Cau rhagor o fanciau Cymru yn 'ergyd' ac yn 'frad'

Dwy ddynes mewn bwyty
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Caroline o Gastell-nedd (chwith) nad yw hi'n gwybod beth y bydd yn ei wneud pan fydd y gangen yn cau

  • Cyhoeddwyd

Mae'n "ergyd" ac yn "frad" yn ôl rhai cymunedau yn y de a'r gogledd wrth i fanc Natwest fwrw ymlaen gyda chynlluniau i gau sawl cangen arall yng Nghymru cyn diwedd y flwyddyn.

Bydd 55 o ganghennau yn cau eu drysau ar draws y Deyrnas Unedig eleni, wrth i fanciau mawr symud yn fwy tuag at fancio digidol.

Yn ôl Natwest mae tua 80% o'u cwsmeriaid nhw bellach yn bancio ar-lein, ac wrth gau canghennau maen nhw'n edrych ar bob achos yn unigol.

Ond yng Nghastell-nedd, mae 'na bryderon am effaith cau'r gangen leol.

"Rwy ddim yn gweld yn dda felly y gŵr sy'n 'neud y bancio i gyd, ond fel arfer os i fi moyn arian fydden i'n mynd i'r banc i gymryd arian i ffwrdd, felly sai'n gwybod be fi'n mynd i neud," yn ôl Caroline sydd yn byw yn y dref.

"Mae Castell-nedd wedi bod fel hyn yn ddiweddar, yn dirywio. O'dd pobl yn lico mynd i'r banc i siarad gyda phobl, i gymdeithasu."

Map o fanciau Natwest sy'n cau

Ymhlith y canghennau Natwest fydd yn cau mae Treganna, Cwmbrân, Llangefni, Llanisien, Yr Wyddgrug, Castell-nedd, Abergele, Y Trallwng a Phrestatyn.

Yn ôl ymchwil gan WHICH? mae'r grŵp bancio, sydd hefyd yn rhedeg Royal Bank of Scotland ac Ulster Bank, wedi cau 1,455 o ganghennau ers 2015.

Yn Llangefni dyma'r bedwaredd gangen Natwest i gau ar Ynys Môn ar ôl Caergybi, Porthaethwy ac Amlwch.

Taith i Fangor fydd hi o fis Medi ymlaen i bobl yr ardal felly er mwyn cael mynd i gangen.

"Mae sicr yn ergyd i fusnesau. Mae'n sobor o beth i'r busnesau yma," meddai Ted Thomas, sy'n rhan o fusnes teuluol Siop Cain.

Ted Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cau cangen Llangefni yn cael effaith ar fusnesau, meddai Ted Thomas

"Gyda gwaith ar y pontydd mae'n cymryd diwrnod bron i chi fynd i Fangor ac yn ôl.

"Mae gennych chi 'mond y post rŵan, mae post yn cymryd tri diwrnod i roi pres i mewn yn eich account chi."

Nid Natwest yw'r unig fanc i gau canghennau. Yn ôl ymchwil gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan, mae nifer y canghennau banc sydd ar agor wedi gostwng o bron i 700 i ryw 430 rhwng 2012 a 2022.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn gweld hyn fel rhyw fath o frad mewn gwirionedd," meddai Sioned Williams, aelod Plaid Cymru o'r Senedd.

"Fe ddylai'r banciau mawr yma sy'n gwneud cymaint o elw wasanaethu'r cymunedau sydd wedi bod yn gwsmeriaid ffyddlon iddyn nhw.

"A mae'na hefyd pobl bregus sydd moyn trafod arian parod, mae fe'n bwysig iddyn nhw."

Yn ôl Natwest maen nhw'n "edrych ar bob achos yn unigol" wrth ystyried cau canghennau, gan ychwanegu bod symud tuag at fancio digidol yn cael ei wneud "gyda thrugaredd" gan edrych ar "helpu'r rheiny sy'n hŷn a mwy bregus".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig