Nyrs yn cychwyn busnes er mwyn helpu i dalu biliau a 'joio bywyd'

Elin Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan rhai pobl eu amheuon ynglŷn â sefydlu busnes yn ychwanegol i swydd arferol, meddai Elin Davies, sy'n benderfynol o'u profi nhw'n anghywir

  • Cyhoeddwyd

Ennill digon o arian i yrru Porsche yw uchelgais Elin Davies.

Ar hyn o bryd, mae'r nyrs o Sir Gaerfyrddin yn derbyn incwm ychwanegol trwy fusnes ffotograffiaeth a gweithio fel cynghorydd teithio.

Mae Elin, o Ben-y-groes, yn gorfod ennill cildwrn ar ben ei chyflog nyrsio er mwyn gallu talu costau byw a sicrhau bod digon yn weddill i fwynhau.

Mae cyfleoedd i ennill incwm ychwanegol - neu 'side hustle' - wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig gyda nifer o blatfformau digidol yn cynnig cyfleoedd newydd.

Fe newidiodd y rheolau cofrestru treth ar incwm ychwanegol eleni, ond mae'r hawl i ennill £1,000 y flwyddyn yn ddi-dreth yn parhau.

Mae gan Elin, 27, gyfrifydd sy’n gyfrifol am brosesu unrhyw waith papur treth.

Ond ar hyn o bryd, nid yw ei henillion yn ddigon i orfod talu treth, meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw busnes ffotgraffiaeth Elin ddim wedi dechrau gwneud elw eto oherwydd ei bod hi wedi ail-fuddsoddi ei hennillion i brynu offer

Ers blwyddyn a hanner, mae Elin wedi sefydlu busnes ffotograffiaeth i gymryd lluniau o bobl gan gynnwys rhai priodasau.

Mae hi hefyd yn helpu i fwcio gwyliau i bobl trwy weithio fel cynghorydd teithio.

"Amser dechreuais i, nag oeddwn i’n meddwl gwneud lot o arian ychwanegol ond ers i’r blwyddyn diwethaf mynd yn ei flaen, nes i sylweddoli bod fy swydd nyrsio…mae fe’n gwneud digon ond fi moyn gwneud bach mwy fel bod fi’n gallu joio fy hunain hefyd. Fi ddim jyst eisiau byw o ddydd i ddydd.

"Fi moyn bod mwy gyda fi yn y boced fel bo' fi’n gallu gwneud beth fi moyn pryd fi moyn."

Mae’r cyfrifydd, Janet Collins, wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n gofyn am gyngor treth oherwydd eu bod nhw wedi dechrau busnes ar yr ochr er mwyn ennill incwm ychwanegol dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae llawer o bobl yn dod a dweud bod fi wedi dechrau gwneud cardiau yn y tŷ pob penwythnos a gwerthu nhw," meddai.

"Maen nhw'n gofyn 'pryd mae angen i fi ddweud wrth gyllid y wlad be' fi’n gwneud? A pryd mae angen i fi ddechrau talu treth?'.

Mae rhywfaint o ddryswch wedi codi yn ddiweddar ynglŷn â'r sefyllfa talu treth i bobl sy'n ennill incwm sydd ar ben eu cyflog arferol.

Cafodd rheolau newydd ar gyfer cofnodi treth incwm ychwanegol eu cyflwyno gan yr awdurdod treth Prydeinig (HMRC) ar ddechrau 2024.

O dan y rheolau newydd mae platfformau digidol fel eBay, Vinted ac Airbnb - sy'n boblogaidd ymysg pobl sy'n ceisio ennill incwm ychwanegol - yn gorfod casglu manylion gwerthiant ac incwm defnyddwyr y platfformau.

Ond er fod y rheolau cofnodi manylion wedi newid, does dim newidiadau i faint o dreth mae angen i bobl dalu.

Disgrifiad o’r llun,

Cyngor y cyfrifydd Janet Collins yw i wneud ymchwil cyn mentro sefydlu busnes

"Mae cyllid y wlad yn rhoi £1,000 yn erbyn incwm felly gallwch chi ddweud, reit fi wedi ennill £1,000 a mae lwfans o £1,000 gen i, felly does dim treth gyda fi i dalu," ychwanegodd Ms Collins.

"Ond os ydych chi'n ennill mwy na hynny, yna dylech chi gofrestru gyda chyllid y wlad a dylsech chi baratoi cyfrifon.

"Does dim angen i'r cyfrifon fod yn gymhleth - gallai fe jyst dweud; incwm, gwariant, proffid neu golled.

"Efallai bydd rhai yn gwneud colled yn y flwyddyn gyntaf achos bod nhw'n gorfod prynu offer ac yn y blaen."

Pynciau cysylltiedig