'Ofn rhoi'r gwres ymlaen oherwydd mesurydd gwallus'

Diana Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Diana Bowen, 87, yn talu cannoedd o bunnau am nwy bob mis

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes 87 oed yn dweud ei bod hi wedi byw mewn cartref “rhewllyd” drwy’r gaeaf, am ei bod hi ofn troi’r gwres ymlaen oherwydd amheuon dros fesurydd nwy gwallus.

Oherwydd ei phryderon mae Diana Bowen o Langynwyd, Penybont-ar-Ogwr, wedi cyfyngu ei hun i un ystafell o fewn ei thŷ, gan ddefnyddio gwresogydd a blanced trydan i gadw’n gynnes.

Er hynny, mae hi wedi parhau i dalu’r bil nwy o gannoedd o bunnau’r mis am ei bod hi “ofn” beth fyddai’n digwydd fel arall.

Dywedodd ei chyflenwyr, Octopus Energy, fod mesurydd Mrs Bowen wedi bod yn "gweithio'n iawn" a bod ei defnydd ynni yn gyson â blynyddoedd eraill, ond eu bod bellach wedi gosod teclyn newydd yn ei chartref a dileu’r ddyled oedd ganddi.

'Mewn sioc a ddim yn gwybod beth i wneud'

Dywedodd Mrs Bowen fod ei phroblemau wedi dechrau ym mis Mehefin y llynedd, pan wnaeth balans ei chyfrif gyrraedd £600 er y tywydd poeth.

Parhau wnaeth y biliau misol uchel i fisoedd y gaeaf, a phan gysylltodd hi gydag Octopus Energy fe ddywedon nhw y byddai’n costio £200 arall iddi petai prawf yn dangos nad oedd problem gyda’r mesurydd.

“Ro’n i mewn sioc a ddim yn siŵr beth i wneud,” meddai.

Yn y diwedd fe roddodd orau i ddefnyddio unrhyw beth oedd yn defnyddio nwy yn ei chartref, er mwyn ceisio cyfyngu ar y biliau.

“Mae wedi effeithio ar sut fi’n siopa a bwyta, achos o’n i’n benderfynol o beidio defnyddio’r hob nwy,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni bellach wedi dileu dyled bresennol Ms Bowen

Roedd cyfyngu ei hun i un ystafell, gan orfod defnyddio teclynnau trydan i’w chadw’n gynnes, hefyd yn brofiad annymunol.

“Fi’n casáu e, fi methu bod yn gyfforddus yn fy nhŷ fy hunan nawr... mae’n teimlo fel bod cyfrifiadur yn rheoli fi,” meddai.

“Fi’n siŵr bod ‘na bobl mewn sefyllfa waeth na fi hefyd. Fi’n lwcus achos fi’n eitha’ penderfynol ac wedi herio nhw.

“Ond mae rhai pobl hŷn fy oed i sydd falle fwy bregus, ac mae’n rhaid fod e mor anodd iddyn nhw.”

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Martin Bowen, mae angen i gwmnïau ynni feddwl mwy am eu “dyletswydd o ofal” tuag at gwsmeriaid fel ei fam

Dim ond ym mis Ionawr y sylweddolodd teulu Mrs Bowen pa mor wael oedd y sefyllfa wedi mynd, gyda llwydni erbyn hynny’n dechrau ymddangos ar waliau.

“'Nes i ddweud ‘Mam, alli di ddim byw fel hyn, rhaid i ti roi’r gwres ymlaen’, ac roedd hi’n gwrthod yn blaen,” meddai ei mab Martin.

“Mae unrhyw sydd gyda mam oedrannus fel fi yn gwybod pa mor benderfynol mae’n gallu bod, a pha mor ofnus ydyn nhw o’r biliau.”

'Tebyg i sgandal yr is-bostfeistri'

Fis diwethaf fe wnaeth ffigyrau gan Adran Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y DU awgrymu bod bron i bedwar miliwn o fesuryddion clyfar ym Mhrydain o bosib ddim yn gweithio’n iawn.

