Teyrnged i ddyn o Fôn a fu farw wedi gwrthdrawiad Bangor

Jonathan RigbyFfynhonnell y llun, Llun teulu
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar gyrion Bangor wedi ei ddisgrifio fel "gŵr a thad ymroddgar".

Bu farw Jonathan Rigby, 47 o Ynys Môn, yn dilyn gwrthdrawiad fore Iau, 30 Ionawr.

Mae'r heddlu'n parhau i apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad angheuol rhwng beic modur Honda a Volkswagen Tiguan llwyd.

Cafodd gyrrwr y Tiguan ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

'Gŵr a thad ymroddgar'

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod Mr Rigby yn "ŵr a thad ymroddgar i'w ferch, meibion ​​a thaid i'w ddwy wyres".

"Fe wnaeth Jon symud yn ddiweddar i Ynys Môn i fyw ei freuddwyd gyda'i wraig, ond yn anffodus ni fydd hyn bellach yn bosib.

"Fel teulu, rydym angen amser i alaru'r dyn rydym wedi ei golli, a'r dyfodol na fyddwn yn medru ei gael mwyach."

Fe wnaeth y teulu hefyd ddiolch i'r gwasanaethau brys a ymatebodd yn ystod y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig