Carcharu dyn am achosi marwolaeth ei gariad

Cameron JonesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Cameron Jones dreulio o leiaf hanner ei ddedfryd yn y carchar

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei garcharu am 10 mlynedd am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ar ôl i fenyw ifanc farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Merthyr Tudful.

Roedd Demi Mabbitt, 25, yn rhan o wrthdrawiad un cerbyd ar Heol Abertawe ym Merthyr Tudful am tua 23:45 ar 5 Ebrill.

Bu farw o’i hanafiadau wythnos yn ddiweddarach, ar 12 Ebrill.

Roedd ei chariad Cameron Jones, 30, wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol i achosi ei marwolaeth.

Roedd Jones hefyd wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant, achosi marwolaeth trwy yrru pan oedd wedi'i wahardd, peidio â stopio yn dilyn gwrthdrawiad a pheidio ag adrodd gwrthdrawiad.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Demi Mabbitt wythnos wedi'r gwrthdrawiad ym mis Ebrill

Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Ms Mabbitt a Jones wedi bod mewn perthynas am bedair blynedd.

Roedd wedi'i gael yn euog o 55 o droseddau yn y gorffennol, gan gynnwys troseddau gyrru.

Goryrru'n sylweddol

Ar 5 Ebrill 2024 roedd Jones yn gyrru Audi S3 ar ffyrdd preswyl, gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud ei fod yn gyrru'n sylweddol dros y terfyn cyflymder.

Oherwydd cyfuniad o oryrru, amodau gwlyb y ffyrdd a theiars hen, llithrodd y car ar y dŵr a tharo wal.

Fe wnaeth Ms Mabbitt ddioddef anafiadau sylweddol a bu farw saith diwrnod yn ddiweddarach.

Fe wnaeth Jones ffoi o leoliad y gwrthdrawiad, a bu ar ffo rhag yr awdurdodau am dair wythnos cyn iddo fynd i orsaf heddlu.

Roedd Jones wedi gwrthod cyfaddef mai ef oedd yn gyrru'r cerbyd ar y pryd, ond roedd fideo camerâu cylch cyfyng a thystiolaeth DNA o'r car yn dangos mai Jones oedd y gyrrwr.

Disgrifiad,

Dangoswyd fideo camerâu cylch cyfyng i'r llys, oedd yn dangos Jones yn gyrru ar gyflymder trwy ardaloedd preswyl

Mewn teyrnged wedi ei marwolaeth dywedodd teulu Ms Mabbitt, o Aberfan, ei bod yn “ferch, wyres, chwaer, modryb a chyfnither hyfryd”.

“Roedd hi’n enaid annwyl, addfwyn fyddai’n gwneud unrhyw beth i helpu unrhyw un,” meddai’r teulu.

Fe wnaeth tad Demi, Paul Mabbitt ddarllen datganiad ar ran y teulu yn dweud eu bod wedi cael eu "rhwygo'n ddarnau" gan y digwyddiad.

Dywedodd fod gan ei ferch "y chwerthiniad mwyaf anhygoel, fyddai'n rhoi gwên ar wyneb pawb".

Ychwanegodd nad oedd y teulu yn falch am berthynas Demi a Jones.

"Rwyt ti wedi cymryd Demi o'n teulu, ac am hynny, fydda i byth yn maddau i ti," meddai.

"Roedd hon yn weithred wirion a hunanol."

Disgrifiad o’r llun,

Cameron Jones yn cael ei dywys i'r llys ddydd Mercher

Dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins fod Jones yn "poeni dim am Ms Mabbitt na'i chyflwr" wedi'r digwyddiad.

"Er mwyn ceisio achub eich hun, fe wnaethoch chi gymryd bag o'r cerbyd, a heb unrhyw ystyriaeth o Ms Mabbitt, fe wnaethoch chi redeg i ffwrdd.

"Roedd eich gweithredoedd yn annynol a hunanol."

Dywedodd Jordan Jones o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at ganlyniadau difrifol gyrru'n beryglus.

"Mae gweithredoedd Cameron Jones wedi arwain at drychineb colli bywyd, gyda'i ymdrechion i osgoi cyfrifoldeb yn dyfnhau galar anwyliaid Demi Mabbitt.

"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Demi."

Bydd yn rhaid i Jones dreulio o leiaf hanner ei ddedfryd dan glo, ac fe gafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am 10 mlynedd.