Naw marwolaeth yng Ngharchar y Parc mewn deufis

Carchar y Parc
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ombwdsmon Carchardai yn ymchwilio i gyfanswm o 13 o farwolaethau yn y carchar ar hyn o bryd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth wedi dweud bod cynnydd diweddar yn nifer y marwolaethau mewn carchar yn ne Cymru yn "bryderus".

Daw'r sylwadau wedi iddi ddod i'r amlwg fod naw o garcharorion wedi marw yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont mewn ychydig dros ddeufis.

Bu farw dau ddyn o fewn awr o'i gilydd ar y safle ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran y carchar nad oedd cysylltiad rhwng y marwolaethau, ac y bydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i'r mater.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Fe ffoniodd David Maggs yr heddlu ar ôl trywanu ei wraig 15 o weithiau

Y ddau ddyn fu farw yn y carchar ddydd Mawrth oedd Michael Horton, 19, a David Maggs, 73.

Roedd Maggs yn gyn-gyfrifydd a drywanodd ei wraig i farwolaeth wrth iddi orwedd yn ei gwely.

Cafodd Linda Maggs, 74, ei thrywanu o leiaf 15 gwaith yn ei chartref yn Sebastopol ger Pont-y-pŵl ym mis Chwefror 2021.

Wedi hynny, dywedodd David Maggs, 71, wrth weithredwr 999: "Fi newydd ladd y wraig."

Cafwyd Maggs yn euog o lofruddiaeth, a cafodd ei ddedfrydu i 20 mlynedd dan glo.

Daw'r marwolaethau diweddaraf ar ôl i chwech o garcharorion farw dros gyfnod o dair wythnos ddiwedd Chwefror, ac un arall o fewn yr wythnos ddiwethaf.

Ym mis Mawrth, dywedodd yr heddlu eu bod yn credu fod pedwar o'r marwolaethau hynny yn ymwneud a chyffuriau.

Cafodd carcharorion eu hannog i gael gwared ar eu cyffuriau yn syth gan yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth, Adrian Usher.

Ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod "ymchwiliadau yn parhau i'r amgylchiadau arweiniodd at y marwolaethau", ond ar hyn o bryd doedd dim rheswm i drin y marwolaethau fel rhai "amheus".

'Allan o reolaeth'

Dywedodd yr Ombwdsmon, Adrian Usher, mewn datganiad: "Mae'r Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth yn ymchwilio i farwolaethau mewn carchardai. Ar hyn o bryd ry'n ni'n ymchwilio i 13 o farwolaethau yng Ngharchar y Parc. Fe ddigwyddodd dau o'r marwolaethau hyn ar 7 Mai 2024.

"Fel dywedais i ym mis Mawrth, rydw i'n cael fy nhristau gan y ffigwr uchel yma, ond nawr, rydw i bellach yn gweld y cynnydd yn bryderus."

Yn ôl Aelod Seneddol Preseli Penfro, Stephen Crabb, mae nifer y marwolaethau yn "ofnadwy o bryderus" ac yn arwydd clir fod "rhywbeth o'i le yn y carchar".

"Dyw'r marwolaethau hyn ddim yn normal. Mae'n annisgwyl, mae'n anarferol, ac mae hi'n gyfnod anodd iawn i deuluoedd carcharorion Parc," meddai.

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Ben-y-bont, Sarah Murphy, fod y marwolaethau diweddaraf yn brawf fod y sefyllfa yn y carchar "allan o reolaeth".

Yn ôl Prif Chwip Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, mae'r marwolaethau yn "drist ac yn drasig", gan ychwanegu mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â chyfrifoldeb dros y carchar.

Er hynny, fe nododd Ms Hutt bod Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf "wedi cwrdd i drafod y marwolaethau trasig, ac wedi cytuno ar gyfres o gamau i'w cymryd er mwyn lleihau'r risg o weld mwy o niwed yn cael ei achosi yn y dyfodol".

Pynciau cysylltiedig