Salwch ymhlith staff Ysgol Syr Hugh Owen yn 'argyfwng'
- Cyhoeddwyd
Mae lefel “anarferol o uchel” o salwch ymhlith staff yn achosi problemau mewn ysgol yng ngogledd Cymru, yn ôl y cyngor lleol.
Mae Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon yn wynebu trafferthion oherwydd bod cymaint o staff wedi bod i ffwrdd o’r gwaith dros yr wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod nhw’n gweithio gyda’r ysgol i geisio lleihau unrhyw effaith ar addysg disgyblion.
Yn ôl undeb athrawon NASUWT, maen nhw'n trafod y sefyllfa gyda’u haelodau yn yr ysgol.
Mae gan Ysgol Syr Hugh Owen 875 o ddisgyblion o Gaernarfon a’r ardaloedd gwledig cyfagos.
Mae yno 52 o athrawon a 34 o aelodau staff cynorthwyol.
Lefelau staffio 'bregus'
Yn ôl ffynhonnell sy’n adnabod yr ysgol yn dda, mae’r sefyllfa yno ar hyn o bryd yn “argyfwng”, ond nid yw’n unigryw i Ysgol Syr Hugh Owen.
Mae lefelau “bregus” o staffio ym myd addysg yn gyffredinol yn cael eu gwaethygu gan brinder athrawon cyflenwi, meddai’r ffynhonnell, oedd am aros yn ddienw.
Ychwanegodd undeb NASUWT eu bod yn paratoi i ddelio gyda’r materion yno, ond na fyddan nhw’n gwneud sylw pellach cyn i’r ysgol gael cyfle i fynd i’r afael â phryderon eu haelodau.
- Cyhoeddwyd15 Mawrth
- Cyhoeddwyd15 Mawrth
- Cyhoeddwyd15 Mawrth
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mater i benaethiaid a llywodraethwyr ydy rhedeg ysgolion o ddydd i ddydd, ond bod y cyngor yn cynorthwyo ar y mater hwn.
“Gallwn gadarnhau ein bod yn gweithio’n agos gydag arweinwyr Ysgol Syr Hugh Owen i’w helpu i fynd i’r afael â heriau o ganlyniad i lefel anarferol o uchel o salwch staff sydd wedi codi'r wythnos hon,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.
“Hoffwn roi sicrwydd i ddisgyblion a’u rhieni bod pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau unrhyw effaith bosibl ar addysg disgyblion ac i helpu’r ysgol i ddychwelyd i lefelau staffio llawn cyn gynted â phosibl.”
Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu gydag Ysgol Syr Hugh Owen.