Newid ffyrdd yn ôl i 30mya i gostio £5m i'r trethdalwr - Skates

- Cyhoeddwyd
Mae'r dyn sy'n gyfrifol am drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru wedi dweud bod camgymeriadau wedi eu gwneud wrth gyflwyno rheol 20mya.
Mae'r ysgrifennydd trafnidiaeth Ken Skates yn rhagweld y byddai newid rhai o'r ffyrdd yn ôl i derfyn cyflymder o 30mya yn costio hyd at £5m i drethdalwyr.
Dywedodd ei bod yn "anodd iawn ateb" a fyddai'r llywodraeth bresennol wedi gwneud unrhyw newidiadau i'r polisi.
Yn y cyfamser mae ffigyrau newydd yn dangos bod nifer y marwolaethau o ganlyniad i wrthdrawiadau ar lonydd 20 a 30mya wedi gostwng 17.3% yn 2023/24.
Data yn dangos llwyddiant
Cafodd y terfyn cyflymder o 20mya ei gyflwyno fis Medi 2023, a arweiniodd at bron i hanner miliwn o bobl yn arwyddo deiseb yn galw i'r newid gael ei ohirio.
Fe gyhoeddodd y llywodraeth adolygiad y llynedd, gan ganiatáu i gynghorau ddychwelyd rhai ffyrdd i derfynau uwch.
Bu Mr Skates yn ymweld â Wrecsam ddydd Mercher, lle mae'r awdurdod lleol wedi cychwyn y broses o newid lonydd yn ôl i 30mya mewn 52 o leoliadau.
Dywedodd Mr Skates: "Rydym yn derbyn bod camgymeriadau wedi eu gwneud wrth gyflwyno'r newid, ond mae'r cyfan, wrth edrych ar y data, yn dangos ei fod yn llwyddiannus wrth leihau'r nifer o wrthdrawiadau."
Ond roedd yn cydnabod bod "rhai lonydd ddim yn gywir i fod ar derfyn cyflymder o 20mya a bod angen eu newid yn ôl i 30mya, a dyna sy'n digwydd heddiw".
Dywedodd Mr Skates fod Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y byddai newid y lonydd i'w terfyn cyflymder gwreiddiol yn costio trethdalwyr "dim hwy na £5m".

Dywedodd Ken Skates: "Dyw rhai lonydd ddim yn gywir i fod ar derfyn cyflymder o 20mya"
Cafodd y polisi 20mya ei gyflwyno pan oedd Mark Drakeford wrth y llyw.
Pan gafodd ei holi a fyddai'r prif weinidog presennol, Eluned Morgan, wedi gwneud yr un fath, dywedodd Mr Skates: "Mae hwnna'n gwestiwn anodd iawn i'w ateb am fod y llywodraeth bresennol wedi ei hethol yn 2021 ar sail cyflwyno'r polisi hwn.
"Mae'n anodd iawn dweud a fyddai newidiadau wedi bod o ran gweithredu.
"Mae hyn i gyd yn ddamcaniaethol ond y peth allweddol yw ein bod ni'n gwneud y newidiadau diogel hynny nawr – y newidiadau synhwyrol, pragmatig hynny mewn ymateb i'r hyn y mae'r cyhoedd wedi gofyn amdano."
Mae ffigyrau diweddar gan Ystadegau Cymru yn dangos gostyngiad parhaus o wrthdrawiadau difrifol, gyda'r record isaf erioed o ddigwyddiadau ar lonydd 20 a 30mya.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos gostyngiad o 8.2% yn nifer yr anafiadau ffyrdd rhwng 2023-24.
Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i wrthdrawiadau hefyd wedi gostwng gan 17.3% a nifer y rheiny sy'n profi anafiadau difrifol wedi gostwng 2.3%.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2024