Sioe ffasiwn Cymro ifanc yn coffáu streic y glowyr

Ioan Bowen-Pickett yn arddangos ei gynnyrch yn ystod Wythnos Ffasiwn Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae cynllunydd ifanc yn paratoi ar gyfer sioe ffasiwn sy'n goffa i'r glowyr fu'n streicio 40 mlynedd 'nôl.
Dywed Ioan Bowen-Pickett, 23, y bydd y sioe yn garreg filltir i'w gwmni, ac "i ffasiwn yng Nghymru".
Streic y glowyr yw thema'r sioe yn hen gapel Ebeneser, Caerdydd sydd nawr yn ganolfan i'r celfyddydau.
Mae'r casgliad, meddai Ioan, yn cyfuno "diwylliant ac etifeddiaeth, ochr yn ochr â chynllunio cyfoes".
'Llais' i ffasiwn Cymreig
Yn ôl y cynllunydd o'r Barri mae'r dylanwadau ar ei waith yn amrywio o waith ei hen ewythr i glwb pêl-droed Dinas Caerdydd.
"Ma' teulu fi â hanes cryf iawn o celf yng Nghymru. Mae yn rhedeg trwy ngwythiennau i," meddai.
"Roedd fy hen ewyrth Dewi Bowen yn artist eitha' enwog o ardal Merthyr, ac roedd yn creu delweddau oedd yn canolbwyntio ar dreftadaeth Cymru yn enwedig pethau yn ymwneud â'r diwydiant glo."

Fydd yna ddim cerddoriaeth gyfoes yn y sioe, yn hytrach côr meibion Cwm Aber fydd yn canu wrth i'r modelau ddangos y dillad
Ar hyn o bryd mae Ioan yn teimlo fod y diwydiant ffasiwn yng Nghymru yn dawel.
"Does dim llawer yn digwydd mewn ffasiwn yng Nghymru," meddai.
"Mae cyrsiau da iawn yma a llawer o bobl enwog o Gymru yn gweithio mewn ffasiwn, ond ry'n ni nawr yn trio creu brand Cymreig a Chymraeg y bydd pobl yn gallu prynu mewn iddo fe a bod yn falch i wisgo yn ein dillad.
"Ein bwriad ydy dangos fod gan ffasiwn Cymreig lais."

Yn ôl Nia Jade mae'r gwaith fydd yn cael eu harddangos yn y sioe ffasiwn wedi'i ysbrydoli gan ddarluniau'r artist Dewi Bowen
Mae hanes a thraddodiad yn bwysig i'r cwmni dillad Cymreig yma, ond mae cyflwyno elfennau newydd a chyfoes fel cynaladwyedd hefyd yn bwysig.
Mae cynllunydd ifanc arall, Nia Jade o ardal Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cydweithio ar y sioe ac mae'r cysylltiad â'r diwydiant glo yn bwysig iddi hi hefyd.
"Roedd ein teulu ni yn gweithio yn y gweithiau glo," meddai.
"Rwy'n cofio mynd â lamp glowyr i'r ysgol. Mae yn rh'wbeth ni'n falch ohono fe hyd heddi'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Ionawr