Yr ysgol yn Singapore sy’n llawn o athrawon Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Tydi hi ddim yn beth anghyffredin mewn ysgol i glywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, eisteddfod yn uchafbwynt y flwyddyn a chaneuon Cymraeg mewn gwasanaeth bore... ond yn Singapore?
Dyna’r sefyllfa mewn un ysgol draw ar yr ynys Asiaidd diolch i bennaeth o Gymru sydd wedi recriwtio nifer o’i gyd-wladwyr.
A gyda’r athrawon yn mwynhau’r profiad o gael dosbarthiadau sydd hanner maint rhai gartref a’u nosweithiau yn rhydd o waith papur, mae’n bosib fydd mwy yn cael eu temtio i symud draw...
Diflasu ar fywyd dosbarth canol Cymraeg
Edward Jones sydd wedi cychwyn y cyfan, a hynny ar ôl iddo fo a’i wraig wneud penderfyniad go fawr. Fe werthon nhw eu cartref a mynd i deithio’r byd gyda’u dau o blant yn 2016 – ar ôl cael llond bol ar fywyd dosbarth canol Cymraeg.
Roedd o’n bennaeth ar Ysgol Gymraeg Cwmbrân ers 13 o flynyddoedd ac yn gwneud y swydd ers iddo fod yn 30. Er ei fod o'n hoff iawn o'r ysgol, doedd o ddim yn hoffi'r syniad o wneud yr un peth am flynyddoedd lawer eto ac roedd o'n chwilio am newid.
“Roedd rhaid i fi fynd i rywle – roedd o ychydig o Groundhog Day,” meddai wrth Cymru Fyw.
“Ro’n i’n gweithio mewn swydd dda ac yn byw mewn tŷ pedwar llofft efo gardd - bywyd dosbarth canol Cymraeg Caerdydd a ro’n i wedi cael llond bol ar fywyd person dosbarth canol Cymraeg Caerdydd.
“Do’n i ddim isio’r tŷ mawr yma, yn torri’r gwair neu’r clawdd bob wythnos. Neshi siarad efo fy ngwraig, gafon ni chat un nos Wener a gwneud y penderfyniad, ac wedyn dechrau gwneud cynlluniau yn y dirgel i ddechrau a rhoi’r tŷ ar y farchnad.”
Ar ôl gwerthu’r tŷ, fe ddefnyddion nhw’r elw i deithio’r byd ac addysgu’r plant eu hunain.
Roedden nhw’n ariannu eu taith drwy edrych ar ôl anifeiliaid anwes a thai pobl oedd yn mynd i ffwrdd.
Dros gyfnod o flwyddyn fe aethon nhw i 15 gwlad - yn cynnwys Canada, Awstralia, Seland Newydd, Thailand, Vietnam, Cambodia a'r UDA - lle'r roedden nhw'n edrych ar ôl ci pit bull o'r enw McBain yn San Diego.
Chile a Singapore
Ond wrth deithio roedd Edward wedi dechrau methu'r gwaith a sylweddolodd mai’r ffordd ymlaen oedd gwneud yr un swydd ag oedd o wedi ei fwynhau yng Nghymru... ond yn rhywle arall.
Fe gafodd swydd mewn ysgol gynradd enfawr yn Chile am ddwy flynedd, a’i blant yn gorfod dysgu Sbaeneg yn sydyn iawn er mwyn cyfathrebu a gwneud eu gwaith ysgol.
Yna fe gafodd swydd pennaeth yn Singapore, gan lanio yno ar ddydd Nadolig 2019. Tair wythnos yn ddiweddarach roedd Covid wedi cyrraedd ac roedd yn rhaid ymdopi mewn gwlad newydd gyda chyfyngiadau llym ar fywyd bob dydd a theithio.
Ond bedair blynedd yn ddiweddarach, mae’r pandemig yn teimlo’n bell i ffwrdd a’r pennaeth erbyn hyn wedi setlo a rhoi stamp Cymreig ar yr ysgol.
Athrawon da o Gymru
“Dwi wedi bod yn ffodus i benodi nifer o athrawon o Gymru,” meddai. “Roedd 'na chwech neu saith yma, mae cwpwl wedi mynd adra llynedd am resymau teuluol ond mae gynnon ni dal bump o Gymru - efo tri ohonyn nhw'n sy’n siarad Cymraeg.
