Robert Vaughn: Y Cowboi Celtaidd

Fe wnaeth Robert Vaughn newid ei enw o Robert Vaughan ar ôl camgymeriad gan swyddogion
- Cyhoeddwyd
I ddilynwyr y gyfres boblogaidd Yellowstone, ble mae Kevin Costner yn serennu, fe fyddai'r hanes yma am y 'Cowboi Celtaidd' yn swnio'n gyfarwydd iawn.
Yn ystod y 19eg ganrif roedd y dynfa i America yn un apelgar iawn i'r Cymry oedd yn chwilio am fywyd newydd.
Roedd diwydiant y wlad yn newid, ac roedd galw mawr am weithwyr â sgiliau penodol i groesi'r dŵr er mwyn profi'r cyfleoedd cyffrous oedd ar gael.
Un o'r rhai a fentrodd i America a chael dylanwad enfawr oedd y mab fferm o Ddinas Mawddwy, Robert Vaughan.
Erbyn heddiw mae tref yn nhalaith Montana wedi ei enwi ar ei ôl.
Sut felly cafodd gŵr ifanc nad oedd yn gallu siarad gair o Saesneg pan adawodd Gymru gymaint o effaith ar ddyfodol Montana a chael ei alw'n Gowboi Celtaidd?
Symud i America
Un o'r cyfresi mwyaf poblogaidd i gael ei ffrydio yn y blynyddoedd diweddar yw Yellowstone.
Mae'r gyfres yn dilyn y teulu Dutton a'i ymdrechion i redeg un o'r ffermydd gwartheg mwyaf yn nhalaith Montana.
Mae stori Robert Vaughan yn debyg iawn i hanes cynnar y Duttons.
Mab fferm ydoedd gafodd ei eni yn 1836 yn Ninas Mawddwy, Gwynedd.
Yn 19 oed fe benderfynodd symud i Lerpwl gyda'r bwriad o weithio a dysgu Saesneg.
Roedd ei chwaer eisoes yn gweithio yn y ddinas ac fe gafodd waith fel garddwr ar stad y bancwr, Benjamin Heywood Jones.
Tra'n gweithio yn Lerpwl roedd mewn cysylltiad gyda'i frawd Hugh, a oedd eisoes wedi mentro i America ac yn byw yn Efrog Newydd.
Llwyddodd i ddwyn perswâd ar ei frawd i ymuno ag o yn Efrog Newydd, a dyma Robert yn hwylio o Lerpwl yn 1858.

Kevin Costner sy'n chwarae rhan John Dutton yn Yellowstone
Bwriad Robert oedd ymweld a dychwelyd i Brydain, ond fe gafodd y syniad o ddechrau teithio tua'r gorllewin ac ymuno â charfan o bobl chwilfrydig oedd yn mentro, heb wybod yn iawn beth oedd yn eu disgwyl nhw mewn rhan o'r wlad nad oedd wedi datblygu'r un fath a'r dwyrain.
Dros y blynyddoedd nesaf fe deithiodd yn gweithio fel glöwr yn nhalaith Illinois ac Ohio cyn neidio ar drên y Rhuthra Aur (Gold Rush) ym mis Mawrth 1864, dan arweiniad John Bozeman.
Fe gyrhaeddodd y trên lle o'r enw Alder Gulch, a drodd ym mis Mai 1864 fel tiriogaeth newydd Montana.
Roedd tirwedd fynyddig a choediog Montana'n ei atgoffa o Gymru, felly dyma'n penderfynu setlo yno.
Erbyn hynny roedd wedi'i dderbyn fel dinesydd Americanaidd, ond roedd y swyddogion wedi gwneud camgymeriad ac wedi'i alw'n Vaughn ac fe benderfynodd gadw'r enw yma fel ei enw newydd.

