Anaf difrifol i ddyn wedi digwyddiad ar safle Tata

Gwaith dur Tata SteelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 46 oed wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau allai newid ei fywyd ar ôl digwyddiad ar safle gwaith dur ym Mhort Talbot.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r "digwyddiad diwydiannol" yn Tata Steel tua 20:15 nos Iau.

Dywedodd Heddlu'r De fod y dyn wedi ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae'r Awdurdod Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel: "Gallwn gadarnhau bod un o'n gweithwyr wedi bod yn rhan o ddigwyddiad ar ein safle ym Mhort Talbot.

"Fe wnaeth ambiwlans fynychu, ac mae'r person a anafwyd yn parhau yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth.

"Rydym yn dymuno gwellhad llawn a buan iddo."