Carcharu treisiwr o Ddolgellau am 11 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

RHYBUDD: Mae'r erthygl hon yn cynnwys manylion all beri gofid.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i Thomas John Cato gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes

Mae dyn o Ddolgellau wedi ei garcharu am dreisio merch 17 oed y llynedd.

Cafwyd Thomas John Cato, 34, yn euog o dreisio'r ferch yn Nhachwedd 2022.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod y ferch wedi cytuno i gael ei chlymu, ond bod Cato wedi ei hanwybyddu pan nad oedd hi eisiau parhau i gael rhyw.

Clywodd y llys bod Cato wedi anwybyddu'r ferch wrth iddi erfyn arno i stopio.

Cafodd ddedfryd 11 mlynedd, gyda chyfnod estynedig o chwe blynedd ar drwydded pan fydd yn cael ei ryddhau.

'Risg i fenywod'

Yn ôl y Barnwr Timothy Petts, roedd Cato wedi trin y ferch fel ei "feddiant rhywiol... er gwaethaf ei phledion a thrawma amlwg".

“Mae gennych chi batrwm cynyddol o drais gan gynnwys tagu neu fygu fel modd o anafu neu reoli,” ychwanegodd.

“Ni allaf weld unrhyw adeg pan fydd y risg yr ydych yn ei beri i fenywod yn benodol yn mynd i gael ei leihau.”

Yn ogystal â dedfryd o 11 mlynedd, bydd rhaid i Cato gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes, a rhoddwyd gorchymyn atal amhenodol yn erbyn y dioddefwr.

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y swyddog oedd yn gyfrifol am yr achos, y Ditectif Gwnstabl Bethany Clarke bod Cato yn "unigolyn peryglus gyda hanes o ymddygiad treisgar".

“Mae hyd ei ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd a’r effaith y mae wedi’i gael nid yn unig ar y dioddefwr, ond ar y gymuned leol."

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw elfen o'r erthygl hon, gallwch ddod o hyd i fanylion sefydliadau a allai eich helpu drwy gysylltu â Llinell Gymorth y BBC