Beibl Cymraeg prin o 1588 yn dod i Gymru am y tro cyntaf

Mae'r eitem wedi cael ei ddisgrifio fel un o arwyddocâd hanesyddol eithriadol
- Cyhoeddwyd
Bydd copi prin o'r cyfieithiad cyflawn cyntaf o'r Beibl i'r Gymraeg, gafodd ei argraffu yn 1588, yn cael ei arddangos yng Nghymru am y tro cyntaf.
Cafodd ei gyfieithu gan yr Esgob William Morgan fel rhan o ymdrech i ddod ag ysgrythurau i bobl mewn ieithoedd yr oedden nhw'n eu deall.
Mae wedi cael ei gadw yng nghasgliad llyfrgell Abaty Westminster fyth ers hynny, ar ôl cael ei ddefnyddio mewn gwasanaeth unwaith yn unig.
Bydd y Beibl yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yng Nghadeirlan Tyddewi yn Sir Benfro rhwng 17 Mehefin a 9 Gorffennaf.
'Cyflwr rhyfeddol o dda'
Cafodd Morgan ei gomisiynu i gynhyrchu rhifyn Cymraeg safonol drwy ddod â chyfieithiadau blaenorol o rannau o'r Beibl at ei gilydd.
Fe deithiodd i Lundain i oruchwylio'r llyfrau'n mynd drwy'r wasg, proses a barodd sawl wythnos oherwydd nad oedd y gweithwyr argraffu yn siarad Cymraeg.
Yn ystod y gwaith, arhosodd Morgan yn neoniaeth Abaty Westminster a oedd yn gartref i'r deon ar y pryd, Gabriel Goodman - Cymro arall a oedd hefyd yn ffrind agos iddo.
Cyflwynodd Morgan y beibl i Goodman gydag arysgrif Lladin, i gofnodi ei fod yn rhoi rhodd i'r llyfrgell.

Y gred ydy nad yw'r Beibl uchod erioed wedi ei arddangos yn gyhoeddus o'r blaen
Dywedodd Tony Trowles, llyfrgellydd a phennaeth casgliad yr abaty ei fod wedi bod yn "ein llyfrgell ers hynny" a'i fod mewn "cyflwr rhyfeddol o dda".
"Y cynllun oedd argraffu 900 o gopïau, gyda'r syniad bod pob capel ac eglwys yng Nghymru yn cael copi o'r Beibl Cymraeg," meddai.
"Gan eu bod yn cael eu defnyddio'n wythnosol neu hyd yn oed yn ddyddiol, dyw'r rhai sydd wedi goroesi yng Nghymru ddim mewn cyflwr gwych."
Dywedodd fod y broses argraffu yn un "cymhleth a thechnegol iawn" gyda llythrennau olaf geiriau'n cael llunio gyntaf ac yn mynd am yn ôl, a sawl tudalen wedi'u hargraffu ar un ddalen.
Tyddewi yn lle 'priodol'
Y gred ydy nad yw'r Beibl yma erioed wedi cael ei arddangos yn gyhoeddus, er iddo gael ei ddefnyddio mewn gwasanaeth yn Eglwys Sant Benet Paul's Wharf - eglwys yn Llundain sydd â chysylltiad hir â'r gymuned Gymreig - yn 1988.
"Dyma'r tro cyntaf iddo fynd i Gymru ac rydym yn credu mai dyma'r tro cyntaf iddo gael ei arddangos," ychwanegodd Dr Trowles.
Dywedodd y Gwir Barchedig Dorrien Davies, Esgob Tyddewi, fod y Beibl yn "drysor arbennig i'r iaith Gymraeg, ac mae'n anrhydedd i ni ei gael yng Nghadeirlan Tyddewi".
Ychwanegodd Deon Tyddewi, y Tra Pharchedig Dr Sarah Rowland Jones: "Mae'n ymddangos yn briodol y dylai ei ymweliad cyntaf â Chymru fod yma, i gartref ein nawddsant."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd22 Mai
- Cyhoeddwyd21 Medi 2024