Ond yn ôl Ynni Clyfar GB, sefydliad di-elw sy'n pwysleisio manteision mesuryddion clyfar, mae bron i 35 miliwn ohonyn nhw ym Mhrydain bellach a'r "rhan helaeth" yn gweithio fel y dylen nhw.

Er bod Diana Bowen wedi cael mesurydd newydd bellach, mae hi dal yn aros i weld a fydd hynny’n gwneud gwahaniaeth i’w bil nesaf – ac am unrhyw gydnabyddiaeth fod y teclyn oedd yno gynt yn wallus.

Yn ôl Martin Bowen, mae angen i gwmnïau ynni feddwl yn galetach am eu “dyletswydd o ofal” tuag at gwsmeriaid.

Ychwanegodd fod tebygrwydd rhwng y broblem hon a sgandal yr is-bostfeistri, ble nad oedden nhw’n ymwybodol pa mor eang oedd y gwallau yn eu system gyfrifiadurol.

“Rhaid bod pedair miliwn [o fesuryddion clyfar] yn golygu bod cymaint o bobl wedi cael yr un broblem â Mam, a fi ddim yn siŵr os oedd unrhyw un yn ymwybodol fod ganddyn nhw’r un broblem,” meddai.

“Ac rwy’n flin am hynny, achos dylai hyn fod wedi cael ei sortio cyn y tywydd oer dros y gaeaf.”

Y cwmni wedi dileu'r ddyled

Yn gynharach eleni fe wnaeth sylfaenydd Octopus Energy, Greg Jackson gydnabod mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol bod problemau gydag unedau arddangos diffygiol ar gyfer mesuryddion clyfar, gan ddweud bod rhai “mor wael”.

Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd Octopus Energy fod hen fesurydd Mrs Bowen a’r un newydd “yn gweithio’n iawn”, ond y bydden nhw’n profi’r teclyn ymhellach.

“I sicrhau nad yw Diana yn poeni am ddefnyddio ei gwres yn y cyfamser, rydyn ni wedi dileu’r ddyled o £305 yn ei chyfrif a gosod ei balans yn ôl i sero,” meddai llefarydd.

Ychwanegodd y cwmni eu bod wedi cynnig blanced trydan iddi, yn ogystal â theclyn Octopus Home Mini i fesur defnydd o ynni sydd “yn fwy dibynadwy” na theclynnau IHD mewn cartrefi eraill.

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor i bobl sy’n wynebu problemau gyda’u mesuryddion, ac yn dweud y dylai cwsmeriaid gysylltu gyda’r Ombwdsmon Ynni os nad oes datrysiad o fewn wyth wythnos i gysylltu gyda’r cwmni ynni.

“Mae mesuryddion clyfar yn gallu bod yn fuddiol iawn,” meddai Gillian Cooper, Cyfarwyddwr Ynni Cyngor ar Bopeth.

“Ond pan mae pethau’n mynd o’i le rydyn ni’n gwybod ei fod yn gallu bod yn rhwystredig iawn i gwsmeriaid ynni, boed o’n fil uwch na’r disgwyl neu pan nad yw’r teclyn yn cysylltu.”

Ychwanegodd: “Dylai Llywodraeth y DU sicrhau’n glir bod cwsmeriaid yn cael eu gwarchod. Ac mae angen i Ofgem ddwyn cwmnïau ynni i gyfrif os yw pobl yn ei chael hi’n anodd cael yr help sydd ei angen arnyn nhw.”

Dywedodd Rachel Bowen, cyfarwyddwr polisi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, y gallai rhai cwsmeriaid bregus gael eu “heffeithio’n ddifrifol” gan fesuryddion sydd ddim yn gweithio.

“Mae’n rhaid i gyflenwyr ynni ddeall anghenion pobl hŷn sy’n wynebu risg o filiau ynni uwch, a sicrhau cefnogaeth fel nad yw pobl yn canfod eu hunain yn wynebu biliau anfforddiadwy, gorfod gwario llai ar hanfodion eraill i gael dau ben llinyn ynghyd, neu beri risg difrifol i’w hiechyd.”

Pynciau cysylltiedig