mae'r ieithydd yn ffilmio fideos ohono'n ymweld ag ardaloedd o Gymru a cheisio dechrau sgwrs gyda'r trigolion yn y Gymraeg gan wrthod siarad Saesneg nac unrhyw iaith arall.
Mae o hefyd yn gwneud cyfweliadau ehangach gyda phobl am y Gymraeg ac yn teithio i rai o ddinasoedd Lloegr i godi ymwybyddiaeth o'r iaith.
Cymru Fyw fu'n ei holi i gael gwybod mwy amdano fo a'i gariad at y Gymraeg.
Beth yw eich cefndir ac oes ganddoch unrhyw gysylltiad efo Cymru?
Dwi'n dod o Hong Kong. Does gen i ddim unrhyw gysylltiad â Chymru o ran teulu neu gyfeillion.
Mi glywes i am Gymru achos cefais fy ngeni yn Hong Kong lle mae ysbyty o'r enw Ysbyty Tywysog Cymru yn Shatin. Roedd Hong Kong yn diriogaeth dramor Brydeinig cyn 1 Gorffennaf 1997. Am y rheswm hwn, mae llawer o bobl Hong Kong yn gwybod bod Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr o fewn y DU.
Ro'n i'n arfer byw yn Llundain, Lloegr ond dw i'n teithio'r byd llawer.
Ar hyn o bryd, dwi'n teithio ledled Cymru er mwyn gwneud fideos YouTube trwy siarad â'r bobl leol yn Gymraeg.
Mi wirfoddolais i gyda Chymdeithas yr Iaith fel Swyddog y We, aelod y Grŵp Addysg ac aelod y Grŵp Dyfodol Digidol o fis Hydref 2023 i fis Hydref 2024.
Pam - a sut - wnaethoch chi ddysgu Cymraeg?
Dwi'n dwlu ar ieithoedd yn enwedig ieithoedd Ewropeaidd. Dw i'n siarad 10 iaith sef Cantoneg (iaith gyntaf), Saesneg, Rwsieg, Ffrangeg, Norwyeg, Swedeg, Daneg, Tsieinëeg a Chorëeg. Roedd arna i eisiau dysgu iaith Geltaidd a Chymraeg ydy'r unig iaith Geltaidd sydd â chymaint o siaradwyr y medra i siarad efo nhw.
Mi astudiais i Gymraeg ar-lein a dwi wedi dysgu Cymraeg ers Chwefror 2023.
Does dim diben dysgu iaith heb ei siarad. Felly, y cyfan sydd ei angen arna i ydy dysgu'r gramadeg a geiriau hanfodol a'r pwysicaf ydy siarad yr iaith mor aml ag y medra i. Dyna sut dwi'n dysgu iaith.
Yn fy marn i, mae'n haws dysgu iaith ar-lein na mewn dosbarth achos mae llawer mwy o adnoddau ar-lein dyddiau hyn na flynyddoedd yn ôl. Ar ben hynny, mae dysgu ar-lein yn fwy hyblyg. Y peth pwysicaf ydy defnyddio'r iaith yn aml trwy ei siarad hi a'i sgwennu hi.
Mae'n anodd iawn ymarfer fy Nghymraeg heb fod yng Nghymru felly roedd rhaid i mi ymgolli yn Gymraeg cymaint â phosib. Dwi wedi bod yn teithio ar hyd a lled Cymru ers mis Mawrth 2023. Mi siaradais i Gymraeg â staff yr atyniadau twristiaid ymwelais i â nhw er yn anffodus doedd dim pob un o'r staff yn medru siarad Cymraeg.
Dw i'n gwylio rhaglenni teledu S4C ac yn gwrando ar gerddoriaeth yn Gymraeg yn rheolaidd. Dw i'n cymryd rhan mewn cymunedau a sefydliadau Cymraeg er mwyn siarad Cymraeg â'r aelodau a'r gwirfoddolwyr. Dw i'n darllen llyfrau Cymraeg ac yn sgwennu yn Gymraeg yn rheolaidd.
Yn olaf ond yn bwysig, dw i bob amser yn siarad Cymraeg yn gyntaf pryd bynnag dwi yng Nghymru. Mae ymarfer cyson a rheolaidd yn bwysig. Fedrwch chi ddim dysgu iaith ar gof!
Pam sefydlu sianel YouTube am y Gymraeg?
Mae fy sianel YouTube, dolen allanol yn ymwneud â chyfweld â'r bobl leol am ieithoedd lleiafrifol y byd ym mhob iaith dw i'n ei siarad. Dyma'r ffordd orau o ddysgu ac ymarfer iaith.
Fodd bynnag, y diben cychwynnol oedd creu rhagor o gynnwys digidol Cymraeg.
Mi bostiais i'r fideo cyntaf ym mis Mawrth eleni.
Dw i wrth fy modd ag ieithoedd a theithio'r byd. Dw i nid yn unig am godi ymwybyddiaeth am y Gymraeg ond hefyd ieithoedd lleiafrifol eraill y byd. Er enghraifft, yr ieithoedd Sámi yw'r ieithoedd lleiafrifol yn Norwy.
Pa ymateb ydych chi'n ei gael gan bobl i'r fideos?
Mi ges i sioc bod mwy o bobl na roeddwn i'n meddwl ddim yn siarad Cymraeg. Yn gyntaf, mae canran y bobl dwi wedi gofyn ar y stryd sy'n medru'r Gymraeg wastad yn llai na chanran y siaradwyr Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2021.
Yn ail, mae llawer o bobl ifanc yn ymateb yn y Saesneg yn hytrach nag yn Gymraeg ond maen nhw i fod i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol. Yn drydydd, fedrith rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg gartref ddim ymateb yn Gymraeg yn iawn.
Mae'n syndod i mi hefyd bod rhai o'r bobl wedi dweud eu bod nhw'n siarad Cymraeg ond maen nhw'n ateb yn y Saesneg yn unig. Oedden nhw'n dweud celwydd? Ddywedon nhw gelwydd am eu sgiliau Cymraeg yn y cyfrifiadau hefyd?
Hyd yn hyn, mi ddwedwn mai'r fideo dwi wedi gwneud yn Wrecsam ydy'r mwyaf trawiadol achos fy mod i wedi gofyn bron i 300 o bobl mewn dwy awr a hanner os ydyn nhw'n siarad Cymraeg neu beidio.
Beth ydych chi'n ei hoffi am Gymru, a ble ydi eich hoff le?
Fy hoff beth am Gymru ydy'r Gymraeg achos bod y Gymraeg yn rhan bwysig o dreftadaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru.
Nid Cymru fydd Cymru heb yr iaith Gymraeg. Cenedl heb iaith cenedl heb galon. Dychmygwch fod Norwy wedi cael ei gwladychu gan bobl Saesneg eu hiaith, a bod pob un o'r Norwyaid yn cael eu gorfodi i siarad Saesneg yn lle Norwyeg. Fyddai hi yr un Norwy?
Fy hoff le yng Nghymru ydy Caernarfon lle medra i siarad a chlywed Cymraeg yn amlach.
Beth yw eich cynlluniau i'r dyfodol?
Yn y pedair blynedd nesaf, mi fydda i'n teithio'r byd yn cyfweld â'r bobl leol am y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol y byd ym mhob iaith dw i'n ei siarad.
Er enghraifft Norwy, Sweden, Denmarc, Ffrainc, Gwlad Belg, Lwcsembwrg, y Swistir, Monaco, Andorra, Rwsia, holl weriniaethau eraill yr Undeb Sofietaidd, Quebec, pob gwlad arall sy'n siarad Ffrangeg, ac ati.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2024