Technoleg newydd yn datgelu cyfrinachau dau Feibl 500 oed

Blaenddalen Beibl Thomas Cromwell sydd yn dangos llun o Frenin Harri Viii mewn cot borffor brenhinol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beibl Harri'r VIII a Thomas Cromwell gyda'i gilydd am y tro cyntaf ers cael eu hargraffu bron i 500 mlynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd

Mae copi unigryw o Feibl Thomas Cromwell, sef yr argraffiad awdurdodedig cyntaf yn Saesneg, yn cael ei arddangos ar y cyd â chopi Brenin Harri VIII am y tro cyntaf mewn bron i 500 mlynedd.

Fe ddaw'r arddangosfa i Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o brosiect ar y cyd gyda Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt sy'n defnyddio technoleg newydd i asesu'r gweithiau am y tro cyntaf.

Mae'r gwaith hwnnw eisoes wedi datgelu haenau gwahanol i ddarluniau a bod rhai wedi cael eu haddasu'n fwriadol yn sgil datblygiadau gwleidyddol y cyfnod.

Yn ôl ymchwilwyr y prosiect, mae'r darganfyddiad yn codi mwy o gwestiynau am wneuthuriad y Beiblau ac mae'r gwaith ymchwil yn parhau.

Dyn mewn siwt lwyd yn gwisgo sbectol ac yn sefyll o flaen peiriant sydd yn tynnu lluniau o'r Beiblau hynafol.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Harry Spillane, o Lyfrgell Prifysgol Caergrawnt, yn ymchwilio i'r gwahaniaethau rhwng y ddau Feibl

Mae copi o'r Beibl Saesneg, sy'n cael ei ystyried fel Beibl personol Harri VIII, wedi bod ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ers dros 100 mlynedd ond dyma tro cyntaf iddo gael ei gymharu dudalen wrth dudalen gyda chopi Thomas Cromwell, sy'n eiddo i Lyfrgell Prifysgol Caergrawnt.

Yn ôl yr ymchwilydd Dr Harry Spillane mae technoleg heddiw yn datgelu mwy am y Beiblau.

Meddai: "Er bod y llyfrau hyn wedi bod o gwmpas ers 500 mlynedd, dim ond gyda thechnolegau newydd yr ydym wedi gallu gweld yr holl newidiadau sydd wedi'u gwneud.

"Mae 'na ddarnau o bapur sydd wedi cael eu gludo ymlaen, neu'n aml sawl haen gwahanol o baent wrth i lun gael ei newid er mwyn sicrhau fersiwn gorffenedig perffaith.

"Mae gweld y ddau ochr yn ochr yn helpu pobl i ddeall sut, hyd yn oed 500 mlynedd yn ôl, mae newidiadau'n cael eu gwneud i ddelweddau mewn ffyrdd sy'n adeiladu ar drafodaethau heddiw am ffugiadau dwfn a deallusrwydd artiffisial.

"Mae wynebau pobl yn newid ac mae delweddau'n symud o gwmpas."

Dynes gyda gwallt byr brown yn gwisgo crys gwyn gyda sbectol ddu.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Suzanne Paul, o Lyfrgell Prifysgol Caergrawnt yn dweud bod technoleg newydd yn galluogi arbenigwyr i ddysgu mwy am archeoleg y Beiblau

Er bod testun y ddau Feibl bron yn union yr un fath, mae'r darluniau'n amrywio llawer mwy.

Mae'r prosiect yn defnyddio ystod o dechnolegau arloesol, o ficrosgopeg 3D i ddadansoddi DNA sy'n helpu i ddangos am y tro cyntaf sut cafodd y llyfrau hynafol eu creu, neu'n bwysicach fyth, sut cafodd y cyfrolau eu haddasu.

Mae Dr Suzanne Paul, o Lyfrgell Prifysgol Caergrawnt yn dweud bod technoleg newydd yn galluogi arbenigwyr i ddysgu mwy am "archeoleg y Beiblau".

"Mae newidiadau mawr wedi cael eu gwneud i'r Beiblau, ond does neb wedi sylwi o'r blaen.

"Mae modd i ni ddadansoddi'r gwahanol bigmentau yn y llyfr a phaentiadau a llyfrau eraill o'r cyfnod hwn, ac o hynny geisio dyfalu ble yn union y cafodd y cyfrolau eu cynhyrchu.

"Efallai nad yw'r artistiaid wedi gadael eu llofnod corfforol, ond efallai eu bod wedi gadael llofnod cemegol yn y llyfr i ni ei ddarganfod."

Beibl
Disgrifiad o’r llun,

Er bod testun y ddau Feibl bron yn union yr un fath, mae'r darluniau'n amrywio llawer mwy

Ar ôl cael ei gwblhau, gorchmynnodd Harri VIII bod copi o'r Beibl yn cael ei ddosbarthu i bob plwyf yng Nghymru a Lloegr.

Dyma oedd y sbardun i gyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yn 1588, sef Beibl William Morgan.

Maredudd ap Huw yw Curadur Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a dywedodd bod yr arddangosfa yn "ddigwyddiad nodedig".

"Mae'n gyfle euraidd ar lefel hanesyddol i weld dwy garreg filltir yn hanes Lloegr a Chymru yng nghyfnod y Tuduriaid.

"O newidiadau crefyddol a ieithyddol, gyda'r Beibl mae'r Saesneg yn dod yn brif iaith Eglwysi Cymru a Lloegr sydd wedyn yn arwain at y cyfieithiadau Cymraeg diweddarach.

"Heb y Beibl Saesneg, byddai'r Gymraeg ddim yn cael ei siarad heddiw.

"Mae'r cyfrolau hyn wedi dod o gylch y llys brenhinol, yng nghyfnod y gŵr dylanwadol Thomas Cromwell, ac yn mynd â chi yn ôl mor agos â meiddiwch chi at Harri VIII a'i oes."

Mae'r arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar agor rhwng 20 Mehefin a 22 Tachwedd 2025.