Roedd cloddio am aur a gweithio yn y mwynfeydd yn apelgar iawn i fechgyn ifanc yng nghanol y 19ed ganrif
Ddwy flynedd ynghynt yn 1862 roedd deddf 'Homestead' wedi ei basio yn America a oedd yn rhoi caniatâd i berson feddiannu gwerth 160 acer o dir y llywodraeth yn ardal orllewinol y wlad nad oedd wedi'i chymryd gan neb arall.
Roedd y cytundeb yn golygu y byddai'n rhaid i'r tirfeddianwr wella ac amaethu ar y tir am gyfnod o bum mlynedd. Ar ôl y pum mlynedd roedd y person hwnnw berchen y tir i gyd.
Gwelodd Vaughn ei gyfle yma, y byddai ffermio'n talu'n well iddo yn y pendraw na gweithio yn y mwynfeydd aur.
Yn 1869 fe wnaeth feddiannu tir yn ardal Chouteau County, tua naw milltir i fyny o ble oedd afon yr Haul (Sun River) yn cwrdd â'r Missouri.
Dyma ddechrau tyfu cnydau a llysiau a dechrau ffermio gwartheg brîd pur gan droi ei fferm yn un o'r rhai mwyaf cynhyrchiol yn yr ardal.
Dros yr ugain mlynedd nesaf, roedd yr ardal yr oedd wedi'i feddiannu yn dechrau poblogi a thyfu.
Erbyn dechrau'r 1880au roedd llawer o ddynion busnes yn ymweld ag ardal Great Falls ac roedd yn rhywle â photensial economaidd eithriadol, yn enwedig yr ardaloedd ger yr Afon Missouri.
Dyma Vaughn a chynllunwyr eraill yn dechrau adeiladu gwestai a thai a oedd yn cynnig llety i'r teithwyr oedd yn pasio neu'n ymweld ar y trên.

Mae tref Vaughn yn gartref i bron i 1,000 o bobl yn Montana
Fe briododd Robert â Elizabeth Donahue o Ganada yn 1886.
Rhoddodd hi enedigaeth i'w merch Arvonia yn 1888, ond llai na phythefnos yn ddiweddarach bu farw Elizabeth o broblemau'n sgil yr enedigaeth.
Penderfynodd Vaughn werthu ei fferm am swm sylweddol a symud i ddinas Great Falls gerllaw. Gwerthwyd ei fferm i Gapten Thomas Couch a oedd berchen mwynfeydd copr ac arian ar draws America.
Wedi iddo symud daeth Vaughn yn un o'r dynion busnes mwyaf dylanwadol yn Great Falls, yn prynu a gwerthu eiddo, a chafodd ei alw'n 'Yncl Bob' a'r 'Cowboi Celtaidd' gan y dinasyddion.
Penderfynodd Couch i ddechrau adeiladu tref ar y tir ble'r oedd fferm a'r tir oedd arfer bod yn berchen i Robert Vaughn. Fel teyrnged i Vaughn, fe benderfynnodd Couch ei enwi ar ôl y Cymro.
Mae'r dref yn parhau i fod yno heddiw ac yn gartref i bron i 1,000 o bobl.
Yn 1900 fe ysgrifennodd Robert Vaughn lyfr am fywyd fel ffermwr yn Montana.
Then and Now, or, Thirty-Six Years in the Rockies yw enw'r gyfrol, ac mae'n gasgliad o lythyrau gan Vaughn i'w ferch Arvonia a'i hanes yn sefydlu'r fferm ar dir Montana.
Mae haneswyr yn datgan fod y llyfr yn dystiolaeth bwysig o ddatblygiad cynnar y dalaith.
Bu farw Robert Vaughn yn 81 oed wedi salwch byr yn 1918.
Hyd heddiw mae'n cael ei gofio yn y dref sydd wedi cael ei enwi ar ei ôl fel y bachgen a ddaeth o Ddinas Mawddwy.
Efallai bod llys-enw Montana fel y Treasure State yn gweddu'n berffaith i'r Cymro a fentrodd heb geiniog dros y dŵr a gwneud ei ffortiwn gan ddylanwadu ar ddyfodol ffermio ym Montana.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2024