Streic y Glowyr: 'Angen dysgu'r hanes mewn ysgolion'
- Cyhoeddwyd
Wrth nodi deugain mlynedd ers dechrau'r streic, mae rhai cyn-lowyr bellach yn dadlau bod angen gwneud mwy i gofio'r gweithredu, a chynnwys yr hanes ar y cwricwlwm mewn ysgolion.
Roedd Anthony Jones yn arweinydd undeb yr NUM ym Mhwll y Betws ger Rhydaman.
"Wy'm yn credu bydd pobl yn siarad am streic y glowyr mewn 10 neu 20 mlynedd o nawr," meddai.
"Yn yr ysgolion rownd ffor' hyn 'sdim lot o siarad am beth oedd wedi creu'r ardal hon. O'r glo daeth Dyffryn Aman.
"Roedd glo ar hyd a lled a reit trwy'r ardal a 'sneb yn cofio, neu yn dysgu'r hanes i blant o ble ma' nhw yn dod, ac ma' rhaid gofyn pam? Dyma eu hanes nhw.
"Dyw lot o blant nawr ddim yn gwybod beth ma' glo yn dishgwl fel. Mam fach, beth y'n ni'n neud?"
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cytuno'n llwyr y dylai dealltwriaeth o hanes lleol ac ymdeimlad o leoliad fod yn flaenllaw ac yn ganolog i addysg plentyn" a'u bod wedi adlewyrchu hyn yn y cwricwlwm newydd.
Ychwanegodd llefarydd: "Rhaid dysgu am hanes Cymru yn y Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â chyd-destun lleol dysgwyr - hunaniaethau, tirweddau a hanesion sy'n dod at ei gilydd i ffurfio eu cynefin.
"Mae hyn yn rhoi cyfleoedd pwysig i ddysgwyr yn y cymunedau hynny ddysgu am effaith y diwydiant glo a streiciau'r glowyr ar eu hardal a phrofiadau pobl o'u cwmpas heddiw."
Beth oedd streic y glowyr?
Roedd streic y glowyr - gychwynnodd 40 mlynedd yn ôl i fis Mawrth eleni - yn frwydr chwerw wnaeth barhau am flwyddyn gyfan.
Bu glowyr a'u teuluoedd yn brwydro yn ffyrnig i gynnal eu cymunedau a'u swyddi wrth i'r prif weinidog ar y pryd, Margaret Thatcher, fynd benben â'r undebau wrth geisio bwrw ymlaen â'i chynllun i gau pyllau.
Ar 6 Mawrth 1984, cyhoeddodd y Bwrdd Glo eu bod yn bwriadu cau 20 pwll glo.
Roedd y diwydiant glo wedi dechrau colli arian ar ddechrau'r 80au a nifer y glowyr wedi bod yn gostwng ers degawdau - a'r ddadl oedd bod rhaid gweithredu gan eu bod yn amhroffidiol.
Byddai hynny yn golygu bod 20,000 o swyddi yn cael eu colli a chymunedau yn y meysydd glo ar hyd a lled de Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig yn cael eu chwalu.
Ar ôl i'r glowyr gynnal streiciau llwyddiannus ym 1972 a 1974 wnaeth atal cau pyllau, daeth galwadau am ragor o streicio gan arwain at streic fawr 1984-85.
Fe ddechreuodd y gweithredu yn Sir Efrog cyn lledu ar draws y meysydd glo, ac ar 12 Mawrth galwodd llywydd undeb y glowyr yr NUM, Arthur Scargill, streic genedlaethol, a hynny er bod dim pleidlais swyddogol wedi digwydd.
Y flwyddyn cyn dechrau'r streic roedd dros 170 o byllau ar draws y DU yn cyflogi 187,000 o bobl, a'r rhan fwyaf yn ne Cymru, Sir Efrog a Sir Nottingham.
Ym 1994 dim ond 15 pwll oedd ar ôl.
Yn 1913 maes glo de Cymru oed y maes glo mwyaf yn y byd. Erbyn heddiw Aberpergwm yw'r unig bwll dwfn yng Nghymru.
Doedd pawb ddim yn cefnogi'r syniad o streic genedlaethol.
Er bod glowyr de Cymru, Sir Caint, Yr Alban a Sir Efrog yn sicr o'r farn bod rhaid protestio, dal i weithio wnaeth glowyr meysydd glo gogledd Cymru, de Sir Derby a Nottingham.
