Porthladd Caergybi i barhau ar gau am wythnos arall

Mae gwaith yn parhau i archwilio isadeiledd y porthladd am ddifrod
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i borthladd prysuraf Cymru barhau ar gau am wythnos arall yn sgil difrod gafodd ei achosi yn ystod Storm Darragh.
Yn ôl gweithredwyr Porthladd Caergybi, cafodd seilwaith y porthladd ei ddifrodi mewn digwyddiad fore Sadwrn.
Cafodd hyrddiau o hyd at 94mya eu cofnodi mewn rhannau o'r wlad dros y penwythnos, tra bod rhai cymunedau yn dal heb drydan wedi'r tywydd garw.
Mae cwmnïau sy'n cludo nwyddau wedi rhybuddio y bydd cau'r porthladd yn cael effaith "drychinebus" ar siopau cyn y Nadolig.
Dywedodd llefarydd ar ran Porthladd Caergybi nos Iau eu bod nhw'n rhagweld na fydd modd i fferis deithio drwy Gaergybi "tan 19 Rhagfyr ar y cynharaf".

Mae gyrwyr lori wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw'n aros yn y porthladd ers bron i wythnos
Dywedodd llefarydd ar ran Porthladd Caergybi: "Fore Sadwrn, yn ystod Storm Darragh, roedd yna ddigwyddiad wnaeth achosi difrod i seilwaith y porthladd.
"O ganlyniad, mae'r angorfeydd fferi yn parhau i fod ar gau i holl draffig morol
"Ni adroddwyd am unrhyw anafiadau, a hysbyswyd yr holl awdurdodau perthnasol o'r digwyddiad.
"Mae diogelwch yn flaenoriaeth ym Mhorthladd Caergybi ac mae ymchwiliad trylwyr o faint y difrod, a'r gwaith adfer fydd ei angen, eisoes ar waith.
"Ar hyn o bryd, ry'n ni'n rhagweld y bydd Porthladd Caergybi yn parhau i fod ar gau i holl draffig fferi tan 19 Rhagfyr ar y cynharaf."
'Pwysau enfawr' cyn y Nadolig
Mae cwmnïau sy'n cludo nwyddau wedi rhybuddio y bydd cau'r porthladd yn cael effaith ar gyflenwadau siopau cyn y Nadolig.
"Mae'n drychinebus," meddai Ger Hyland, llywydd Cymdeithas Cludwyr Ffordd Iwerddon.
"Ry'n ni wir am gael trafferth gwneud yn siŵr fod nwyddau yn cyrraedd y stryd fawr.
"Mi fydd 'na bwysau enfawr yr wythnos nesaf wrth geisio cludo pethau cyn 25 Rhagfyr, ac i fod yn onest, dydw i ddim yn meddwl y bydd popeth yn cyrraedd mewn pryd."
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
Dywedodd un gyrrwr lori wrth BBC Cymru ei fod wedi bod yn disgwyl i groesi o Gaergybi ers dydd Gwener, tra bod gyrrwr arall wedi bod yn aros ers dydd Llun.
Roedd y ddau hefyd yn rhwystredig nad oedden nhw wedi cael eu diweddaru am y sefyllfa gan Irish Ferries.
Yn ôl gyrrwr arall oedd wedi bod yng Nghaergybi ers nos Sul - oedd hefyd am aros yn ddienw - dyw'r sefyllfa ddim yn dda.
"Does dim gwybodaeth ar y funud, dim ond fod y porthladd ar gau. Mae'r sefyllfa yn eithaf drwg, ond ry' ni'n gobeithio am y gorau," meddai.
"Os dwi'n gallu cyrraedd Iwerddon, fydd pethau'n iawn... ond os nad ydw i'n croesi yfory, byddaf yn mynd lawr i Abergwaun."

Yr olygfa y tu allan i'r porthladd fore Iau
Caergybi yw'r prif borthladd ar gyfer nwyddau a theithwyr rhwng y DU ac Iwerddon, gan gynnig gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan Stena Line ac Irish Ferries.
Mae tua dwy filiwn o deithwyr yn teithio trwy'r porthladd bob blwyddyn, sy'n cael ei amddiffyn gan forglawdd hiraf y DU.
Dywedodd llefarydd ar ran Irish Ferries fod y difrod i isadeiledd y porthladd wedi digwydd yn ystod Storm Darragh ac nad oedd wedi ei achosi gan un o'u fferis nhw.
Ychwanegon nhw: "Mae Irish Ferries yn parhau i gysylltu'n agos â chwsmeriaid sydd wedi cael eu heffeithio i wneud trefniadau amgen."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni mewn cyswllt cyson gydag Awdurdod Porthladd Caergybi a Chyngor Ynys Môn, ac mae'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi siarad gyda'r ddau gorff ddydd Iau.
"Mae'r porthladd yn hynod o bwysig i Ynys Môn, Iwerddon a'r diwydiant cludo nwyddau a byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa gyda'n partneriaid," ychwanegodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru fore Sadwrn.
"Bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa dros y penwythnos.
"Byddaf yn cyfarfod ag arweinwyr y porthladd a rhanddeiliaid lleol eto ar 18 Rhagfyr i gael diweddariad pellach am y cynnydd tuag at adfer gwasanaethau."