O'r Archif: Cofio Kate Roberts

- Cyhoeddwyd
Mae'n ddeugain mlynedd ers marwolaeth yr awdures o Rosgadfan, Kate Roberts, ar 14 Ebrill.
Cymru Fyw'n fu'n tyrchu'r archif i ganfod yr awdures sy'n cael ei hadnabod hyd heddiw fel 'Brenhines Ein Llên', yn darllen ac yn trafod ei gwaith.
Cofio Kate Roberts 40 mlynedd ers ei marwolaeth
Pam ei galw'n 'Frenhines Ein Llên'?
Mae Kate Roberts yn un o awduron amlycaf Cymru a'i dawn fel llenor wedi ennill iddi'r teitl, Brenhines Ein Llên.
Ganwyd hi yn Rhosgadfan, yn ferch i Owen Roberts, chwarelwr lleol. Fe gafodd ei haddysg yn lleol ac yn ddiweddarach enillodd radd yn y Gymraeg a thystysgrif dysgu o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Bu'n dysgu yn Abertawe ac Aberdâr cyn symud i Gaerdydd. Mewn Ysgol Haf a drefnwyd gan Blaid Cymru, cyfarfu Kate â Morris Williams ac fe briododd y ddau ym 1928.
Argraffydd oedd Morris Williams ac roedd hefyd yn gyfarwyddwr polisi dros Blaid Cymru. Gyda'i gilydd, prynodd y ddau Wasg Gee, cwmni argraffu yn Ninbych, a symud yno i redeg y wasg a chyhoeddi wythnosol yn Y Faner. Bu Kate ei hun yn cyfrannu'n gyson i'r Faner a'r Ddraig Goch, papur Plaid Cymru, yn ystod y cyfnod hwn.
Ond bu farw Morris ym 1946 gan adael Kate i redeg Gwasg Gee ar ei phen ei hun am ddeng mlynedd. Roedd hi'n credu'n gryf y dylid cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau yn y Gymraeg gyda phwyslais arbennig ar blant ac addysg.
Angharad Tomos yn sgwrsio am gyfraniad gwleidyddol Kate Roberts
Dros Ginio, BBC Radio Cymru
14 Ebrill
Dechreuodd Kate Roberts ysgrifennu o ddifri ar ôl colli ei brawd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna, ar ôl colli ei gŵr, fe fwrodd iddi eto gan gyhoeddi Traed Mewn Cyffion (1936), a wnaed yn ffilm yn ddiweddarach, a Te yn y Grug (1959) - dwy o'i chyfrolau enwocaf.
Casgliad o straeon digrif a dwfn am blant ydy Te yn y Grug, yn arbennig am Begw a'i phrofiadau hi o gael ei magu mewn cymdeithas debyg i'r un lle cafodd Kate Roberts ei magu yn Rhosgadfan ar droad y ganrif ddiwethaf. Ymdrech y fam, Jane Gruffydd, i gael dau ben llinyn ynghyd a geir yn Traed Mewn Cyffion gyda'r chwarel yn gefndir i fywyd y teulu.
Fe gyhoeddodd nifer o lyfrau eraill gan gynnwys Stryd y Glep, Y Byw Sy'n Cysgu (1956), Tywyll Heno (1962) a chasgliadau o straeon byrion fel Yr Wylan Deg.
Mae rôl y ferch yn y gymdeithas a'i syniadau annibynnol am fywyd a chariad yn thema amlwg yng ngwaith Kate Roberts. Roedd hi hefyd yn ysgrifennu o safbwynt y plentyn gan weld ei phlentyndod ei hun fel magwraeth ddelfrydol.
Cyhoeddwyd cyfrol o lythyrau rhyngddi hi a Saunders Lewis hefyd - Annwyl Kate, Annwyl Saunders (gol. Dafydd Ifans, 1992) - sy'n croniclo hanes eu cyfeillgarwch dros 40 mlynedd gan roi darlun inni o hanes Cymru yn ystod y cyfnod a sylwadau'r ddau ar ddigwyddiadau yng Nghymru a thu hwnt.
Bu farw ar 14 Ebrill 1985.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd5 Mawrth