Rhieni dan bwysau yn sgil costau gofal plant dros wyliau'r haf

Kate Shivers-Poole
Disgrifiad o’r llun,

Byddai gweithio llawn amser yn "ddibwynt" pe bai hi’n anfon ei phlant i glwb chwarae bob dydd, yn ôl Kate Shivers-Poole

  • Cyhoeddwyd

Mae cost gofal plant dros yr haf yn cosbi nifer o deuluoedd sy’n gweithio, medd rhieni ac ymgyrchwyr.

Cymru sydd â’r pris uchaf yn y DU am wythnos o ofal plant yn ystod y gwyliau eleni, yn ôl ymchwil gan yr elusen Coram Family and Childcare.

Dywed Kate Shivers-Poole o Dreorci, sy’n fam i ddau o blant, fod gofal plant wedi cael effaith bositif ar ddatblygiad ei mab.

Ond byddai gweithio llawn amser yn "ddibwynt" pe bai hi’n anfon ei phlant i glwb chwarae bob dydd, meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnig gofal am ddim i blant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn, o'i gymharu â 38 yn Lloegr.

Mae plant Ms Shivers-Poole, sy’n bump a 10 oed, yn mynd i glwb Dylan’s Den yng nghwm Rhondda.

“Yn ystod y gwyliau, pe bai fy nau o blant yn mynd i’r clwb bob dydd, byddai'r gost yn bron i £1,000 am dair wythnos,” meddai.

“Byddai’n hollol ddibwynt mynd i’r gwaith pe bawn i am wneud hynny am bum diwrnod bob wythnos.”

Wedi oedi gydag agweddau o’i ddatblygiad, dywed Ms Shivers-Poole i'w mab ddechrau siarad pan fynychodd Dylan’s Den.

Yn ôl y fam 41 oed, fe allai rhai plant fod yn colli mas ar gyfleoedd i ddatblygu oherwydd diffyg cymorth ariannol i rieni sy’n gweithio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cost gofal plant yn ystod y gwyliau yn y DU wedi codi 6% ers y llynedd

Dylai rhieni sy’n gweithio gael cymorth gyda chost darpariaeth gofal plant nes bod eu plentyn yn troi’n 11 oed, yn ôl sylfaenydd y clwb Kathryn Williams.

“Y gost fwyaf yng ngofal plant yw costau staffio,” meddai.

"Mae hi'n anodd i ddarparwyr gael dau ben llinyn ynghyd ac mae'n anodd iawn i rieni hefyd."

Ychwanegodd y byddai ymestyn y gefnogaeth yn gwneud "gwahaniaeth enfawr" i rieni.

Mae cost gofal plant yn ystod y gwyliau yn y DU wedi codi 6% ers y llynedd, yn ôl arolwg gan Coram Family and Childcare.

Yng Nghymru, mae data’n awgrymu bod costau wedi codi 15%.

Cymru oedd â’r pris wythnosol uchaf, sef £209.

Yn Lloegr, y gost wythnosol oedd £173 ar gyfartaledd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig i Non Stevens bod ei phlant yn parhau i ddefnyddio eu Cymraeg yn ystod y gwyliau

Mae plant Non Stevens yn mynychu Clwb Carco yng Nghaerdydd ar ôl oriau ysgol.

Bydden nhw hefyd yn mynd i glybiau eraill dros wyliau'r haf gan gynnwys sesiynau sy’n cael eu darparu gan yr Urdd.

"Ni’n meddwl bob haf, sut ydyn ni’n mynd i sicrhau bod y plant yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, gweld plant eraill, chwarae a hefyd y balans o fforddio hynny - ond nid just fforddio, ond gorfod talu am chwe wythnos, pum diwrnod yr wythnos," meddai Ms Stevens.

"Mae’n bwysig i fi bod y plant yn parhau i ddefnyddio eu Cymraeg dros yr haf hefyd.

"Pan oedden nhw’n iau roedden ni wedi cael bach mwy o help, ond eleni ry'n ni wedi troi at nain a taid ychydig mwy ond hefyd pethau fel yr Urdd sy’n darparu’n wych am £12 y diwrnod."

Rhai plant yn 'colli cyfle'

Dywedodd Rachel James, sy'n fam i ddau o blant, bod rhan fawr o incwm y teulu yn mynd at ofal plant.

"Mae’r plant yn elwa’n fawr trwy ddod i’r clwb, a'r ffaith eu bod yn gallu gwneud hynny dros yr haf.

"Ni'n ffodus iawn bod nhw'n gallu gwneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg - mae hwnna’n elfen hanfodol."

Ychwanegodd Ms James: "Fi’n teimlo yng Nghymru unwaith mae plant yn dod mewn i addysg llawn amser mae’r gefnogaeth ariannol yn diflannu ac mae rhai pobl yn gallu fforffio hynny ond dyw lot ddim yn gallu, ac mae hynny’n golygu bod rhai plant yn colli’r cyfle i ddod i rywle fel hyn dros yr haf.”

Disgrifiad o’r llun,

Jane O’Toole yw prif weithredwr Clybiau Plant Cymru

Mae Clybiau Plant Cymru, sy'n cynrychioli’r sector gofal plant y tu fas i oriau ysgol, yn awyddus i bwysleisio'r effeithiau cadarnhaol y mae cyfleoedd i chwarae yn gallu ei gael ar ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant ifanc.

Dywedodd y prif weithredwr, Jane O’Toole, y gall rhieni sydd â phlant mewn clybiau gofal sydd wedi’u cofrestru dderbyn gwahanol fathau o gefnogaeth ariannol, er enghraifft gofal plant di-dreth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "gofal plant fforddiadwy a hygyrch yn helpu rhieni i weithio, gan gefnogi ein hymgyrch i gynyddu twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau".

Ychwanegodd fod y cynnig ar gyfer plant tair a phedair oed yn 30 awr o ofal am ddim bob wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn i rieni cymwys.

Mae’r cynnig yn ddilys i rieni sydd hefyd mewn addysg neu hyfforddiant.

"Mae hyn yn cynnwys peth darpariaeth gwyliau [ac] yn cael ei gymharu â 38 wythnos y flwyddyn yn Lloegr, ar gyfer rhieni sy'n gweithio yn unig."

Pynciau cysylltiedig