Prif gynghorydd Eluned Morgan yn camu o'i swydd ar sail iechyd

Syr Wayne David mewn siwt, crys a thei o flaen Senedd San Steffan yn LlundainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Syr Wayne David oedd Aelod Seneddol Caerffili rhwng 2001 a 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae prif gynghorydd Prif Weinidog Cymru'n gadael ei swydd am resymau iechyd.

Cafodd Syr Wayne David ei benodi'n brif gynghorydd arbennig i Eluned Morgan ym mis Rhagfyr.

Dywedodd y cyn-Aelod Seneddol Llafur dros Gaerffili nad oedd "unrhyw reswm gwleidyddol" dros ei ymddiswyddiad.

Mewn datganiad dywedodd y prif weinidog bod Wayne David wedi "gwasanaethu Cymru gydag anrhydedd am ddegawdau" a'i bod yn dymuno'n dda iddo.

Mae ymadawiad Mr David yn golygu y bydd angen i Eluned Morgan benodi ei thrydydd prif gynghorydd arbennig ers iddi gael ei phenodi'n brif weinidog fis Awst diwethaf, a hynny gyda llai na 10 mis tan etholiad nesaf Senedd Cymru ym mis Mai.

Wedi llywodraethu yng Nghymru ers dechrau datganoli ym 1999, mae arolygon barn diweddar yn awgrymu y bydd Llafur yn wynebu brwydr i ennill yr etholiad nesaf.

'Wedi gwasanaethu Cymru gydag anrhydedd'

Cafodd Wayne David ei benodi'n brif gynghorydd arbennig ar ôl i gyn-AS Llafur Gorllewin Caerdydd Kevin Brennan adael y swydd i fynd i Dŷ'r Arglwyddi.

Wrth ymateb i benderfyniad Mr David i gamu i lawr, dywedodd Eluned Morgan: "Mae Wayne wedi gweithio'n anhygoel o galed dros y misoedd diwethaf, gan ddod â chyfoeth o brofiad gwleidyddol i'r bwrdd ar adeg heriol.

"Mae e wedi gwasanaethu Cymru gydag anrhydedd am ddegawdau.

"Rwy'n dymuno'n dda iddo yng nghyfnod nesaf ei fywyd, fydd yn golygu arafu a rhoi ei hun yn gyntaf – nid rhywbeth fydd yn dod yn hawdd i ddyn sydd wedi rhoi ei fywyd i wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru."

Bydd Wayne David yn gadael ei swydd yn swyddogol ar 25 Gorffennaf.