Methiant IVF: 'Digon oedd digon, allwn i ddim cymryd mwy'

Delyth a RobFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Delyth Morgans Phillips a'i gŵr Rob bellach yn rhieni i Tryfan a Rhodri

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sydd wedi methu â chael plentyn trwy driniaeth IVF wedi rhannu "pa mor anodd a chymaint o siom" yw profiad o'r fath.

Yn ddiweddar mae nifer o sgyrsiau wedi bod am driniaethau ffrwythlondeb wrth i rai o gystadleuwyr rhaglen Traitors ddweud eu bod yn gobeithio ennill arian i dalu am y driniaeth.

"Mae siom methiant IVF dal yn fyw iawn yn fy nghof i a'r gŵr," meddai Delyth Morgans Phillips o Fwlch-llan ger Llanbed.

"Roedd y ddwy driniaeth gawson ni gan y GIG yn aflwyddiannus.

"Fe fuon ni'n hynod o ffodus i gael triniaeth breifat lwyddiannus wedyn a chael Tryfan, ond yna siom eto wrth i ni fethu â chael ail blentyn ar IVF wedi sawl triniaeth."

cyffuriau IVFFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y cyffuriau roedd yn rhaid i Delyth eu cymryd tra ar driniaeth IVF

Ychwanegodd: "Yn fy arddegau un uchelgais o'dd 'da fi o'dd priodi a setlo a bod yn fam.

"Bu'n siwrne anodd i gael Tryfan ond wrth feddwl am ail blentyn ro'n i wedi meddwl y bydden ni'n llwyddo'n syth gan bod y driniaeth breifat - oedd ychydig yn wahanol - wedi gweithio'n syth tro diwethaf.

"Ond na'th hi ddim gweithio - ac o'dd e'n deimlad o siom a thywyllwch, ac ro'n i'n teimlo ein bod wedi'n dadrithio.

"Dyma drio eto ac yna wedi'r methiant hwnnw trio embryo wedi'i rewi - ond hwnnw'n methu hefyd a gan bo' fi o gwmpas 40 ro'n i'n gwybod bod oedran yn fy erbyn i a dyma roi'r gorau iddi.

"Do'n i ddim am roi fy hunan drwy ragor o boen a'r teimlad yna o fethiant eto."

25-32% yn llwyddiannus

Mae llwyddiant triniaeth IVF yn ddibynnol ar lawer iawn o ffactorau ond ar gyfartaledd mae'n llwyddiannus i 32% o ferched o dan 35 ac i 25% o ferched rhwng 35 a 37.

Lle mae angen clinigol, dywed Llywodraeth Cymru bod modd i fenywod gael dau gylch o IVF am ddim o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae nifer o feini prawf.

Sarah a MarcFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Sarah a Marc o Brestatyn bedair triniaeth IVF aflwyddiannus

Bu'n rhaid i Sarah a Marc o Brestatyn fynd yn breifat hefyd am fod gan Marc blant o berthynas arall, ond ar ôl gwario miloedd o bunnau, aflwyddiannus fu pedair triniaeth IVF.

"Fe wnes i feichiogi ddwywaith ond colli'r plant yn gynnar, ac anghofia i fyth y profiad o orfod nodi ar ddarn o bapur mai fi oedd mam y babi," meddai Sarah wrth siarad â Cymru Fyw.

"Mae'r driniaeth yn anodd iawn - yr aros i ddechrau i weld faint o embryos sydd yna ac yna gweld os oes yna feichiogrwydd.

"Dwi wedi cadw llun o bob dim - yr embryos a'r profion beichiogrwydd positif ac mi wnes i hyd yn oed enwi'r embryos.

"Ond digon oedd digon, allwn i ddim cymryd mwy. Roeddwn i'n teimlo mor isel a dwi'n gredwr cryf fod pethau yn digwydd am reswm.

"Ond fy nghyngor i yw bod angen cyfnod i alaru - gall hynny fod yn flwyddyn neu ddwy."

Wedi seibiant fe fabwysiadodd Sara a Marc ferch fachFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Wedi seibiant fe fabwysiadodd Sara a Marc ferch fach

Wedi seibiant fe fabwysiadodd Sarah a Marc ferch fach - "ac rydyn ni'n hynod o hapus".

"Roedd o'n bwysig i gael y seibiant yna gan fod mabwysiadu yn broses hollol wahanol - ond hefyd dydan ni byth eisiau i'n merch ni feddwl ein bod wedi ei mabwysiadu hi am ein bod wedi methu cael plant ein hunain.

"Mae wedi bod yn brofiad gwych - dwi'n meddwl mai dim ond y noson gyntaf yna oedd hi'n ddagreuol.

"'Da ni wastad wedi bod yn agored ynglŷn â'r ffaith ei bod wedi cael ei mabwysiadu a 'da ni wrth ein bodd yng nghwmni ein gilydd."

teulu DelythFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Ry'n ni'n un teulu wedi blynyddoedd ddigon anodd," medd Delyth Morgans Phillips

Cyn triniaeth IVF roedd Delyth a Rob wedi ystyried mabwysiadu, ac mae Delyth yn pwysleisio nad ydyn nhw'n meddwl am fabwysiadu fel rhywbeth eilradd.

"Wi hefyd ddim am eiliad eisiau awgrymu nad oedd Tryfan yn ddigon i ni," meddai.

"Mae Tryfan yn ardderchog ac ro'dd ein bywydau ni'n llawn, ond ro'n i'n teimlo y licen ni gael mwy o blant.

"Yng ngwanwyn 2020 felly dyma ddechrau ar y broses fabwysiadu, ac mae honna hefyd yn siwrne - lot o lan a lawr, siom y tro hwn hefyd, a rhwystredigaethau a thywyllwch.

"Ond wedi lot fawr o gyfarfodydd a hyfforddiant dyma Rhodri yn cyrraedd - yn fachgen ychydig dros ei 18 mis."

teulu DelythFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dwi'n gweld y byd drwy lygaid hollol wahanol a ddim yn cymryd dim yn ganiataol wedi'r siwrne i gael y plant, medd Delyth Morgans Phillips

"O'dd yr haf cyntaf 'na yn anodd ofnadw'," ychwanegodd Delyth.

"O'n i'n cwestiynu o'n i wedi 'neud y peth iawn gan bod gen i ddau blentyn anhapus - Rhodri newydd ddod aton ni a byd Tryfan wedi newid yn llwyr.

"Ro'dd e'n gyfnod lle o'n i'n cwestiynu fy hun fel merch, mam, gwraig a Christion - ond wedi amser a'r amynedd rhyfeddaf, ni wedi dod mas yn y pen draw a ni'n uned deuluol.

"Mae'r ddau fachgen yn frodyr a dwi'n fwy na gofalwraig i Rhodri - dwi'n fam iddo.

"Fy nghyngor i yw nad yw'r bond 'na yn digwydd yn syth ac o gael cyfnod ddigon anodd ar adegau dwi'n credu bod fi'n fam lot mwy amyneddgar a charedig.

"Dwi hefyd yn gweld y byd drwy lygaid hollol wahanol a ddim yn cymryd dim yn ganiataol."

Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.