“'Dan ni’n siarad efo’n gilydd yn Gymraeg yn y 'stafell athrawon, mae’r plant yn dweud pen-blwydd hapus wrtha i yn Gymraeg ar ddiwrnod fy mhen-blwydd, a wnaeth nhw ganu Calon Lân ar gyfer eitem i’r gwasanaeth yn ddiweddar.”
Mae’n ysgol ryngwladol, sy’n derbyn plant rhwng oed meithrinfa a blwyddyn chwech, ac mae’r 430 disgybl yn dod o 35 gwlad wahanol.
Mae nifer o'r athrawon hefyd o dramor ac felly mae dathlu diwylliannau gwahanol yn dod yn naturiol. Ac un o uchafbwyntiau’r flwyddyn bob mis Mehefin erbyn hyn ydi eisteddfod ysgol gyda phawb yn cael cyfle i gystadlu – ac mae hyd yn oed seremoni Cadeirio.
A tydi’r Gymraeg ddim yn ddiarth i’r plant gan eu bod nhw wedi hen arfer clywed yr iaith ar ddechrau gwasanaethau'r bore diolch i'r gân Sgwennu Stori gan Gildas.
“Dwi’n cyflwyno’r gân i’r plant ac yn egluro bod o’n sôn bod pawb yn sgwennu stori o’u bywyd eu hunain. Mae’n gân sy’n codi hiraeth arna i hefyd – ro’n i’n arfer ei chware yn ysgol Cwmbrân, wedyn mynd â fo i Chile a’i chwarae i 900 o blant yn yr ysgol, a rŵan yn Singapore.”
Ychwanegodd bod yr ysgol yn elwa o gael staff o Gymru wrth i'r plant ddysgu am ddiwylliant gwahanol gan athrawon da:
“Dwi’n hysbysebu yn Gymraeg a Saesneg ar Facebook. Mae rhai o’r athrawon yma yn tynnu coes bod rhaid dod o Gymru a siarad Cymraeg i ddysgu yma, ond dwi’m yn derbyn unrhywun – dwi eisiau’r athrawon gorau posib.
“Os ydyn nhw’n siarad Cymraeg dwi’n gwybod amdanyn nhw o flaen llaw – yn gwybod eu bod nhw’n bobl cryf ac yn gallu copeio efo byw mewn gwlad ddiarth ar ben eu hunain, a’u bod nhw’n athrawon da, a phroffesiynol, ac wedi cael y gefnogaeth orau yng Nghymru.
“Be' dwi’n edrych amdano ydi rhywun sydd wedi cael magwraeth efo cefndir capel neu eisteddfod neu addysg Gymraeg, a’r profiadau mae hynny wedi rhoi iddyn nhw. Maen nhw’n tueddu i fod yn greadigol, ac wrth gwrs efo profiad o ddwyieithrwydd – sy’n bwysig mewn ysgol fel hon.”
Ac mae’n dweud nad y plant yn unig sy’n elwa ond hefyd yr holl athrawon yn yr ysgol.
“Mae'r athrawon o Gymru yn dod ag ysbryd cadarnhaol i’r ysgol,” eglurodd. “Mae’n bosib bod rhai wedi bod mewn ysgol lle mae 30 o blant mewn dosbarth, rhai mewn sefyllfa anodd a’r sialensiau sy’n gallu dod efo hynny, efo lot o waith papur i’w wneud gyda’r nosau.
“Wedyn maen nhw’n dod i’r ysgol yma lle mae 15 o blant mewn dosbarth, i gyd efo ymddygiad gwych, a'r rhieni i gyd yn gefnogol, ac maen nhw'n cael amser digyswllt yn ystod y dydd i wneud y gwaith papur a’r gwaith paratoi, ac mae’n braf i’w weld.
“Maen nhw’n rhyfeddu a rhai’n dweud ‘dylwn i wedi dod yma yn gynt’.
"Ac mae hynny’n lledaenu i staff sydd yma ers cyfnod hir, neu heb weithio yn unlle arall ac maen nhw'n sylwi bod pethau’n dda yma.”
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2023
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018