Gwynedd: 'Bywydau yn y fantol' heb welliannau ffordd

  • Cyhoeddwyd
A494
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r A494 wedi gorfod cau ar sawl achlysur yn dilyn gwrthdrawiadau difrifol

"Mae bywydau yn y fantol" ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i wella diogelwch ar ffordd brysur yng Ngwynedd, yn ôl AS lleol.

Daw'r alwad wedi i ddau gael eu lladd, a naw gwrthdrawiad difrifol arall, ar ffordd yr A494 - sy'n arbennig o brysur ar benwythnosau pan mae cannoedd o feicwyr modur yn heidio i'r ardal.

Yr A494 yw'r brif ffordd drwy Feirionnydd o gyfeiriad Wrecsam, ond dros y misoedd diwethaf mae chwe gwrthdrawiad difrifol wedi digwydd yno.

Bu'r farwolaeth ddiweddaraf bythefnos yn ôl, pan gollodd feiciwr modur ei fywyd ger pentref Rhydymain.

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydymdeimlo â theuluoedd a ffrindiau'r rheiny a gafodd eu heffeithio, a'u bod yn disgwyl am adroddiad yr heddlu.

'Digwydd yn llawer rhy aml'

Mae Huw Evans yn ffermio yn Rhydymain gyda'i deulu ac yn dyst i'r prysurdeb bob penwythnos ar y ffordd gerllaw.

"Ar benwythnosau mae 'na brysurdeb mawr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Evans yn pryderu am nifer y damweiniau ar y ffordd

"Traffig yn dod o gyffiniau Wrecsam, Lerpwl a Manceinion yn mynd tua'r arfordir, ond be' de' ni'n gael yn arbennig ar Sadyrnau a'r Suliau ydy motobeics, ac yn anffodus mae'r damweiniau angheuol 'ma yn digwydd yn llawer iawn mwy aml - rhy aml.

"Mae ganddon ni ddarnau o ffyrdd syth lle mae'n rhoi'r cyfle i chi fynd ar speed, a'r peth nesa' de' chi'n dod i drofeydd eitha' peryglus ac yn anorfod dyna lle mae'r damweiniau yn digwydd."

'Consyrn i bawb'

Pan mae digwyddiad difrifol yn aml iawn mae'n rhaid cau rhannau o'r ffordd.

Yn gynharach yn y mis bu damwain angheuol rhwng Llanuwchllyn a Dolgellau a bu'n rhaid ei chau am rai oriau.

Yn ôl pobl leol mae hyn yn cael effaith ar fywyd pob dydd ac yn economaidd.

"Mae'r ffordd 'di cau am tua pedair i bump awr ar y tro mae o wedi digwydd yn ddiweddar," meddai Iwan Jones, sy'n cadw garej Plas Moduron yn Llanuwchllyn.

Disgrifiad o’r llun,

Iwan Jones: "Mae o'n broblem achos mae o'n digwydd o hyd"

"Oedd na' un pythefnos yn ôl ag oedd 'na un tua chwe wythnos cyn hynny, a wedyn ma' nhw'n cau'r ffordd am tua pedair i bump awr a dwi'n colli fy musnes yn llwyr mwy neu lai.

"Mae o'n broblem achos mae o'n digwydd o hyd… mor aml 'di mynd. Dwi'm yn gwybod be ydy'r ateb i'r peth.

"Mae o'n gonsyrn i bawb ag yn enwedig pobl leol. 'Dyn nhw'n methu defnyddio'r ffyrdd 'ma yn yr haf - pan mae'n braf mae'n brysur, pobl ddim yn dod allan, mae hi mor brysur ar y ffyrdd 'ma'."

'Sicrhau fod teithwyr yn fwy diogel'

Mae'r aelod sy'n cynrychioli'r ardal yn Senedd Cymru yn dweud fod Llywodraeth Cymru wedi addo gwelliannau i'r ffordd, ond ei fod bellach wedi cael gwybod na fydd mesurau tawelu traffig yn digwydd yma am ddwy flynedd.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae bywydau yn y fantol.

Cyfeiriodd at ddata gan Heddlu Gogledd Cymru sy'n dangos y bu cyfanswm o ddwy ddamwain angheuol, naw damwain ddifrifol a thair gwrthdrawiad llai difrifol rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Gorffennaf 2023.

Bu hefyd 19 o wrthdrawiadau difrod-yn-unig a 34 o wrthdrawiadau 'heb eu hadrodd' [non-reportable] i'r heddlu yn ystod y cyfnod hwn.

Ffynhonnell y llun, Mabon ap Gwynfor
Disgrifiad o’r llun,

Mabon ap Gwynfor AS: "Mae bywyd pobl yn y fantol fan hyn. Mae'n amlwg bod hi'n ffordd beryglus"

"Dwi'n andros o siomedig fod y llywodraeth ddim yn mynd i weithredu ar hwn am o leia' dwy flynedd arall gan ddweud bod ganddyn nhw flaenoriaethau eraill," meddai.

"Mae pobl y gymuned hon - cymuned yr A494 - yn dweud mai eu blaenoriaeth nhw yn amlwg ydy diogelwch y plant ar y ffordd yma a diogelwch y bobl sy'n teithio ar y ffyrdd.

"Mae bywyd pobl yn y fantol fan hyn. Mae'n amlwg bod hi'n ffordd beryglus… felly mae eisiau edrych sut mae arafu'r cyflymder yma a sut mae sicrhau fod teithwyr yn fwy diogel."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydymdeimlo â theuluoedd a ffrindiau a gafodd eu heffeithio gan y gwrthdrawiad angheuol yn Rhydymain yn ddiweddar.

Maen nhw'n aros am adroddiad yr heddlu yn ymwneud â'r gwrthdrawiad.

Ar ôl ei dderbyn, mi fyddan nhw'n gwneud unrhyw welliannau sydd wedi eu nodi cyn gynted â phosibl, meddai llefarydd.

Pynciau cysylltiedig