Chwilio am fwy o gerddi gan T.H. Parry-Williams

T.H. Parry-Williams
- Cyhoeddwyd
Tybed a oes cerdd gan T.H. Parry-Williams, un o feirdd mawr yr ugeinfed ganrif, yn cuddio yn eich cartref chi?
Dyna obaith Dr Bleddyn Owen Huws o adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ôl iddo ddod o hyd i soned ganddo sydd heb ei chyhoeddi o'r blaen yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Bydd Bleddyn yn cyhoeddi casgliad llawn o waith T.H. Parry-Williams cyn diwedd y flwyddyn ar ôl misoedd o dyrchu am gerddi na chyhoeddwyd yn un o'r chwe chyfrol o gerddi a gyhoeddodd Parry-Williams rhwng 1931 a 1957.
Darganfod cerdd goll
Eglurodd Bleddyn ar raglen Dei Tomos, Radio Cymru ei fod wedi darganfod y soned ddi-deitl ynghanol llythyrau y ddau gefnder R. Williams-Parry a T.H. Parry-Williams at ei gilydd:
"Mi anfonodd Tom (T.H. Parry-Williams) lythyr at Bob (R. Williams Parry) ar 4 Ionawr 1939 ac wrth y llythyr yma mi gynhwysodd gopi o'r soned yma.
"Mae hi'n ddi-deitl ond mi sgwennodd o wrth ymyl y ddalen 'Soned dalcen-slip a ysgrifennais y noswaith o'r blaen, o ran ymyrraeth. – T.'
"Ac yn fan'no mae'r soned wedi bod hyd nes iddi ddod i'r fei yn ddiweddar ac hyd y gwn i, dwi ddim wedi gweld unrhyw gyfeiriad ati yn unman ac yn sicr dwi ddim yn meddwl ei bod hi wedi cael ei chyhoeddi yn unman chwaith."

Y soned ddi-deitl
Bleddyn sy'n egluro pam na fyddai T.H. Parry-Williams wedi dewis cyhoeddi'r soned yn un o'i gyfrolau neu mewn cylchgrawn:
"Felly fe gyfansoddodd hon ddechra' 1939, cyfnod cyn i'r Ail Ryfel Byd dorri, cyfnod ansicr, a oedd yn peri gofid i bobl ar y cyfandir.
"Mi fydda Parry-Williams dwi'n siŵr wedi cadw golwg ar yr hyn oedd yn digwydd yn Yr Almaen achos fe fu'n treulio cyfnod yno wrth gwrs fel myfyriwr ac felly fe fydda wedi cael cysylltiad â rhai o'i gyfeillion yn Yr Almaen ac fe fydda wedi ei arswydo wrth glywed am y math o baratoadau at ryfel oedd yn Yr Almaen.
"Mae'r bardd yn defnyddio'r cymylau duon sy'n crynhoi yn Ewrop fel cefndir ond mae yna dro ar gynffon y soned. Mae'r gwpled clo yn gwbl annisgwyl ac yn peri dipyn o sioc.
"Mae'r soned yn cloi fel hyn; Ac unig achos y trybini tost
Yw iddi beidio ag anfon gair trwy'r post."
Er i'r soned ar ei hyd nes y gwpled clo amlygu'r tensiynau yn Ewrop ar y pryd gan leisio ofn gwirioneddol am ryfel, mae'r soned yn troi'n barodi yn y diwedd gyda'r ergyd olaf.
Tosturio nad yw ei gariad wedi cysylltu ag ef mae T. H. Parry Williams erbyn y diwedd, sy'n gyferbyniad llwyr i gychwyn dwys y gerdd, fel mae Bleddyn yn ei egluro:
"Wel dyna ddisgyneb os buodd disgyneb erioed, mae o'n cyfeirio ati hi, sef ei gariad o ar y pryd, merch o Gwm Gwendraeth a ddaeth wedyn yn wraig iddo sef Amy Parry-Williams.
"Falla mai'r rheswm pam na chyhoeddodd hi yn unman ydi am ei bod hi braidd yn wamal neu y gallai gael ei dehongli felly, a'r math o wamalrwydd na fyddai'n dderbyiol ar adag mor ddifrifol."
Oes yna ragor o sonedau 'dalcen-slip'?
Gobaith Bleddyn yw bod mwy o gerddi coll T.H. Parry-Williams yn llechu rhwng hen lythyrau neu lyfrau yng nghartrefi pobl.
Meddai: "Mae yna bosiblrwydd mawr bod yna gerddi na wn i ddim byd amdanyn nhw. Cerddi mewn dwylo preifat.
"Mae yna bobl yn garedig iawn wedi tynnu rhai cerddi i'n sylw i. A dwi'n ddiolchgar iawn am hynny felly dyma gyfla i mi 'neud apêl.
"Os oes yna rai yn gwybod am gerddi a ddyla fod yn y casgliad yna faswn i'n ddiolchgar iawn o gael gwybod amdanyn nhw felly cysylltwch â'r Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth."
Felly beth am fynd ati i dyrchu eich silffoedd llyfrau, yr atig, neu ddroriau'r ddresel... does wybod beth allai fod yn cuddio ac efallai y byddwch yn darganfod 'soned dalcen-slip' arall o eiddo'r bardd mawr o Ryd-ddu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Mai 2023
- Cyhoeddwyd14 Ebrill