Anrhydeddu chwaraewr ac hyfforddwr rygbi arloesol
- Cyhoeddwyd
Mae Roy Francis yn ddyn sydd wedi cael ei anghofio i raddau helaeth y tu hwnt i'w filltir sgwâr, ond roedd yn chwaraewr rygbi ac yn hyfforddwr arloesol.
Dyma'r dyn du cyntaf i chwarae i dîm rygbi'r gynghrair Prydain.
Ar ôl gorffen chwarae, Roy Francis oedd prif hyfforddwr du cyntaf tîm proffesiynol haen uchaf gwledydd Prydain - roedd yn rheoli dynion gwyn ar adeg pan fyddai hynny wedi bod yn annerbyniol mewn rhannau eraill o gymdeithas.
Mae ei deulu a charedigion rygbi'r gynghrair wedi mynd ati i godi ymwybyddiaeth am fywyd a llwyddiannau Roy Francis.
Ddydd Sadwrn fe ddadorchuddiwyd cofeb, er anrhydedd iddo, yn ei dref enedigol sef Brynmawr ym Mlaenau Gwent.
Roedd aelodau o'i deulu a sêr o fyd rygbi'r gynghrair yn bresennol - yn eu plith Jonathan Davies.
"Rwy'n meddwl bod ei stori wedi diflannu," meddai Ian Haywood, sylfaenydd prosiect creu'r gofeb.
“Mae cymaint o waith ymchwil wedi’i wneud yn ddiweddar fel bod y stori’n mynd yn fwy ac yn fwy - ac wrth i mi ddarllen mwy amdano mae hanes ei fywyd wedi dod yn fwy arbennig.
"Y peth sy'n hynod am Roy Francis, yw mai ef oedd y cyntaf i wneud cymaint o bethau er gwaethaf cymaint o rwystrau, yn enwedig hiliaeth."
Pwy oedd Roy Francis?
Ganwyd yn 1919;
Chwarae rygbi'r undeb i Frynmawr ac yna chwarae rygbi'r gynghrair i Wigan yn 1936;
Ymuno â Barrow yn 1939;
Gwasanaethu fel un a oedd yn dysgu hyfforddiant corfforol yng ngogledd Lloegr yn ystod y rhyfel;
Y dyn du cyntaf i gael ei ddewis i gynrychioli Prydain yn 1947;
Prif hyfforddwr Hull - pencampwyr 1956 a 1958;
Prif hyfforddwr Leeds - enillwyr Cwpan Her 1968;
Ar ôl cyfnod yn hyfforddi yn Awstralia, dychwelodd i Leeds ac ennill yr Uwch Gynghrair yn 1974;
Ymddeol yn 1977, a bu farw yn 1989.
Yn wreiddiol o Frynmawr, bu'n serennu dros ei dref enedigol yn rygbi'r undeb cyn symud, yn 17 oed, i Wigan - roedd yn un o'r dynion du cyntaf i chwarae rygbi'r gynghrair.
Wedi cyfnod yn Barrow ac ar ôl y rhyfel fe'i dewiswyd i gynrychioli Prydain - y dyn du cyntaf i wneud hynny ac fe sgoriodd ddau gais yn erbyn Seland Newydd.
Daeth ei yrfa ar y cae i ben yn 1955 tra'n chwaraewr ac yn hyfforddwr yn Hull - roedd wedi sgorio 229 cais mewn 356 o gemau.
"Mae'n debyg y byddai wedi chwarae mwy ond fe ddaeth yr Ail Ryfel Byd - felly daeth y chwarae i ben am bum mlynedd," medd Mr Haywood.
"Ond yn ffodus, cafodd swydd yn y fyddin yn hyfforddi milwyr i fod yn ddigon ffit i ymladd. A dyma lle dysgodd Roy Francis ei dechnegau hyfforddi fu mor llwyddianus ar ôl y rhyfel."
Roedd ei yrfa fel prif hyfforddwr gystal â'i gyfnod ar y cae, gan ennill y Bencampwriaeth i Hull yn 1956 a 1958, a'r Cwpan Her i Leeds yn 1968 - gan ddefnyddio technegau hyfforddi oedd yn arloesol ar y pryd.
"Roedd yn arfer ffilmio gemau a sesiynau hyfforddi fel bod chwaraewyr yn gallu gweld beth oedden nhw'n ei wneud yn iawn neu'n anghywir," ychwanegodd Mr Haywood.
"Roedd ymhell o flaen ei amser."
"Mae ganddyn nhw dronau nawr yn hedfan o gwmpas ar gaeau ymarfer - a ddechreuodd, yn amlwg, gyda Roy a'i gamera tra'n hyfforddi yn Sydney.
"Roedd yna hefyd ddeiet unigol i chwaraewyr a byddai'n dweud wrthyn nhw fod angen iddyn nhw fwyta bwydydd gwahanol.
"Byddai hyd yn oed yn mynd i dai'r chwaraewyr i wneud yn siŵr eu bod yn gwrando arno."
30 mlynedd ers ei farwolaeth mae Roy Francis yn dechrau cael ei gydnabod yn iawn.
Yn 2018 cafodd le yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.
Eisoes mae cerfluniau o'i gyd-chwaraewyr, Billy Boston a Clive Sullivan, wedi cael eu dadorchuddio yng Nghaerdydd.
I Ian Haywood, mae’n stori a all ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
"Gyda'r gofeb yn cael ei dadorchuddio, gall y plant ysgol sy'n tyfu i fyny edrych ar yr hyn a wnaeth yn ei fywyd. Gall roi rywfaint o uchelgais iddyn nhw allu cyflawni pethau.
"Mae'n sicr yn gwneud i bobl werthfawrogi sut oedd pobl yn byw bryd hynny, a beth ddigwyddodd. Ac mae'n braf ei fod yn dod yn ôl i Gymru."
Pynciau cysylltiedig
- Cyhoeddwyd3 Medi 2016
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022