'Byddai cau campws Coleg Sir Gâr yn ergyd i Rydaman'
- Cyhoeddwyd
Mae galw am ailystyried cynllun i gau campws Coleg Sir Gâr yn Rhydaman a fyddai'n "ergyd arall" i'r dref a'i phobl ifanc.
Mae Coleg Sir Gâr yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu un campws mawr yng Nghaerfyrddin, allai arwain at symud cyfleusterau o Rydaman a Ffynnon Job.
Mae busnesau lleol a gwleidyddion wedi codi pryderon am golli cyfleoedd i bobl ifanc a'r effaith ar economi Rhydaman.
Dywedodd Coleg Sir Gâr mai "cam ymlaen" fyddai'r cynllun er mwyn "darparu amgylchedd dysgu cynaliadwy a chyfoes".
Cyrsiau galwedigaethol fel adeiladu, gwaith coed a gofal plant sy'n cael eu cynnig yn Rhydaman.
Ers degawdau, mae pobl ifanc fel Brandon Davies, 20, wedi elwa o gyrsiau a phrentisiaethau yno.
"Fi'n ffito radiators, ffito bathrooms, external boilers, internal gas, oil, popeth," meddai, wrth weithio gyda chwmni lleol sy'n adnewyddu tŷ yn yr ardal.
"Fi'n joio fe a sa i'n moyn newid beth fi'n 'neud."
Dywedodd ei fod wedi cael sioc o glywed y gallai'r coleg gau.
"Mae'n drist am [gampws] Rhydaman. Mae'n neis i weithio'n lleol," dywedodd.
"Mae lot o'r bois oedran fi, so' nhw'n gyrru, mae'n mynd i fod yn galed."
'Mae'n golled'
Mae rheolwr cwmni adeiladu lleol yn poeni am yr effaith ar fusnesau.
"Ma' lot o fois 'da fi wedi dod trwyddo'r coleg," dywedodd John Garland o gwmni SFS yn Rhydaman.
"Fel ma'r industry, s'dim lot o fois 'isie stico at adeiladu a phethau fel 'na. Mae'n lletchwith i ffeindio bois.
"Mae'n drist, mae'n golled. Bydd e'n effeithio lot o bobl yn y dre' ei hunan," ychwanegodd.
"Ond falle' bod 'isie symud 'mlaen."
Cyflwr gwael cyfleusterau
Mewn llythyr a gafodd ei ryddhau trwy gais rhyddid gwybodaeth, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wrth AS Plaid Cymru, Adam Price, fod adolygiad wedi datgelu fod cyflwr y cyfleusterau yn Rhydaman yn wael.
Ychwanegodd Mr Miles fod Coleg Sir Gâr wedi penderfynu mai'r opsiwn gorau yn ariannol ac i'r dysgwyr fyddai uno campws Rhydaman a Ffynnon Job ar safle Pibwrlwyd yng Nghaerfyrddin.
Mae mwy na 850 o lofnodion ar ddeiseb, a gafodd ei rhannu gan Mr Price, yn gwrthwynebu'r newid.
"Bydd llai o fyfyrwyr yn y dre, llai o gyfleoedd i bobl ifanc," dywedodd Megan Plumb, sy'n byw ac yn gweithio yn Rhydaman.
"Bydd mwy o bobl yn symud allan o'r ardal.
"Fi o Rydaman fy hunan, so i weld hwnna'n cau... ac i fi'n credu byddan nhw'n adeiladu tai," ychwanegodd Kacey Davies.
Dywedodd Mike Davies, sydd hefyd yn byw yn lleol, na fydd cau'r campws yn cael effaith uniongyrchol ar siopau'r dref gan fod y campws yn "eithaf pell i gerdded, ond fi'n siŵr y bydd e'n cael knock-on effect".
Mae cynghorydd lleol, Ann Davies o Blaid Cymru, wedi galw am ail-ystyried y cynllun.
"Ergyd arall yw hon. Ma' angen y coleg ar Rydaman. Mae Rhydaman yn haeddu'r coleg," dywedodd.
"Ma' isie y swyddi yn Rhydaman, ma' isie'r cyrsiau yn Rhydaman. Ma' isie'r prentisiaethau i ddod trwy Rydaman er mwyn i ni gadw'r economi lleol hyn yn fyw.
"Dwi'n gofyn am ail-ystyried."
'Datblygu campws o safon fyd-eang'
Dywedodd llefarydd ar ran Coleg Sir Gâr: "Mae Coleg Sir Gâr yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i gynllunio datblygu campws o safon fyd-eang sy'n addo dyrchafu profiad y dysgwr, sicrhau sefydlogrwydd ariannol yn y dyfodol, a chyfrannu at ffyniant economaidd Sir Gaerfyrddin.
"Bydd y fenter hon yn uno'n strategol y campysau presennol ym Mhibwrlwyd, Rhydaman a Ffynnon Job, er mwyn darparu amgylchedd dysgu cynaliadwy, cyfoes sy'n cael ei ysgogi gan dechnoleg.
"Yn ychwanegol, bydd hyn yn ein galluogi i fynd i'r afael â heriau presennol ystâd sy'n heneiddio.
"Er y gall hyn arwain at gau rhai campysau, rydym am sicrhau ein cymuned bod y newidiadau hyn yn cael eu hystyried yn ofalus ac yn cyd-fynd â'r genhadaeth genedlaethol i sicrhau bod addysg ôl-16 yn ffynnu ac yn llwyddo ar gyfer economi Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Ionawr