'Mynd i ganolfan chwarae yn drît oherwydd costau byw'

Canolfan chwaraeFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog canolfan chwarae yn dweud mai "goroesi" mae'r busnes, gyda chostau'n cynyddu a phobl yn gwario llai yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mae'r argyfwng wedi'i gwneud hi'n anodd i rieni gyda phlant ifanc yn enwedig, gyda chost dyddiau allan a gweithgareddau yn gallu bod yn sylweddol.

Dywedodd Jason Vann, sy'n rhedeg y canolfan chwarae Planet Play gyda'i wraig yn Nhowyn, Sir Conwy, fod hyn yn cael sgil-effaith ar fusnesau ond bod yn rhaid dod o hyd i ffyrdd i helpu teuluoedd.

Ers symud ei fusnes i Dowyn o'r Rhyl tair blynedd yn ôl, mae Mr Vann yn dweud fod Planet Play wedi cael enw da yn yr ardal am gynnig adloniant cost-effeithiol i blant ifanc.

I ddenu mwy o deuluoedd, mae'r safle yn cynnig mynediad a chinio i blant am £8.50, yn ogystal â chynlluniau talu "hyblyg" ar gyfer achlysuron fel partïon pen-blwydd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni'n gweld pobl oedd yn arfer dod yma'n rheolaidd yn gwneud o fwy fel trît y dyddiau yma," meddai Jason Vann

"'Da ni'n trio cadw'r prisiau mor isel â phosib, oherwydd 'da ni'n deall y pwysau sydd ar rieni - yn enwedig rhieni sydd â mwy nag un plentyn," meddai Mr Vann.

"Mae tripiau a gweithgareddau i deulu o bedwar, er enghraifft, yn gallu bod yn hynod o ddrud a 'da ni'n trio cynnig opsiwn sydd ddim yn torri'r banc.

"'Da ni'n gweld pobl oedd yn arfer dod yma'n rheolaidd yn gwneud o fwy fel trît y dyddiau yma.

"'Da ni'n cael llawer o deuluoedd mawr yn dod oherwydd bo' nhw'n gwybod eu bod nhw'n gallu aros am mor hir â maen nhw isio, a bod eu plant yn cael rhywbeth i fwyta hefyd. Mae'n ddigon iddyn nhw am y diwrnod wedyn.

"Mae'r cynnig o chwarae a chinio wedi bod yn boblogaidd iawn. Dyna'r un mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd amdano.

"Mae 'na bwysau ar rieni hefyd pan mae'n dod at bethau fel partïon pen-blwydd, a dyna pam 'da ni'n cynnig cynlluniau talu sy'n benodol i'r rhiant.

"Maen nhw'n talu deposit o £30 o flaen llaw ac wedyn yn talu mewn rhandaliadau mewn ffordd sy'n gweithio iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jason Vann mai "goroesi" mae Planet Play yn Nhowyn

Er bod y cynigion wedi bod yn boblogaidd gyda rhieni, yn ôl Mr Vann mae'n "linell fain rhwng agor a chau" i'r busnes, oherwydd bod costau'n dal i godi.

Mae Planet Play wedi'i leoli mewn hen eglwys, sy'n gostus i gadw'n gynnes yn y gaeaf yn enwedig, meddai, ac mae'n rhaid cwtogi oriau'r ganolfan ar amseroedd distaw er mwyn sicrhau nad yw'n gwneud gormod o golled.

"Dim ond fi a fy ngwraig sy'n gweithio yn y ganolfan. Fedran ni ddim fforddio staff o gwbl a 'da ni methu deall i ddeud y gwir sut y mae rhai canolfannau yn gwneud hynny," meddai Mr Vann.

"'Da ni wedi gweld cymaint o ganolfannau yn cau oherwydd eu bod nhw methu fforddio'r costau.

"Goroesi ydan ni yma. 'Da ni byth am fod yn gyfoethog trwy wneud hyn, ond drwy gario 'mlaen i gyllido a chadw llygad ar y manylion bach, fyddwn ni'n iawn gobeithio."

'Gwerthu fy nghar a fy ngemwaith'

Dywedodd Laura Stokes, 33 o Bontypridd, ei bod hi'n anodd gwneud pethau sy'n hwyl i'w merch pan mae hi i ffwrdd o'i gwaith.

"Mae popeth wedi mynd yn ddrytach a dwi'n gweithio'n rhan amser, felly tra dwi i ffwrdd gyda hi dwi'n hoffi llenwi'r amser â phethau hwyl i'w gwneud," meddai.

"Ond mae'n costio dipyn, hefo prisiau'n mynd i fyny."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Laura Stokes o Bontypridd fod "popeth wedi mynd yn ddrytach"

Dywedodd mam arall o Gaerdydd, oedd am aros yn ddienw, ei bod hi'n teimlo'n ffodus i gael to uwch ei phen.

"Dwi 'di gwerthu fy nghar a fy ngemwaith i roi'r gorau i fy mhlant," meddai.

"Dwi'n meddwl fod y llywodraeth angen camu fewn. Dylen ni ddim bod mewn sefyllfa eto ble dyw'n plant ni methu cymdeithasu.

"Dyw rhieni methu dysgu bob dim i'w plant adref oherwydd maen nhw'n gweithio gormod."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Talia McMillian yn rhedeg cyfrif Instagram yn argymell pethau i wneud gyda phlant

Mae Talia McMillian wedi dechrau cyfrif Instagram yn argymell pethau i wneud gyda phlant, o lefydd sy'n rhad ac am ddim i lefydd mwy costus.

“Mae yna gymaint o deithiau cerdded a llefydd sydd â mynediad am ddim sy’n hyfryd, ond 'da ni’n cael llawer o law felly mae pawb yn chwilio am rywbeth dan do,” meddai.

“Wedi dweud hynny, mae mwyafrif y llefydd 'da ni’n ymweld â nhw nawr yn codi tâl am barcio, neu mae ganddyn nhw gaffi, felly 'da chi’n gwybod eich bod chi’n mynd i fod yn gwario rhywbeth.

“Dwi wedi bod yn ymweld â llawer o’r un llefydd ers blynyddoedd ac mae’n wallgof gweld y gwahaniaeth mewn prisiau nawr, ac mae gennych chi rai sy’n codi tâl am oedolion a hyd yn oed babanod ifanc iawn.”

'Buddsoddi dros £100m'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant fforddiadwy o safon, ac yn buddsoddi dros £100m trwy ein rhaglenni Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Plant.

“Mae ein Cynnig Gofal Plant hefyd yn darparu 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn, ar gyfer plant tair a phedair oed rhieni cymwys, gan gynnwys y rhai mewn addysg neu hyfforddiant.

"Rydym hefyd yn cefnogi'r sector gofal plant drwy fuddsoddi £70m mewn grantiau cyfalaf i ddarparwyr, yn ogystal â chyllid ar gyfer hyfforddi a datblygu staff."

Pynciau cysylltiedig