'Gallai rhuthro'r newid o 20mya yn ôl i 30 arwain at drychineb'

Arwydd 20myaFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 'na oedi wrth gyflwyno cynlluniau i newid terfyn cyflymder 52 o ffyrdd yn Sir Wrecsam o 20mya yn ôl i 30mya dros bryderon y gallai rhuthro'r broses arwain at "drychineb".

Ym mis Medi 2023, cafodd y rhan fwyaf o ffyrdd 30mya Cymru eu newid i derfyn 20mya fel rhan o gynllun dadleuol gan Lywodraeth Cymru.

Ond yn dilyn ymateb cyhoeddus, fe gyhoeddodd y llywodraeth adolygiad o'r terfyn 20mya y llynedd, gan ganiatáu i gynghorau ddychwelyd rhai ffyrdd i derfynau uwch.

Mae Cyngor Wrecsam wedi gwrthod yr awgrym eu bod yn gweithredu yn rhy araf.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn awgrymu bod tua 100 yn llai o bobl wedi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd 20mya a 30mya yn y 12 mis ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder gorfodol o 20mya, o gymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth fod yr ystadegau yn "galonogol" ond dywedodd y Ceidwadwyr bod ganddyn nhw "bryder o hyd" ynghylch y "ffordd y mae'r terfyn cyflymder 20mya wedi'i weithredu".

Er hynny mae gan gynghorau bellach yr hawl i godi terfynau rhai ffyrdd – ond nid oes unrhyw ffyrdd wedi cyflwyno newidiadau eto.

David Blithell
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwyafrif helaeth pobl Wrecsam yn gefnogol o'r cynlluniau i newid y terfynau cyflymder, meddai David Bithell

Mae disgwyl i'r cyngor gyflwyno'r newidiadau erbyn mis Mai, ond mae rhai yn honni fod hynny yn cymryd gormod o amser.

Gwrthod hynny mae David Bithell - yr aelod strategol dros drafnidiaeth ar y cyngor sir - gan egluro mai osgoi trychineb yw'r nod: "Yn y gorffennol pan rydyn ni wedi ystyried terfynau cyflymder, mae hynny wastad wedi bod er mwyn eu gostwng.

"Dydyn ni fel cyngor erioed wedi codi terfynau cyflymder.

"Dyna pam ein bod ni yn mynd ati yn ofalus, ac fe wnaethon ni ymestyn y cyfnod ymgynghori tan ddiwedd Ionawr er mwyn sicrhau fod pawb yn cael dweud eu dweud.

"Mae 'na safbwyntiau cryf ar y ddwy ochr, ond mae'n edrych fel bod y mwyafrif helaeth yn croesawu'r cynlluniau i ddychwelyd y ffyrdd i 30mya.

"Mae'n gam cadarnhaol wrth geisio mynd i'r afael â mater na chafodd ei achosi gennym ni... Yn ffodus fe fydd y newidiadau yn cael eu cyllido yn llawn gan y llywodraeth."

'Ddim eisiau marwolaeth ar fy nghydwybod'

Ond yn ôl Mr Bithell, diogelwch yw'r flaenoriaeth: "Mae 'na nifer o beryglon yn ymwneud â chodi terfyn cyflymder ffordd sydd angen i ni eu hystyried yn ofalus.

"Mae cynyddu'r cyflymder yn golygu fod y perygl o niwed yn cynyddu pe bai yna ddamwain, felly mae'n rhaid i ni wneud hyn yn gywir."

Ychwanegodd nad oedd wedi derbyn unrhyw fanylion gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag atebolrwydd cyfreithiol y cyngor pe bai yna wrthdrawiad ar un o'r ffyrdd sy'n cael eu newid, ac o ganlyniad, mae'r mater yn mynd ger bron bwrdd gweithredol y cyngor.

"Dydw i ddim eisiau hynny ar fy nghydwybod i, a dwi ddim yn meddwl fod y bwrdd chwaith, pe bai yna farwolaeth yn digwydd ar ôl cyflwyno'r newid," meddai Mr Bithell.

Mark Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Pritchard yn poeni am faint o arian sy'n cael ei wario

Dywedodd arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard: "Mae hyn wedi bod yn llanast o'r cychwyn. Fe wnaeth pobl rybuddio Llywodraeth Cymru, ond doedd neb yn fodlon gwrando.

"Edrychwch ar y niferoedd sydd wedi arwyddo'r deisebau a'r arian sydd wedi ei wario.

"Dwi ddim yn siŵr os gawn ni fyth wybod faint o arian sydd wedi cael ei wario ar hyn i gyd.

"Mae'n filiynau ar filiynau o bunnau, a hynny mewn cyfnod pan mae awdurdodau lleol yn wynebu heriau ariannol sylweddol."

Ychwanegodd Alwyn Jones, prif weithredwr Cyngor Wrecsam: "Er ein bod ni'n gwneud y newid yma ac yn symud rhai ffyrdd o 20mya i 30mya, mi ydan ni gyd yn gyfrifol pan 'da ni'n mynd y tu ôl i olwyn y car.

"'Da ni'n mynd i fod yn gweithio gyda Go Safe i sicrhau fod pawb yn dal i yrru yn gyfrifol, a be 'da ni'n 'neud ydi gwrando ar y cyhoedd, gwneud y newid 'ma, ond 'da ni gyd yn dal yn gyfrifol am sicrhau ein bod ni'n gyrru mewn ffordd sydd yn saff.

'Achub bywydau oedd y nod'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates mai prif nod y polisi oedd achub bywydau a lleihau nifer yr anafusion (casualties).

"Rydym yn parhau i adeiladu ar y consensws bod 20mya yn gweithio'n dda ar y ffyrdd ble mae pobl yn byw, gweithio a chwarae, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod y terfynau cywir ar y ffyrdd cywir," meddai.

"Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae awdurdodau bellach wedi dechrau'r broses ffurfiol o adolygu'r parthau 20mya yn seiliedig ar y canllawiau newydd a'r adborth y maen nhw wedi ei dderbyn.

"Mae nifer o awdurdodau lleol wedi cwblhau'r broses yma, gyda mwy i ddod yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf."

Pynciau cysylltiedig