Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd: Urddo Gerald Davies yn farchog

Dywed Gerald Davies ei fod yn "emosiynol iawn" o gael ei urddo'n farchog
- Cyhoeddwyd
Mae un o gewri rygbi Cymru, Gerald Davies, a'r seiclwr trac Emma Finucane ymhlith 58 o unigolion sydd wedi eu cynnwys ar restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin eleni.
Mae cyn asgellwr Cymru a'r Llewod, a chyn-lywydd Undeb Rygbi Cymru, yn cael ei ddyrchafu'n farchog am ei wasanaethau i'w gamp a'i waith elusennol.
Ar ddiwedd blwyddyn o lwyddiant eithriadol mae'r seiclwr o Gaerfyrddin - y Gymraes gyntaf erioed i ennill tair medal mewn un Gemau Olympaidd ac enillydd gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol - yn derbyn MBE.
Mae unigolion eraill ar draws Cymru yn cael eu hanrhydeddu am gyfraniadau arbennig i'w meysydd penodol, gan gynnwys am waith gwirfoddol a chymunedol.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn o fedalau ac anrhydeddau i'r seiclwr trac Emma Finucane
Fe gynrychiolodd Gerald Davies ei wlad rhwng 1966 a 1978, gan ennill tair Camp Lawn.
Fe deithiodd gyda'r Llewod yn 1968 a 1971 gan chwarae mewn pum gêm.
Mewn ymateb i'w anrhydedd diweddaraf, dywedodd ar raglen Dros Frecwast: "Mae'n syndod mawr i fi. Mae'n rhyfedd fod pobl yn meddwl mod i'n deilwng o'r fath anrhydedd.
"Dwi'n teimlo'n emosiynol a hefyd ar achlysur fel hwn, mae geiriau yn anigonol.
"Wrth feddwl am hynny, pa mor bwysig yw e i gael cefnogaeth pobl yn y cefndir dros y blynydde, yn enwedig teulu.
"Mae'n sylweddol i gyrraedd y nod ond chi ddim yn neud hynny ar ben eich hunain."

Sabrina Fortune gyda medal aur yr enillodd yng Ngemau Paralympaidd 2024 ym Mharis
Athletwr arall ar y rhestr yw'r taflwr pwysau Paralympaidd o Lannau Dyfrdwy, Sabrina Fortune.
Enillodd fedal aur yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis ym mis Medi, ac mae wedi ennill teitl pencampwr byd deirgwaith.
"Dwi'n ofnadwy o falch, wir wedi synnu a jest wedi gwirioni," dywedodd wrth BBC Cymru.
"Ro'n i isio rhedeg o gwmpas y gegin a ffonio pawb!
"Dyma'r tro cynta' yn ein teulu ni i rywun fod ar y rhestr anrhydeddau... ma' hynna'n wirioneddol dda ac yn gymaint o hwyl!"

Mae Alun Michael ymhlith y Cymru sy'n derbyn OBE
Mae Alun Michael - prif weinidog cyntaf Cymru wedi datganoli - yn derbyn OBE.
Mae'n cael ei anrhydeddu am ei wasanaeth i ddiogelwch cyhoeddus yn sgil ei gyfnod fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.
Dywedodd bod yr anrhydedd "yn teimlo'n neis i fi, ac i'r teulu wrth gwrs - ond y cydweithio ydi'r peth mwya' pwysig i fi."

Am ei gwasanaethau i fenywod mewn busnes ac i elusennau mae'r gyfreithwraig o Gaerdydd, Bethan Darwin yn derbyn MBE.
Sefydlodd y rhwydwaith Superwoman Wales i gefnogi menywod busnes, ac mae hi hefyd yn rhoi cyngor cyflogaeth cyfreithiol am ddim ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg.
Roedd clywed am yr anrhydedd, meddai, "yn dipyn o syndod achos roedd e'n anniswgyl", a'i bod wedyn "wedi gorfod meddwl am sbel fach achos [mae'r] gair ymerodraeth yn enw'r wobr yn anghyfforddus".
Ond fe benderfynnodd bod y wobr "yn anrhydeddu'r Superwomen a Supermen i gyd - y bobl sydd wedi cyfrannu at Superwoman ers 2005 – y siaradwyr, y noddwyr, pobl sy' 'di cyfrannu gwobrau raffl neu eu hamser i helpu trefnu a'r cannoedd sydd wedi mynychu a wedi codi dros £100,000 i restr hir o elusennau.
"Mae'r wobr yn anrhydeddu ein gwaith, nid gwaith fi."
Trystan Wyn Lewis yn rhoi blas o'r gwaith trawsnewid gardd hynafol gyda chleifion ar dir Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan sydd wedi arwain at ei enwebu am anrhydedd
Ymhlith y rhai sy'n derbyn anrhydedd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, y BEM, eleni yw Trystan Wyn Lewis o Gaernarfon.
Fe gafodd ei enwebu am y ffoedd y mae'n helpu gwella iechyd a lles cleifion ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd.
Yn ei amser ei hun, mae wedi datblygu projectau sy'n galluogi cleifion a staff i elwa o fannau gwyrdd safleoedd fel Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan.
Ers pedair blynedd, mae wedi arwain y gwaith o adfywio gardd hynafol yr ysbyty.
Dywedodd ei bod "yn fraint i dderbyn yr anrhydedd ar ran y grŵp sy'n dod yma i arddio bob w'sos".

Mae Richard Jones wedi treulio "miloedd o oriau" yn rhoi cymorth meddygol ar ran Frigâd Ambiwlans Sant Ioan Cymru
Wedi 23 o flynyddoedd o wirfoddoli gyda Brigâd Ambiwlans Sant Ioan Cymru, mae Richard Jones o Lanelli yn derbyn MBE.
Dywed y brigâd ei fod wedi "treulio miloedd o oriau yn gofalu am eraill", wedi ymateb i 120 achos o ataliad ar y galon ac ymateb, ar gyfartaledd, i 100 o achosion bob blwyddyn ble mae bywyd yn y fantol.
Mae'r anrhydedd, medd Mr Jones, "yn hysbyseb da" i waith y brigâd, ac fe ddechreuodd y cyfan "ar y gwaelod gyda chwrs cymorth cyntaf pedair awr".
Erbyn hyn mae'n gyfrifol am drefniadau'r brigad i ofalu am ddiogelwch iechyd degau ar filoedd o bobl, gan gynnwys yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ystod cyngherddau mawr yn Stadiwm Principality Caerdydd.
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2023
Ymhlith yr unigolion eraill sydd wedi cael eu cydnabod mae Francesca Bell o Aberhonddu, sy'n derbyn Medal yr Ymerodraeth am ei chyfraniad i ddatblygu cymunedol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Roedd cael ei hanrhydeddu, meddai, yn "sioc" ond mae hi'n gobeithio y bydd yn "codi ymwybyddiaeth o'r holl bobl yn y gymuned leol sy'n gweithio'n galed i wella pethau i'r amgylchedd ac i bobl".
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens ei bod yn "ysbrydoliaeth i weld y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan gymaint o bobl o ystod enfawr o gefndiroedd".
"Boed eu hangerdd yn y maes chwaraeon, iechyd a lles neu gerddoriaeth a'r celfyddydau, mae eu cyfraniadau yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ein bywydau ni oll a hoffwn i ddiolch bob un ohonyn nhw."