Dan Biggar yn cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi

Dim ond tri chwaraewr sydd wedi ennill mwy o gapiau dros Gymru na Dan Biggar
- Cyhoeddwyd
Mae Dan Biggar, cyn-faswr Cymru, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor.
Enillodd Biggar dair pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Champ Lawn yn 2019 gyda Chymru ac fe aeth ar ddwy daith gyda'r Llewod.
Bydd y chwaraewr 35 oed yn rhoi terfyn ar yrfa sydd wedi para 18 mlynedd pan ddaw ei gytundeb gyda'r clwb Ffrengig Toulon i ben.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Gymru yn 2009 yn 19 oed, ac enillodd 112 o gapiau dros ei wlad.
Daeth â'i yrfa ryngwladol i ben ar ôl Cwpan y Byd 2023 yn Ffrainc.
"Mae 'na bwynt yn dod lle ti'n gwybod, nid oherwydd unrhyw beth yn benodol, ond dywedodd rhywun wrtha'i unwaith pan fyddi di'n gwybod, fyddi di'n gwybod," meddai Biggar wrth iddo gyhoeddi ei benderfyniad ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae Biggar yn chwarae i Toulon ers 2022
Dywedodd Biggar bod rygbi "wedi rhoi popeth" iddo.
"Taflais fy hun i mewn i'r gêm hon yn 17 oed ac mae wedi rhoi bywyd i mi na allwn fyth fod wedi'i ddychmygu.
"Dwi wedi gwireddu fy mreuddwydion fel plentyn am y rhan fwyaf o ddwy ddegawd, a dwi mor ddiolchgar am hynny."
Cychwynnodd ei yrfa gyda chlwb rygbi Gorseinon, cyn chwarae i Abertawe am un tymor yn Uwch Gynghrair Cymru.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Gweilch yn 2008, a threulio 11 mlynedd yno, gan chwarae 221 o weithiau.
Diolchodd yn arbennig i gyn-hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley, am roi'r cyfle iddo chwarae pan yn 17 oed - er gwaethaf y farn gyhoeddus yn dweud wrtho am beidio.
Aeth i Northampton yn 2018, a bellach yn Toulon yn Ffrainc - lle bydd yn chwarae tan ddiwedd y tymor cyn ymddeol.

Enillodd Cymru y Gamp Lawn yn y Chwe Gwlad yn 2019, gyda Biggar (chwith) yn rhan allweddol o'r garfan
Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa, dywedodd Biggar bod adegau mewn rygbi na fydd fyth yn anghofio, fel ennill ei gap cyntaf i Gymru, a chwarae i'r Llewod.
Ond esboniodd nad dyma oedd ei gyflawniadau mwyaf, ac mai gallu rhoi cyfleoedd i'w deulu mewn bywyd ydy'r peth mae o "fwyaf balch ohono".
"I fy ngwraig anhygoel Alex a fy nau fachgen hardd, alla'i ddim diolch digon i chi am bopeth rydych chi wedi'i wneud i mi," meddai.
"Roeddech chi bob amser yno i fy nghodi pan oedd pethau'n isel ac wedi bod wrth fy ochr trwy bopeth pan fydda'i ei angen, dwi'n lwcus iawn."
Cofiodd Biggar hefyd am ei ddiweddar fam, a'i disgrifio fel ei "gefnogwr mwyaf".
"Yr un person sydd ddim yma i mi ddiolch iddi ydy fy mam, a fu farw'n anffodus bedair blynedd yn ôl," meddai.
"Mae popeth dwi wedi'i wneud dros y 18 mlynedd diwethaf o'i herwydd hi."