Dim ond 8% o blant yn gallu adnabod Prif Weinidog Cymru - arolwg

Doedd y disgyblion yma yn Abertawe erioed wedi gweld Eluned Morgan o'r blaen
- Cyhoeddwyd
Mae angen ffocws cryfach ar wleidyddiaeth mewn ysgolion, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.
Daw hyn wrth i arolwg ddangos mai dim ond 8% o ddisgyblion ysgol uwchradd oedd yn gallu adnabod Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan. Llai na hanner oedd yn gallu adnabod Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer.
Yn ôl rhai pobl ifanc sy'n gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiad Senedd Cymru yn 2026, does dim digon o wybodaeth ganddyn nhw am wleidyddion Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "cefnogi dysgwyr fel bod modd iddynt ddefnyddio eu hawliau democrataidd yn rhan orfodol o'r cwricwlwm".

Fydd Alaw ac Emyr yn pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf
Mae Emyr, 17 oed, yn ddisgybl yn Ysgol Glan Clwyd.
"Allai'm deud bod gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth," meddai.
"'Da ni'n cael pleidleisio yn 16 oed ond dwi ddim yn gwybod am beth dwi'n pleidleisio. Dwi'm yn gwybod digon am bleidleisio erbyn yr oed yma."
Dywedodd ei fod yn cael rhan fwyaf o'i wybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol.
"Dwi'n gweld pethau mawr sy'n digwydd ar draws y byd, dwi'm yn gweld digon o bethau am Gymru."
'Fy ffrindiau'n methu enwi'r Prif Weinidog'
Dywedodd Awel, 16 oed: "Wnes i ofyn i'm ffrindiau os byddan nhw'n gallu enwi Prif Weinidog Cymru, dwi'n meddwl un person oedd yn gallu.
"Doedd un hyd yn oed ddim yn gallu enwi Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
"Roedd hynny yn bach o sioc i mi."

Mae angen i wleidyddiaeth gael ei chynnwys ar draws y cwricwlwm, yn ôl Eirian Williams
Mae'r adroddiad yn galw ar bleidiau gwleidyddol yng Nghymru i gyfathrebu'n well gyda phobl ifanc cyn yr etholiad nesaf.
Yn ôl Eirian Williams, Dirprwy Bennaeth Cwricwlwm, Ysgol Glan Clwyd, cyfryngau cymdeithasol yw'r ffordd orau i wneud hyn.
"Mae bywyd y plant yma yn cylchdroi o amgylch y teclynnau," meddai.
"Yn sicr mae 'na gyfle gwych yna i ddod â gwleidyddiaeth i mewn i'w sylw er mwyn iddyn nhw allu dangos diddordeb y tu hwnt i furiau'r ysgol."
'Rôl gan y cyfryngau i'w chwarae'
Yn ôl Lewis Lloyd, Swyddog Cyfathrebu Comisiynydd Plant Cymru, roedd yr arolwg yn dangos "gap eithaf mawr o ran ymwybyddiaeth o Brif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig".
"Mae yna gwestiynau ehangach am y cyfryngau a pha mor amlwg yw gwleidyddiaeth Gymreig yn ein cyfryngau ni," ychwanegodd.
"Hyd yn oed yma yng Nghymru mae'n anoddach i weld Prif Weinidog Cymru yn y cyfryngau."

Mae yna "lawer o waith i'w wneud" i addysgu pobl ifanc cyn yr etholiad, meddai'r Athro Richard Wyn Jones
2021 oedd y flwyddyn gyntaf i blant 16 oed allu pleidleisio mewn etholiadau Seneddol a lleol yng Nghymru.
Yn ôl Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, roedd Covid yn golygu bod plant wedi colli'r cyfle i ddysgu am wleidyddiaeth.
"Mae'n ymchwil ni'n dangos mai dim ond tua chwarter o bobl oedd yn 16 ac 17 ar y pryd oedd wedi cael unrhyw fath o sgwrs wleidyddol. Roedd ysgolion wrth gwrs yn cael hi'n anodd i ddysgu'r cwricwlwm arferol heb sôn am unrhyw beth ychwanegol."
Ychwanegodd bod yna "lawer o waith i'w wneud" i addysgu pobl ifanc cyn yr etholiad nesaf.
"Y syniad ydy o roi'r bleidlais yn 16 oed fydd hynny'n golygu fod yr ysgolion yn gwneud jobyn o waith o ran addysgu sifig. Y peryg ydy, os dyw pobl ddim yn pleidleisio pan mae'r cyfle ganddyn nhw'n gyntaf, eu bod nhw jest ddim yn rhan o'r broses wleidyddol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogi dysgwyr fel bod modd iddynt ddefnyddio eu hawliau democrataidd yn rhan orfodol o'r cwricwlwm.
"Rydyn ni'n ariannu sefydliadau sy'n arwain cynlluniau yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi pobl ifanc, a'u helpu i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
"Mae hyn yn cynnwys sesiynau sy'n dod â phobl ifanc a chynrychiolwyr etholedig ynghyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin
- Cyhoeddwyd7 Mai
- Cyhoeddwyd7 Mai