Lle wedi'r cyfan i fachgen, 4, mewn ysgol Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae teulu wedi cael gwybod bod yna le i'w mab pedair oed mewn ysgol Gymraeg ym mis Medi wedi'r cyfan, yn groes i benderfyniad gwreiddiol Cyngor Powys.
Roedd Lowri a Dylan Wyn Jones, o Groesoswallt, yn y broses o apelio wedi i'r cyngor wrthod eu cais i anfon Ynyr i'r ysgol Gymraeg agosaf i'w cartref - Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, lle mae eisoes yn mynychu'r Cylch Meithrin.
Dywedodd y cyngor yr wythnos hon eu bod wedi dilyn "trefniadau a chod derbyn ysgolion Llywodraeth Cymru" ar ôl derbyn mwy o geisiadau ar gyfer dosbarth derbyn yr ysgol nag sydd o lefydd.
Ond mae'r teulu nawr wedi cael gwybod gan y cyngor bod lle ar gael i Ynyr yn yr ysgol, ble mae ei chwaer chwech oed, Lluan, eisoes yn ddisgybl.
Dywedodd Lowri Jones ddydd Gwener y bydd yna "ddathlu" dros y penwythnos, ond "mae'r frwydr yn parhau" i osgoi trafferthion tebyg i deuluoedd ochr arall y ffin sydd yn yr un sefyllfa.
- Cyhoeddwyd25 Ebrill
Fe ddywedodd y teulu wrth BBC Cymru ganol yr wythnos bod methu â chael lle ar gyfer Ynyr yn Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant ym mis Medi, wedi torri eu calonnau.
Awgrym y cyngor oedd i'r teulu holi am le mewn ysgol yn Sir Amwythig.
Dywedodd Lowri Jones wrth raglen Dros Frecwast fod 'na "dri o blant wedi cael eu gwrthod ond Ynyr ydy’r unig un sydd eisiau’r addysg drwy gyfrwng y Gymraeg".
Aeth ati i godi ymwybyddiaeth o'u sefyllfa, gan drefnu deiseb i bobl ddangos eu cefnogaeth, ac roedd yng nghanol apelio yn erbyn y penderfyniad.
Ond yna fe ffoniodd rhywun o'r cyngor brynhawn Iau yn cynnig lle i Ynyr wedi'r cyfan, ac wedi i e-bost gadarnhau hynny'n swyddogol, mae'r cynnig wedi cael ei dderbyn.
"'Dan ni wrth ein boddau," dywedodd Lowri Jones brynhawn Gwener, gan egluro ei bod ar ddeall bod lle wedi dod ar gael am mai "ail ddewis" oedd Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn achos plentyn arall oedd wedi cael cynnig lle.
Mae hynny, meddai, yn codi cwestiwn a "ddyle plentyn oedd efo'r ysgol yn ail ddewis fod wedi cael blaenoriaeth dros Ynyr oedd efo hi fel dewis cyntaf".
Ond "beth bynnag y rheswm swyddogol", mae hi'n grediniol bod y gefnogaeth i'w hymgyrch, yn lleol ac yn ehangach, "wedi ychwanegu at y pwyse oedd ar Gyngor Powys i ddeall y sefyllfa ac i ga'l 'chydig o hyblygrwydd".
Ychwanegodd: "'Dan ni 'di bod yn fodlon bod yn gyhoeddus a brwydro a sefyll i fyny dros hyn, fel bod teuluoedd er'ill ddim yn goro bod ofn 'neud hyn yn y dyfodol."
'Rhyddhad mawr' i'w chwaer
Dywedodd bod Ynyr ei hun yn rhy ifanc i lwyr ddeall beth oedd yn mynd ymlaen, ond bod y tro pedol "yn wir ryddhad a llawenydd mawr" i'w chwaer fawr.
"Ma' Lluan yn deall ac wedi bod yn poeni a ma' hyn wir yn ollyngdod iddi hi...
"Oedd hi'n deall pa mor anodd fydde fo petai o wedi mynd i ysgol arall o ran cludiant ac o ran petai o wedi cael addysg Saesneg a hi'n cael addysg Gymraeg..."
Roedd Lluan hefyd, meddai, yn ymwybodol bod ei thad wedi colli ei Gymraeg yn blentyn pedair oed, gan fod dim addysg Gymraeg ar gael iddo yntau yn y 1970au ac "oedd Lluan yn poeni fydde hynny'n digwydd i Ynyr hefyd".
Mae'r e-bost a dderbyniodd Lowri Jones fore Gwener yn amlinellu'r camau ymarferol nesaf nawr bod lle wedi ei sicrhau ar gyfer Ynyr yn Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant ym mis Medi.
Does dim cyfeiriad o gwbl yn y neges, gan dîm derbyniadau gwasanaeth ysgolion Cyngor Powys, at y penderfyniad gwreiddiol i wrthod cais y teulu.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Caiff holl gynigion derbyniadau cynradd ac uwchradd ar gyfer 2024 eu hymgymryd yn unol â’r trefniadau derbyn cyhoeddedig a Chod Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.
"Pan fo’r nifer o geisiadau a dderbyniwn yn fwy na’r nifer derbyn o ddisgyblion, caiff meini prawf gordanysgrifio eu cymhwyso, a chaiff lleoedd eu cynnig yn unol â hynny.
"Pe bai cais am le yn cael ei wrthod, caiff rhieni/gofalwyr eu hysbysu am eu hawl statudol i apelio. Pe byddai lle yn dyfod i fod ar gael, byddai hwnnw hefyd yn cael ei gynnig drwy gymhwyso’r meini prawf gordanysgrifio."
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018
"Mae'r frwydr wedi ei hennill, ond mae'r rhyfel yn parhau," medd Lowri Jones, sy'n rhwystredig bod angen codi llais i gael y maen i'r wal yn eu hachos nhw er traddodiad hir o dderbyn plant Cymraeg o Sir Amwythig yn ysgolion Powys.
"Mae Croesoswallt yn ardal dwf ar gyfer addysg Gymraeg... a mi ddylia [Cyngor] Powys bod yn manteisio ar hynny," dywedodd, yn enwedig os am gyfrannu at ymdrech Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Mae angen 'neud yn siŵr bod meini prawf mynediad Powys yn adlewyrchu hyn, yn adlewyrchu sefyllfa Ynyr a'n sefyllfa ni lle mae angen cymdeithasol plentyn ar gyfer addysg Gymraeg yn cael ei blaenoriaethu."
Ychwanegodd: "Mae datganoli, er bod o wedi bod yn wych ar gyfer Cymru, wedi gwanhau hawliau siaradwyr Cymraeg tu allan i Gymru a falle bod hwn yn gyfle rŵan i edrych ar hynny.
"'Dwi'n gobeithio bod hyn wedi taflu goleuni 'chydig bach ar y probleme sy'n bodoli wrth trio cydfynd â system sydd falle'n anghofio am y Cymry Cymraeg tu allan i Gymru."