Canlyniad hyn oedd gwrthdaro a drwgdeimlad sydd yn parhau hyd heddiw mewn rhai llefydd.
Dywedodd Mike Reynolds - oedd yn gweithio fel peiriannydd yng ngwaith glo y Betws, Rhydaman ac yn swyddog gydag undeb yr NUM adeg y streic - nad oedd dewis ond ymladd.
"Mae'n anodd cofio eich teimladau yn gwmws ar y pryd, ond o'n i yn gwybod yn bendant fod ishe mynd mas ar streic ac ro'n i'n barod amdano fe," meddai Mr Reynolds.
"O'n i yn gallu gweld Betws ar y pryd yn lle gwych i weithio ac o'n i'n meddwl os bydde ni yn colli Betws bydde ni yn colli bywoliaeth, nid jyst i ni fel glowyr ond i bobl reit ar draws y dyffryn.
"Roedd rhaid i ni ymladd i gadw'r pwll yna ar agor."
Undeb y glowyr, yr NUM oedd yn arwain y frwydr i streicio i achub swyddi a phyllau.
'Os oedd un mas, ma' pawb mas'
Mae Anthony Jones yn cofio'r cyfarfod yng nghlwb y glowyr, y "welfare" yn Rhydaman, pan gafodd y streic ei galw.
"Ma raid cofio ar y pryd os oedd un mas, ma' pawb mas. Dyna shwd oedd pobl yn teimlo.
"Getho' ni gyfarfod yn y welfare yn Rhydaman a phobl yn holi be ni'n mynd i 'neud. Getho ni bleidlais a wedodd pawb os yw un mas, ma' pawb mas.
"Roedden ni'n dechrau yn gryf ac yn gadarn yn Betws. Pryd getho ni bleidlais oedd pawb mas, a fel'na oedd e ym Mhwll y Betws".
Ond roedd y Prif Weinidog Margaret Thatcher wedi paratoi ar gyfer y frwydr ac roedd ganddi strategaeth.
Roedd hi wedi sicrhau bod digonedd o lo wrth gefn ar gyfer y gorsafoedd pŵer.
Ei bwriad oedd trio cadw cymaint o lowyr a phosib yn gweithio, ac roedd yr heddlu wedi eu hyfforddi yn arbennig i chwalu ac ymateb i unrhyw bicedu gan y glowyr oedd yn ceisio rhwystro pobl rhag mynd i mewn i'w gwaith yn ystod y streic.
O fewn ychydig fisoedd fe ddaeth hi yn amlwg bod hon yn mynd i fod yn frwydr hirach o lawer na'r disgwyl.
'Bydde de Cymru'n diflannu heb y glo'
Mae Ceri Thompson bellach yn gweithio fel curadur yn amgueddfa lofaol Cymru Big Pit, ond cyn hynny roedd yn löwr yng ngwaith y Cwm.
Aeth i weithio yno yn syth o'r ysgol.
"Roedd rhaid i ni streicio. Trwy'r 80au roedd rhaid i ni ymladd oherwydd bydde de Cymru jyst yn diflannu heb y glo.
"Dwi ddim yn hoffi Margaret Thatcher hyd yn oed nawr ar ôl 40 mlynedd, ond ar y pryd ro'n i'n gwybod bod rhaid gwrthwynebu ei chynlluniau a mynd mas ar streic."
Doedd streicio ddim yn rhywbeth newydd iddo fe a'i gyd-lowyr. Roedden nhw wedi streicio cyn hyn yn y 70au.
"Yn 72 a 74 buo' ni'n streicio. Ac i fod yn onest bues i ar streic yn y flwyddyn gyntaf ddechreues i yn y diwydiant... streic y gweithwyr wyneb yn 1970. Roedd strike mode yn ein tŷ ni."
Fe deithiodd Ceri Thompson gyda degau o lowyr eraill ar draws y wlad yn ceisio ennill cefnogaeth i'r streic a rhwystro pobl rhag mynd nôl i'r gwaith.
Fe fuodd yn Sir Derby yn wythnosau cyntaf y streic a de Sir Efrog.
Mae'n cofio mynd i neuaddau lleol lle'r oedd pobl yn groesawgar iawn.
"Doedd dim arian gyda ni i dalu am lety, felly fe fuo' ni'n cysgu mewn faniau. Buo' ni hefyd yn cysgu mewn welfare halls a chael bwyd gyda'r pensiynwyr yn y neuaddau!"
Ond doedd dim sôn am ddiwedd i'r anghydfod ac fe aeth yr wythnosau yn fisoedd.
Erbyn hyn roedd caledi difrifol ar aelwydydd yn y meysydd glo, a'r esgid yn gwasgu.
Fe gychwynnodd grwpiau cefnogi, a menywod yn eu harwain, drefnu pecynnau bwyd ar gyfer teuluoedd y streicwyr.
'Yr ymateb yn wych'
Roedd casglu arian hefyd yn digwydd, a glowyr fel Mike Reynolds yn treulio wythnosau yn Llundain yn ardal Lambeth yn codi arian i'r gronfa.
"Fe wnaeth hynny newid fy mywyd i yn gyfan gwbl," meddai. "Getho ni wahoddiad gan Lambeth Trade Council oedd yn cwrdd mewn nuclear bunker ger Brixton Road.
"Fe symudon ni wedyn i neuadd y dref yn Lambeth ac roedd swyddfa gyda ni yn fanna. Roedd hi yn ardal dlawd iawn, a'r Brixton riots wedi bod yno wrth gwrs, ond yr oedd yr ymateb yn wych.
"Roedd gyda ni drwydded i gael stondin ym marchnad Brixton.
"Bydde ni lan yno'n barhaol, wedyn bydde chwe boi o Betws am wythnos ac wedyn ar y dydd Sul bydde chwe boi o Abernant yn dod a bydde ni'n newid drosodd ac wedyn bydde chwech o fois Cynheidre yn dod lan."
Roedd y streic yn gadarn ym maes glo'r de o'r cychwyn, gyda 99.6% o lowyr wedi ymuno â'r streic.
Flwyddyn yn ddiweddarach roedd y ffigwr yn 93% o gymharu ag ardaloedd eraill lle'r oedd y gefnogaeth wedi disgyn i 60%.
Ond ar ôl bron i flwyddyn, er yn anfodlon ac yn anhapus o hyd, cytunodd y glowyr i ddod a'r streic i ben, heb gytundeb, a mynd nôl i'r gwaith.
"Doedd neb wedi disgwyl iddo fe barhau am flwyddyn," meddai Ceri Thompson.
"Fel arfer dan ddaear jyst cyn streic bydde pobl ar y ffas yn claddu eu tools er mwyn cadw nhw rhag gweithwyr oedd ishe mynd i weithio.
"Ond yn 1984 doedd neb 'di meddwl bydde angen gwneud hyn. Netho ni adael yr offer lle oedden nhw."
Er hynny mae Mike Reynolds yn bendant mai streicio oedd y peth iawn iddyn nhw ei wneud.
"Rwy'n fwy pendant nawr nag erioed mai streicio oedd y peth iawn. Ar ôl i ni golli fe ddaeth preifateiddio mewn a deregulation. Ma' hwnna wedi dinistrio'r wlad.
"Odyn ni well off nawr nag oedden ni ddeugain mlynedd yn ôl? Dim o gwbl."
'Popeth wedi mynd'
Wrth edrych ar yr effaith ar gymunedau mae Anthony Jones yn digalonni.
"Be sy' gyda ni? Dim byd. Ma' popeth wedi mynd a 'sdim byd wedi dod mewn. Fi yn drist iawn a dweud y gwir.
"Nid jyst cau'r gweithiau glo oedd e... beth am y busnesau lleol; y bara, y pren y dur, y llaeth. Roedd rhaid cael rhain i'r gweithiau glo. Roedd yr ardal gyfan ar ei cholled."
Fe gollodd miloedd o lowyr eu swyddi ar ôl y streic.
Cafodd teuluoedd a chymunedau eu rhwygo mewn gwrthdaro gafodd effaith enfawr ar hanes, a gwleidyddiaeth Cymru ers 1984.
Ond i gyn-lowyr fel Anthony Jones, mae rhai pethau dal yr un peth.
"Glöwr ydw i. Rwy'n byw mewn ardal a gafodd ei sefydlu ar weithiau glo a'r coliers. Fi'n edrych ambwyti heddi a meddwl 'mam fach beth y'n ni'n neud 'ma?"
Mae gwybodaeth i ddisgyblion ysgol am y streic ar wefan Bitesize y BBC.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd4 Mai 2019
- Cyhoeddwyd23 Medi 2014