Nifer o Gymry ar restr anrhydeddau pen-blwydd y Brenin

Ann AtkinsonFfynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gantores Ann Atkinson yn arweinydd Côr Meibion Bro Glyndŵr a Chôr Meibion Trelawnyd

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o Gymry ymhlith y cannoedd o bobl drwy'r Deyrnas Unedig sydd wedi derbyn anrhydedd ar achlysur pen-blwydd y Brenin.

Yn eu plith mae'r gantores Ann Atkinson, y bowliwr lawnt Anwen Butten, a'r cyflwynydd tywydd ac ymgyrchydd trais domestig, Ruth Taylor.

Bydd Ann Atkinson o ardal Corwen yn derbyn yr MBE am ei chyfraniad i'r byd cerddorol yng Nghymru.

"Roedd derbyn llythyr ag arno'r geiriau'r Cabinet Office yn dipyn o sioc - roeddwn yn meddwl fy mod i wedi gneud rhywbeth o le!" meddai.

Mae Ann yn arweinydd dau gôr, sef Côr Meibion Bro Glyndŵr a Chôr Meibion Trelawnyd, yn diwtor llais yng Nghanolfan Gerdd William Mathias ac wedi bod yn gyfarwyddwr artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.

'Hynod o falch'

Rhwng 2002 a 2009 roedd Ann yn gyfarwyddwr cerdd Côr Meibion Fron, a ddaeth yn enwog fel y "Band Bechgyn Hynaf y Byd" - fe wnaethon nhw ryddhau sawl albwm a chyrraedd brig y siartiau clasurol am 16 wythnos.

Nid dyma'r anrhydedd gyntaf i Ann ei derbyn - yn 2009 cafodd ei derbyn i'r Orsedd o dan yr enw Ann Eos Edeyrnion.

Ar ôl y sioc gychwynnol dywedodd ei bod yn "hynod o falch" o gael ei dewis i gael anrhydedd gan y Brenin ac yn diolch i'r sawl a'i henwebodd.

Mae rhyw chwarter o'r rhai sy'n derbyn anrhydeddau wedi cael eu cymeradwyo gan y cyhoedd a'r gweddill gan Brif Weinidog y DU ac uwch-weinidogion San Steffan.

Disgrifiad,

Dywedodd Anwen Butten ei bod "methu aros" i'r newyddion gael ei wneud yn gyhoeddus

Un arall a gafodd sioc wrth dderbyn y llythyr oedd Anwen Butten - y bowliwr lawnt o Gellan ger Llanbedr Pont Steffan.

Hi oedd capten tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022.

"'Nath e ddim croesi fy meddwl i y bydden i'n cael MBE - i fi pobl eraill sy'n cael anrhydeddau fel hyn," meddai wrth Cymru Fyw.

"Y gwir yw, fi wedi caru be' fi wedi 'neud dros y blynydde ac mae bowlio wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed a fi wedi joio.

"Mae hwn i'r teulu cyfan i 'weud y gwir - mam wrth gwrs yn chwaraewraig ac yn hyfforddwraig broffesiynol ac Alis, y ferch nawr, yn chwarae i dîm Cymru a Harri'r mab hefyd yn chwaraewr arbennig.

"Fi wedi ymddeol ond yn dal i hyfforddi a rheoli y timau merched iau a hŷn ac wrth fy modd rhoi yn ôl be ges i gan eraill."

'Boddhad mawr i fi'

Mae Anwen yn nyrs sy'n arbenigo ar ganser y pen a'r gwddf yn ei gwaith bob dydd, ac mae'n cael ei chydnabod am hynny hefyd.

"Mae hynny hefyd yn waith sy'n dod â boddhad mawr i fi - mae'n fraint i fod yn rhan o daith salwch pobl gan geisio eu gwneud yn fwy cyfforddus."

Ruth Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruth Taylor (Dodsworth cyn hynny) yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth i ddioddefwyr trais domestig

Ymhlith y bobl eraill o Gymru sy'n derbyn anrhydedd mae'r Athro Brian Morgan - athro entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a chyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol, Mark Tami AS Alun a Glannau Dyfrdwy a Ruth Taylor (Dodsworth cyn hynny) am ei gwasanaeth i ddioddefwyr trais domestig.

Maen nhw'n derbyn yr OBE.

'Breuddwyd wedi'i gwireddu'

Yn derbyn medal y BEM mae Idwal Davies, 98, o Lanelli, a hynny am ei wasanaeth fel milwr yn yr Ail Ryfel Byd ac i'r gymuned yn Llanelli.

"Mae cael yr anrhydedd yn freuddwyd sydd wedi'i gwireddu ond dwi wedi mwynhau pob dim dwi wedi'i wneud," meddai.

"Roedd hi'n fraint ysgrifennu llyfr am fy mhrofiadau yn ystod y rhyfel ac mae ymgyrchoedd fel arbed yr ysbyty lleol yn Llanelli wedi bod yn bwysig i fi."

Mae Beryl Morgan, 88, hefyd yn cael medal am ei gwaith gwirfoddol yn ardal Wrecsam.

"Yr hyn dwi wedi bod yn ei wneud fwyaf yw trefnu trafnidiaeth i gleifion i fynd i apwyntiadau ysbyty - yn enwedig yng nghefn gwlad," meddai.

"Mae'r cyfan wedi bod yn bleser pur.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy anrhydeddu am y gwaith ond rwy'n diolch i'r sawl a wnaeth fy enwebu."

Mae disgwyl i'r rhai sydd wedi'u hanrhydeddu dderbyn eu medalau cyn diwedd y flwyddyn.