Arestio person 21 oed ar amheuaeth o lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae person 21 oed o Gasnewydd wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 36 oed yn y ddinas nos Fawrth.
Bu farw Lee Crewe yn dilyn y digwyddiad ar Heol Cas-gwent toc wedi 18:00 ar 14 Mai.
Cafodd Mr Crewe ei ganfod yn ddiymateb gydag anafiadau difrifol, ac fe gafodd ei gyhoeddi'n farw yn fuan wedi hynny.
Nid yw'r heddlu yn edrych am unrhyw un arall cysylltiedig gyda marwolaeth y dyn.
Mae swyddogion yn parhau i wneud ymholiadau yn yr ardal.
Mae'r heddlu yn annog pobl i siarad â'r swyddogion os oes ganddyn nhw bryderon neu gwestiynau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024