Mam o'r gogledd a gollodd ei mab yn rhybuddio am gyffuriau ffug
- Cyhoeddwyd
Mae mam o ogledd Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus wedi i'w mab 23 oed farw ar ôl cymryd cyffuriau ffug.
Cafodd mab Anne Jacques, Alex Harpum, ei ganfod yn farw yn ei fflat ym mis Gorffennaf 2023.
Wyth mis wedi ei farwolaeth cafodd y teulu, sydd o Fae Colwyn, wybod ei fod wedi cymryd sylwedd oedd wedi’i halogi (contaminated) â chyffur cryf newydd, nitazene.
Mae ymchwiliad gan y BBC wedi datgelu bod nitazene, sy’n gysylltiedig â channoedd o farwolaethau, wedi cael eu canfod mewn samplau o feddyginiaethau ffug ar draws y DU.
Mae’r ymchwil yn datgelu mwy na 100 enghraifft o bobl sy'n ceisio prynu meddyginiaethau presgripsiwn fel diazepam, ac yn hytrach yn derbyn cynnyrch sy'n cynnwys nitazene - cyffur opioid synthetig.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn mynd i'r afael â chyffuriau o'r fath mewn sawl ffordd, gan gynnwys "tasglu traws lywodraethol a rhwydweithiau rhyngwladol helaeth".
Breuddwyd Alex oedd bod yn ganwr opera, ac fe gafodd le ar gwrs meistr mewn ymgais i ddilyn y freuddwyd honno.
Ond fe gafodd ei ganfod yn farw yn ei fflat ym mis Gorffennaf 2023.
Yn wreiddiol cafodd ei farwolaeth ei thrin fel un sydyn - o ganlyniad i ataliad ar y galon neu ddigwyddiad tebyg.
Ond wyth mis yn ddiweddarach cafodd teulu Alex wybod ei fod wedi cymryd sylwedd oedd wedi’i halogi â nitazene.
Roedd cofnodion ffôn Alex yn awgrymu ei fod wedi ceisio prynu tabledi Xanax, sydd ond ar gael ar bresgripsiwn preifat yn y DU.
Mae Ms Jacques yn credu bod Alex wedi gwneud hynny oherwydd ei fod yn aml yn cael trafferth cysgu.
"Roedd o wastad yn cael trafferth cysgu ac roedd hyn wedi gwaethygu gyda'i feddyginiaeth ADHD," dywedodd.
"Dwi'n credu ei fod wedi prynu nhw i geisio tawelu ei feddyliau a cheisio cael rhywfaint o gwsg.
"Ond dim ond theori ydy hynny."
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022
Yn ôl Ms Jacques, roedd yn rhaid iddi hi holi’r heddlu pam na chafodd unrhyw brofion eu cynnal i geisio darganfod presenoldeb nitazene.
Mae’n dweud mai dim ond ar ôl hynny y cafodd olion nitazene ei ganfod.
Dywedodd Ms Jacques ei bod "methu credu" y diffyg profion.
Ychwanegodd: "Pe na bawn i wedi gwthio am atebion gwell yng nghanol fy ngalar, yna byddai dal dim syniad gen i sut fu farw fy mab.
"Oni bai ein bod ni'n profi am y cyffuriau yma, sut mae unrhyw un yn mynd i fod yn ymwybodol o’r peryglon?”
Dywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard bod "oedi y tu hwnt i reolaeth y Met" wedi bod o ran profi arbenigol yn achos Alex.
Dywedodd Gwasanaeth Crwner Gogledd Llundain eu bod yn parhau mewn cysylltiad â'r teulu ynglŷn â'u pryderon.
130 achos o nitazene mewn cyffuriau eraill
Fe wnaeth y BBC ddadansoddi canlyniadau samplau a gyhoeddwyd gan WEDINOS, gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n rhannu gwybodaeth am farchnad gyffuriau anghyfreithlon y DU.
Mae pobl yn gallu gyrru samplau atyn nhw, gan ddweud beth oedden nhw'n ceisio ei brynu.
Yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2024, roedd 130 o achosion o rywun yn ceisio prynu meddyginiaethau yn anghyfreithlon heb bresgripsiwn, a'u bod yn hytrach wedi derbyn sylweddau oedd wedi'u halogi â nitazene.
Dywedodd yr Athro Rick Lines o WEDINOS: "Efallai bod pobl wedi methu parhau ar bresgripsiwn cyfreithlon ac wedi penderfynu mynd trwy'r hyn maen nhw'n meddwl sy'n llwybr cyfreithlon, ond mewn gwirionedd dyw e ddim."
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud pob math o nitazene yn gyffur Dosbarth A.
Dywedodd Ms Jacques nad oedd hi erioed wedi clywed am y cyffur o'r blaen, ac mae hi'n annog rhieni eraill i fod yn wyliadwrus.
Mae'n rhybuddio y gallai unrhyw un gael ei effeithio gan gyffuriau ffug.
"Dwi'n siŵr bod lot o rieni yn credu na fyddai eu plant yn gwneud rhywbeth fel hyn," meddai.
"Ond efallai, mae gweld proffil Alex - pwy oedd o a be' oedd o'n gwneud gyda'i fywyd - yn gwneud iddyn nhw feddwl dwywaith a meddwl, efallai bod fy mhlentyn i yn gwneud hyn.
"Dwi'n ei golli fo trwy'r dydd, bob dydd."
'Cymryd y bygythiad o ddifrif'
Mae'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) yn credu bod nitazane yn cael ei gynhyrchu mewn labordai yn China ac yn dod i'r DU trwy ddosbarthwyr parseli cyfreithlon.
Dim ond os oes gwybodaeth i awgrymu hynny y mae'r heddlu ffiniau yn archwilio post am gyffuriau, ac mae disgwyl i gŵn sydd wedi'u hyfforddi i gydnabod nitazane a chyffuriau opioid synthetig eraill ddechrau gwasanaethu yn fuan.
Dywedodd yr NCA eu bod yn cymryd bygythiad nitazane "o ddifrif".
Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.