'Siom enfawr' cwtogi ar gampau Gemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd
Mae gefeilliaid o Ddinbych sydd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad wedi dweud ei bod yn "siom enfawr" gweld cynifer o gampau yn cael eu hepgor o'r gemau yn 2026.
Fe ddaeth cadarnhad mai Glasgow fydd cartref y Gemau yn 2026, wedi iddyn nhw gamu i'r adwy ar ôl i dalaith Victoria yn Awstralia dynnu nôl oherwydd cost cynnal y digwyddiad.
Ond bydd y Gemau tipyn yn wahanol yn 2026, gyda dim ond 10 camp yn rhan o'r digwyddiad.
Er bod campau megis nofio, athletau a phêl-rwyd wedi eu cynnwys, mae sawl camp heb eu cynnwys - fel hoci, triathlon a thenis bwrdd.
'Breuddwydio mynd i Gemau'r Gymanwlad'
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Angharad Phillips nad oedd y cyhoeddiad yn "sypreis" ar ôl iddi glywed am sefyllfa ddiweddar y gemau.
Er ei bod yn cydnabod bod "penderfyniadau caled wedi ei gwneud," dywedodd bod ei "chalon yn torri dros yr athletwyr".
Fe wnaeth Angharad a'i hefaill Megan gystadlu yn y tenis bwrdd yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi yn 2010 a Glasgow yn 2014, a dywedodd Angharad fod y digwyddiad yn uchelgais i gymaint o athletwyr ifanc.
"Oedden ni'n arfer breuddwydio mynd i Gemau'r Gymanwlad, dyna uchafbwynt ein gyrfa ni," meddai.
"Dwi methu dychmygu pa mor siomedig ydyn nhw".
Roedd ei chwaer Megan yn cytuno fod y penderfyniad yn "siom enfawr".
Dywedodd ei fod yn "siom i unrhyw gamp i ddim cael ei gynnwys, ond yn enwedig chwaraeon fel tenis bwrdd sydd ddim yn aml yn cael ei ddangos ar lwyfan ryngwladol".
Roedd o'r farn bod y penderfyniad i leihau nifer y campau am gael effaith negyddol ar ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i gymryd rhan yn y campau hynny.
Dywedodd mai "gweld Cymru yn chwarae yng Ngemau'r Gymanwlad" oedd yr hyn a ysbrydolodd hi a'i chwaer i ddechrau chwarae tenis bwrdd.
Gemau'r Gymanwlad oedd "yr uchafbwynt, dyna oedd y freuddwyd i ni", meddai.
Pa gampau sydd wedi eu cynnwys?
Athletau a phara-athletau
Nofio a phara-nofio
Gymnasteg
Seiclo trac a phara-seiclo
Pêl-rwyd
Codi pwysau a phara-godi pwysau
Bocsio
Jiwdo
Bowls a phara-bowls
Pêl fasged 3x3 a phêl fasged cadair olwyn 3x3
- Cyhoeddwyd17 Medi 2024
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
Cafodd y Gemau eu cynnal yn Glasgow yn 2014 hefyd, gan gostio dros £540m bryd hynny.
Y tro hwn bydd yn digwydd ar draws pedwar lleoliad gwahanol rhwng 23 Gorffennaf a 2 Awst 2026.
Mae disgwyl i 3,000 o athletwyr o hyd at 74 o wledydd ac ynysoedd y Gymanwlad gystadlu yn y gemau yn 2026.