£6.6bn mewn hen arian yn parhau heb eu cyfnewid na'u bancio

Mae gwerth £599m o hen bapurau £10 yn parhau mewn cylchrediad
- Cyhoeddwyd
Nid yw £6.6bn mewn hen arian papur wedi eu cyfnewid na'u bancio, er nad yw arian papur £20 a £50 yn gyfreithlon ers mis Hydref 2022.
Mae tua £600m mewn hen arian papur wedi cael eu dychwelyd dros y flwyddyn ddiwethaf, a dywedodd Banc Lloegr y gallai gael ei gyfnewid neu eu rhoi yn eich banc o hyd.
Mae hefyd 70 miliwn o hen ddarnau arian £1 sydd heb eu dychwelyd, yn ôl y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, gyda thua chwe miliwn wedi'u dychwelyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r Bathdy hefyd wedi datgelu bod dros 2.6 miliwn o wyth hen ddarn arian arall wedi cael eu dychwelyd dros y degawd diwethaf, gan gynnwys hanner coron, fflorin (deuswllt), swllt a chwe cheiniog.

Roedd y swllt yn cylchredeg tan ddiwedd 1990, gan ei fod yr un gwerth â'r 5c newydd
Cafodd manylion yr arian sy'n dal mewn cylchrediad neu'n cuddio mewn cartrefi eu datgelu yn dilyn ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru, i Fanc Lloegr ynghylch arian papur a'r Bathdy Brenhinol ynghylch darnau arian.
Dywedodd Banc Lloegr fod 375 miliwn o bapurau arian yn parhau mewn cylchrediad:
109 miliwn o bapurau £5
60 miliwn o bapurau £10
160 miliwn o bapurau £20
46 miliwn o bapurau £50
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae tua £600m mewn hen arian papur wedi cael eu dychwelyd, gan gynnwys miliwn o bapurau £5, dwy filiwn o bapurau £10, 11 miliwn o bapurau £20 a chwe miliwn o bapurau £50.
Mae arian papur wedi'u disodli gan arian plastig, gyda chyfres o nodweddion diogelwch.
Tynnwyd y papur £5 yn ôl ym mis Mai 2017, y papur £10 ym mis Mawrth 2018, a’r papur £20 a £50 ar 30 Medi 2022, ac ers hynny nid ydynt wedi bod yn ddull talu cyfreithiol.

Daeth oes y darn arian crwn £1 i ben am hanner nos ar 15 Hydref 2017
Yn ogystal â'r arian papur, dywedodd y Bathdy Brenhinol - yn Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf ac sy'n eiddo i Drysorlys y DU - nad oedd tua 70 miliwn o hen ddarnau arian £1 wedi'u dychwelyd.
Fodd bynnag, mae tua chwe miliwn wedi'u dychwelyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
O'r 1.6 biliwn sydd wedi'u dychwelyd, roedd tua 1.8 miliwn yn ffug.
Cafodd y darn arian crwn £1 ei ddisodli gan y fersiwn 12 ochr ym mis Hydref 2017, er mwyn mynd i'r afael â ffugio.
Mae'r hen ddarn £1 yn dal i gael ei dderbyn gan Swyddfa'r Post ond ni ellir ei wario mewn siopau.

Mae gan y £50 polymer gyfres o nodweddion diogelwch
Yr hen ddarnau eraill a gafodd eu dychwelyd i'r Bathdy Brenhinol dros y degawd diwethaf, ynghyd â'r nifer a ddychwelwyd a phryd y peidiodd y darn â bod yn arian cyfreithlon, oedd:
Hanner Coron, gwerth 1⁄8 punt, neu ddau swllt a chwe cheiniog – 356,587 wedi'u dychwelyd dros y degawd diwethaf, wedi peidio â bod yn arian cyfreithlon ar 1 Ionawr 1970;
Florin (deuswllt) – 11,716, 30 Mehefin 1993;
Swllt – 43,299, 31 Rhagfyr 1990;
Chwe cheiniog, gwerth 1⁄40 o bunt neu hanner swllt – 771,899, 30 Mehefin 1980;
Tair ceiniog – 99,765, 31 Awst 1971;
Ceiniog – 165,527, 31 Awst 1971;
Hanner ceiniog cyn-ddegol – 153,404, 1 Awst 1969;
Hanner ceiniog degol – 998,466, 31 Rhagfyr 1984.

Darn arian gwerth 1⁄10 o bunt, neu 24 ceiniog, oedd y fflorin neu ddeuswllt
Daeth y £50 polymer - gyda phortread Alan Turing - i gylchrediad ar 23 Mehefin 2021, sy'n golygu bod casgliad cyfan y Banc wedi'i wneud o blastig erbyn hyn.
Er nad yw'r arian papur bellach yn gyfreithiol, byddan nhw bob amser yn cael eu cyfnewid gan Fanc Lloegr.
Eglurodd llefarydd fod "pob papur banc dilys Banc Lloegr sydd wedi ei dynnu allan o gylchrediad yn cadw eu gwerth am byth".
Dywedodd Banc Lloegr mai'r ffordd symlaf a chyflymaf o gyfnewid arian papur "fel arfer fydd eu rhoi i'ch banc".
"Gallwch gyfnewid arian papur mewn rhai o ganghennau Swyddfa'r Post."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023